Cynorthwyo â'r gwaith o ddiogelu unigolion ac eraill

URN: HSCCLD24
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo: 2026

Trosolwg

Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion wrth gynorthwyo â’r gwaith o ddiogelu unigolion ac eraill. Mae hyn yn cynnwys rhoi gwybodaeth diogelu ar waith, megis cydnabod anghenion unigolion, rhannu gwybodaeth, a gweithio mewn partneriaeth ag eraill.  Mae hefyd yn cynnwys cefnogi ymwybyddiaeth unigolion ac eraill o ddiogelwch personol a chyfrannu at adnabod arwyddion o niwed, camdriniaeth, esgeulustod neu gamfanteisio, a gweithredu arnynt.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau eich hun ac eraill i gynorthwyo â’r gwaith o ddiogelu unigolion
  2. cael gafael ar wybodaeth am ofynion diogelu’r gweithle
  3. cael caniatâd a chael gafael ar wybodaeth ac asesiadau risg am y gofynion diogelu ar gyfer unigolion
  4. gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i drafod eu gofynion diogelu  
  5. cefnogi unigolion i ddatblygu annibyniaeth, hyder a hunan-barch er mwyn sicrhau eu diogelwch personol
  6. cefnogi unigolion i fynegi eu hanghenion, eu meddyliau a’u hemosiynau ynghylch diogelwch personol a diogelu  
  7. gwrando ac ymateb mewn ffyrdd sy'n dangos eich bod yn gwerthfawrogi ac yn parchu barn, dewisiadau a phenderfyniadau unigolion i gymryd risgiau cadarnhaol
  8. cynorthwyo unigolion i nodi a chael gafael ar yr adnoddau a’r cymorth sydd eu hangen i sicrhau eu diogelwch personol  
  9. cyfrannu at nodi ymddygiad, sefyllfaoedd ac arwyddion a allai ddangos bod unigolion neu eraill mewn perygl o gael eu niweidio a'u cam-drin, neu eu bod wedi bod mewn perygl yn y gorffennol
  10. cynorthwyo unigolion ac eraill i nodi a rhoi gwybod am weithredoedd, ymddygiad a sefyllfaoedd a allai fod yn niweidiol neu’n gamdriniol
  11. 11.dilyn polisïau a gweithdrefnau diogelu pan fydd niwed neu gamdriniaeth yn cael ei amau neu ei ddatgelu  
  12. cyfrannu at rannu gwybodaeth diogelu ac asesiadau risg ag eraill i lywio eu gwaith nhw a'ch gwaith chi  
  13. cyfrannu at gofnodion ac adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer diogelu unigolion ac eraill  
  14. myfyrio ar sut y gwnaethoch gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau i gynorthwyo â’r gwaith o ddiogelu unigolion, gydag adborth gan eraill

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y mathau o niwed, camdriniaeth, esgeulustod ac ecsbloetiaeth  
  2. beth yw meithrin perthynas amhriodol, yr arwyddion, sut y gall godi a'r camau i'w cymryd
  3. beth yw bwlio, yr arwyddion, sut y gall godi a’r camau i'w cymryd  
  4. y ffactorau a allai gynyddu'r perygl i unigolion neu eraill gael eu niweidio neu eu cam-drin
  5. dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar ddiogelwch personol a diogelu  
  6. yr arwyddion a allai ddangos bod unigolion neu eraill mewn perygl o gael eu niweidio neu eu cam-drin, neu eu bod wedi bod mewn perygl yn y gorffennol  
  7. y mathau o gamau, hepgoriadau, ymddygiad a sefyllfaoedd a allai fod yn niweidiol neu’n gamdriniol i unigolion neu eraill
  8. cyfnodau pontio ym mywydau unigolion a allai olygu bod mwy o berygl iddynt gael eu niweidio neu eu cam-drin
  9. dylanwad diwylliant, cefndir ac ysbrydolrwydd ar ddiogelwch personol a diogelu  
  10. y ddyletswydd foesol a moesegol i ddiogelu unigolion ac eraill, ac i amddiffyn y cyhoedd yn ehangach
  11. eich rôl i atal o ran diogelu unigolion ac eraill, a goblygiadau methu â gweithredu
  12. y camau cywir i’w cymryd os bydd niwed neu gamdriniaeth yn cael ei amau neu ei ddatgelu
  13. sut mae cefnogi unigolion ac eraill i nodi a rhoi gwybod am niwed neu gamdriniaeth, a pham y gallai fod yn anodd iddynt wneud hynny  
  14. sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol wrth ymdrin â phryderon diogelu
  15. rôl hyder a hunan-barch o ran sicrhau diogelwch personol  
  16. y risgiau posibl sy'n gysylltiedig â defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol a sut mae cefnogi unigolion i fod yn ddiogel ar-lein
  17. sut mae diogelu eich hun yn y gweithle neu wrth weithio ar eich pen eich hun
  18. sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i gyfrannu at ddiogelu unigolion ac eraill
  19. pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth gynorthwyo â’r gwaith o ddiogelu unigolion ac eraill  
  20. pwysigrwydd cadw tystiolaeth sy’n gysylltiedig â niwed a chamdriniaeth posibl
  21. pryd y mae'n rhaid i chi rannu gwybodaeth a fyddai fel arall yn gyfrinachol, a sut mae helpu unigolion i ddeall hyn  
  22. pam ei bod yn bwysig cofnodi ac adrodd ffeithiau wrth ddiogelu unigolion ac eraill
  23. y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer cynorthwyo â’r gwaith o ddiogelu unigolion ac eraill
  24. beth i'w wneud os ydych chi wedi rhoi gwybod am bryderon ond nad oes camau'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â nhw  
  25. y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer cynorthwyo â’r gwaith o ddiogelu unigolion ac eraill
  26. gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth gynorthwyo â’r gwaith o ddiogelu unigolion ac eraill  
  27. sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i gynorthwyo â’r gwaith o ddiogelu unigolion
  28. sut mae eich profiadau personol a'ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth gynorthwyo â’r gwaith o ddiogelu unigolion ac eraill, a sut i fynd i'r afael â hyn
  29. rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth ddiogelu unigolion ac eraill

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2031

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Care and Development

URN gwreiddiol

HSCCLD24

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Diogelu, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu