Cefnogi'r broses o gaffael iaith newydd drwy drochi mewn lleoliad gofal plant
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi’r gofynion wrth gefnogi'r broses o gaffael iaith newydd neu ychwanegol yng nghyd-destun lleoliad gofal plant. Bydd yn eich galluogi i weithio gyda phlant pan fydd iaith y cartref yn wahanol i iaith y lleoliad. Mae'r safon hon yn nodi’r gofynion ar gyfer cyfrannu at drochi ieithyddol a chynnwys teuluoedd, cyfrannu at asesu a chynllunio, a chyfrannu at alluoedd dysgu iaith plant. Mae'r safon hon yn ymwneud â throchi llwyr mewn iaith newydd ac nid yw wedi'i chynllunio i ymdrin â throchi rhannol lle mae iaith newydd neu ychwanegol yn cael ei haddysgu fel rhan o gwricwlwm.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cyfrannu at drochi ieithyddol yn y gweithle
- nodi eich cryfderau a meysydd i'w gwella wrth ddefnyddio ieithoedd trochi drwy adborth gan eraill
- archwilio ag eraill sut i gyflawni unrhyw welliannau yn eich defnydd o ieithoedd trochi
- cefnogi plant i deimlo bod croeso iddynt drwy barchu eu hunaniaeth ddiwylliannol a defnyddio dulliau cyfathrebu llafar a di-eiriau
- cyfathrebu gan ddefnyddio'r iaith drochi wrth ryngweithio â phlant er mwyn sicrhau dealltwriaeth a chysur
- defnyddio arddangosfeydd, adnoddau, a dyfeisiau ac adnoddau digidol i gefnogi’r broses o gaffael iaith
- cefnogi teuluoedd a'u cynnwys yn y prosesau o addysgu iaith i’r plant
- cyfrannu at roi gwybodaeth i’r teuluoedd am gynnydd eu plant
- arsylwi ar sgiliau cyfathrebu a rhyngweithiadau plant yn yr iaith drochi
- cyfrannu at asesiadau drwy drosglwyddo gwybodaeth o arsylwadau a rhyngweithiadau
- cyfrannu at gynllunio a gweithredu gweithgareddau’r cwricwlwm ar gyfer caffael iaith
- ymgynghori ag eraill wrth gynllunio gweithgareddau penodol ar gyfer cefnogi dysgu iaith
- defnyddio cyfleoedd heb eu cynllunio ar gyfer dysgu iaith
- cefnogi plant i gymryd rhan mewn gweithgareddau sydd wedi’u cynllunio yn yr iaith drochi
- annog a dathlu ymdrechion plant wrth ddefnyddio’r iaith drochi
- ailadrodd ac ehangu i gefnogi datblygiad plant
- defnyddio caneuon a rhigymau i gefnogi’r defnydd o’r iaith drochi
- cyfrannu at gasglu adborth gan blant ac eraill i fwydo i mewn i’r prosesau monitro a gwerthuso
- cyfrannu at gofnodion ac adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer caffael iaith newydd drwy drochi mewn lleoliad gofal plant
- myfyrio ar sut y gwnaethoch gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau wrth gefnogi’r broses o gaffael iaith newydd drwy drochi mewn lleoliad gofal plant, gydag adborth gan eraill
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- beth yw amgylchedd iaith drochi
- sut mae newid o un iaith i drochi mewn iaith arall yn gallu effeithio ar blant
- dylanwad diwylliant, cefndir ac iaith y cartref ar ddysgu iaith
- pwysigrwydd sicrhau eich bod yn rhugl yn yr iaith drochi
- pwysigrwydd cywirdeb yn yr iaith drochi ysgrifenedig
- egwyddorion a thechnegau trochi ieithyddol yng nghyd-destun amgylcheddau dysgu
- sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i gefnogi cyfathrebu effeithiol mewn iaith drochi
- dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar y ffordd mae plant yn caffael iaith a sgiliau cyfathrebu
- y camau y gall plant eu dilyn wrth gaffael ieithoedd newydd a sut mae ymateb i bob cam
- pwysigrwydd defnyddio’r iaith drochi bob amser a phryd i wneud eithriadau
- sut mae gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd yn y broses o gaffael iaith a sut y gallant gefnogi dysgu’r iaith yng nghyd-destun y cartref
- gwerth gweithgareddau grŵp i blant wrth gaffael iaith newydd a sut i'w cefnogi
- pwysigrwydd amgylchedd croesawgar a chyfeillgar ar gyfer dysgu iaith
- pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth gefnogi’r broses o gaffael iaith
- sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol wrth gaffael iaith
- y mathau o arddangosfeydd, adnoddau, a dyfeisiau ac adnoddau digidol a ddefnyddir yn yr amgylchedd dysgu iaith
- pwysigrwydd profiadau sy'n cael eu harwain gan blant yn ogystal ag oedolion, a sut i’w defnyddio ar gyfer dysgu iaith drochi
- y cylch arsylwi, asesu a chynllunio ar gyfer caffael iaith
- sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill wrth gefnogi’r broses o gaffael iaith newydd drwy drochi mewn lleoliad gofal plant
- y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer cefnogi’r broses o gaffael iaith newydd drwy drochi mewn lleoliad gofal plant
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer cefnogi’r broses o gaffael iaith newydd drwy drochi mewn lleoliad gofal plant
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth gefnogi’r broses o gaffael iaith newydd drwy drochi mewn lleoliad gofal plant
- sut mae eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth gefnogi’r broses o gaffael iaith newydd drwy drochi mewn lleoliad gofal plant, a sut i fynd i’r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth gaffael iaith newydd drwy drochi mewn lleoliad gofal plant
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.