Cefnogi amgylcheddau i gwrdd ag anghenion plant a phobl ifanc

URN: HSCCLD239
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo: 2026

Trosolwg

Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion wrth gefnogi amgylcheddau i gwrdd ag anghenion gofal, dysgu a datblygu plant a phobl ifanc. Mae hyn yn cynnwys paratoi a chyfrannu at gynnal amgylchedd diogel sy'n ysgogi ac yn meithrin hyder y plentyn a'r person ifanc, yn ogystal â chefnogi arferion ar gyfer plant a phobl ifanc.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. defnyddio gofod ac adnoddau i greu amgylcheddau diogel sy'n canolbwyntio ar y plentyn  
  2. sicrhau hygyrchedd a diogelwch drwy gadw pwyntiau mynediad yn glir  
  3. dilyn asesiadau risg ac adrodd ynghylch materion iechyd a diogelwch  
  4. annog plant neu bobl ifanc i gymryd rhan weithredol yn y gwaith o ddylunio a chynnal amgylcheddau sy'n cwrdd â’u dewisiadau a'u hanghenion
  5. annog plant neu bobl ifanc i gymryd rhan yn y gwaith o gynnal amgylcheddau ysgogol  
  6. cyfrannu at sicrhau bod ffactorau amgylcheddol yn y gweithle yn cwrdd â dewisiadau ac anghenion plant neu bobl ifanc
  7. cyfrannu at sicrhau bod amgylcheddau'n hygyrch i bawb  
  8. creu amgylcheddau cynhwysol, ysgogol a diddorol gan ddefnyddio arddangosfeydd synhwyraidd a phrofiadau amrywiol sy'n hybu archwilio ac ymholi agored  
  9. defnyddio amrywiaeth o adnoddau i hybu delweddau cadarnhaol o gydraddoldeb ac amrywiaeth  
  10. defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol mewn dysgu sy’n seiliedig ar chwarae ac arferion beunyddiol
  11. annog a chefnogi annibyniaeth plant neu bobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau  
  12. cefnogi plant neu bobl ifanc i wneud cynnydd a sicrhau cyflawniadau ar lefel sy'n addas i’w hoedran a’u hanghenion datblygu  
  13. cydnabod a chefnogi cyflawniadau plant neu bobl ifanc, gan eu helpu i ddatblygu ymdeimlad o hunan-werth  
  14. cefnogi ac annog plant neu bobl ifanc ac eraill i gydnabod eu cyflawniadau
  15. ystyried dewisiadau, anghenion a diddordebau plant neu bobl ifanc wrth wneud newidiadau i amgylcheddau
  16. rhoi esboniadau clir a sicrwydd ynghylch newidiadau i amgylcheddau
  17. darparu amgylcheddau sy’n cefnogi plant neu bobl ifanc i gymdeithasu ag eraill
  18. cefnogi plant neu bobl ifanc i ymgynefino ag amgylcheddau
  19. annog eraill i gefnogi plant neu bobl ifanc i ymgynefino  
  20. rhoi arferion cyson ar waith i blant neu bobl ifanc sy’n gwneud defnydd effeithiol o amgylcheddau  
  21. cefnogi dewisiadau ac anghenion plant neu bobl ifanc o ran gofal personol  
  22. rhoi bwyd a diod i blant neu bobl ifanc, gan sicrhau bod dŵr yfed ar gael  
  23. cyfrannu at gofnodion ac adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer cynnal amgylcheddau i gwrdd ag anghenion plant neu bobl ifanc
  24. myfyrio ar sut y gwnaethoch gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau wrth gefnogi amgylcheddau i gwrdd ag anghenion plant neu bobl ifanc, gydag adborth gan eraill

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. datblygiad plentyn o adeg geni hyd at 21 oed
  2. sut mae cefnogi datblygiad plant a phobl ifanc drwy ddarparu profiadau synhwyraidd
  3. sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i greu lleoedd diogel, cefnogol a rhagweladwy  
  4. pwysigrwydd natur chwareus, caredigrwydd a thosturi wrth gefnogi dysgu drwy amgylcheddau
  5. sut mae cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau yn gallu cael eu hystyried wrth greu amgylcheddau
  6. sut y gall amgylcheddau gefnogi’r newidiadau y gallai plant a phobl ifanc fynd drwyddynt  
  7. effaith newid, a ffyrdd o helpu plant a phobl ifanc i’w rheoli  
  8. y lleoedd, y profiadau a'r rhyngweithiadau a ddarperir gan amgylcheddau  
  9. y mathau o ddyfeisiau ac adnoddau digidol a all gefnogi amgylcheddau i gwrdd ag anghenion plant a phobl ifanc
  10. sut mae sicrhau bod amgylcheddau’n addas i anghenion newidiol plant a phobl ifanc
  11. rôl amgylcheddau o ran cefnogi rheoleiddio emosiynol plant a phobl ifanc
  12. sut y gall amgylcheddau gael eu haddasu i gefnogi plant a phobl ifanc â niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol  
  13. sut mae arddangos gwrthrychau mewn ffyrdd ysgogol a diddorol ar gyfer plant a phobl ifanc
  14. sut mae cynnal ffactorau amgylcheddol addas at ddibenion cysur, diogelwch a datblygiad plant a phobl ifanc
  15. pwysigrwydd arferion cyson ar gyfer datblygiad plant a phobl ifanc
  16. pwysigrwydd cyfnodau tawel i blant a phobl ifanc gael gorffwys heb gael eu gorysgogi
  17. dylanwad diwylliant a chefndir ar ymateb plant a phobl ifanc i amgylcheddau
  18. arferion trin bwyd yn ddiogel yn y gweithle  
  19. y gwahanol fathau o alergeddau bwyd a phwysigrwydd dilyn gweithdrefnau’r gweithle i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu diogelu
  20. dewisiadau ac anghenion plant a phobl ifanc o ran gofal corfforol
  21. sut mae sicrhau y gofelir am groen a gwallt plant a phobl ifanc dan do ac yn yr awyr agored
  22. sut mae cefnogi plant neu bobl ifanc i ofalu am eu dannedd
  23. y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer cefnogi amgylcheddau i gwrdd ag anghenion plant a phobl ifanc  
  24. y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer cefnogi amgylcheddau i gwrdd ag anghenion plant a phobl ifanc
  25. sut y gall eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod effeithio wrth gefnogi amgylcheddau i gwrdd ag anghenion plant a phobl ifanc, a sut i fynd i'r afael â hyn
  26. rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth gefnogi amgylcheddau i gwrdd ag anghenion plant a phobl ifanc

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2031

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Care and Development

URN gwreiddiol

HSCCLD239

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

amgylcheddau, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu