Cefnogi plant i ddysgu drwy chwarae
URN: HSCCLD238
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi’r gofynion wrth gefnogi plant i ddysgu drwy chwarae. Mae'r safon yn cynnwys cymryd rhan mewn gweithgareddau gyda phlant i annog cyfathrebu ac iaith yn ogystal â chwarae corfforol, creadigol a llawn dychymyg. Mae'r safon hefyd yn cynnwys annog plant i archwilio ac ymchwilio. Yn olaf, mae'r safon yn cynnwys sut mae cyfrannu at asesu gweithgareddau i blant ddysgu drwy chwarae
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- defnyddio cyfleoedd wrth chwarae i annog, cefnogi a modelu cyfathrebu
- cefnogi plant i ddatblygu rheoleiddio emosiynol wrth chwarae
- cyfathrebu â phlant mewn ffordd sy'n cwrdd â’u dewisiadau a’u hanghenion
- darparu cyfarpar a deunyddiau ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau chwarae a chreadigol, gan ymgorffori arferion cynaliadwy
- cefnogi plant i ddewis y cyfarpar a'r deunyddiau sydd orau ganddynt
- cynnig cyfleoedd i blant archwilio a chysylltu ag amgylcheddau naturiol
- cefnogi cyfleoedd i blant gymryd rhan mewn gweithgareddau chwarae distrwythur ar eu pennau eu hunain neu gydag eraill
- cefnogi plant i chwarae rolau maent yn eu gweld gartref ac yn y byd o'u cwmpas
- annog cyfranogiad mewn amrywiaeth o weithgareddau creadigol
- cefnogi plant i rannu ac arddangos eu creadigaethau mewn ffyrdd sy'n cefnogi eu dewisiadau a'u hunan-barch
- annog a chefnogi cynnwys plant mewn chwarae corfforol
- annog plant i gymryd rhan mewn chwarae corfforol gan ddefnyddio eu cyrff cyfan
- rhoi cyfleoedd i blant ddatblygu eu sgiliau echddygol manwl
- goruchwylio chwarae gan gefnogi buddion cymryd risgiau cadarnhaol
- cefnogi plant i ofyn cwestiynau a datblygu agwedd o ymholi agored
- defnyddio cyfleoedd i blant gymryd eu tro neu rannu lle, ac ystyried eraill
- cefnogi plant i ymchwilio ac archwilio adnoddau cymunedol
- trefnu amgylcheddau lle mae plant yn rhydd ac yn ddiogel i archwilio
- arsylwi ar blant yn dysgu drwy chwarae
- cyfrannu at gofnodion ac adroddiadau sydd eu hangen i gefnogi plant i ddysgu drwy chwarae
- myfyrio ar sut y gwnaethoch gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau wrth gefnogi plant i ddysgu drwy chwarae
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gwahanol fathau o chwarae
- sut mae cefnogi creadigrwydd a chyfranogiad plant
- sut mae chwarae, arferion a gweithgareddau yn cefnogi datblygiad sgiliau cymdeithasol a byw
- sut mae chwarae, arferion a gweithgareddau yn cefnogi datblygiad emosiynau a rheoleiddio emosiynol
- pwysigrwydd natur chwareus, caredigrwydd a thosturi wrth gefnogi plant i ddysgu drwy chwarae
- sut mae defnyddio cerddoriaeth, symudiad, caneuon a gemau i gefnogi plant i ddysgu
- y mathau o ddeunyddiau a chyfarpar sy'n cefnogi dysgu drwy chwarae, gan ystyried cynaliadwyedd
- y mathau o ddyfeisiau ac adnoddau digidol a all gefnogi plant i ddysgu drwy chwarae
- buddion chwarae corfforol ac ymarfer i bob plentyn, gan gynnwys addasiadau angenrheidiol
- sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i gefnogi plant i ddysgu drwy chwarae
- dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol wrth gefnogi plant i ddysgu drwy chwarae
- dylanwad diwylliant a chefndir ar gefnogi plant i ddysgu drwy chwarae
- sut mae cefnogi cymryd risgiau cadarnhaol wrth chwarae
- y newidiadau y gall plant fynd drwyddynt wrth chwarae
- y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen i gefnogi plant i ddysgu drwy chwarae
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer cefnogi plant i ddysgu drwy chwarae
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth gefnogi plant i ddysgu drwy chwarae
- sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i gefnogi plant i ddysgu drwy chwarae
- sut mae eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth gefnogi plant i ddysgu drwy chwarae, a sut i fynd i'r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth gefnogi plant i ddysgu drwy chwarae
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD238
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Dysgu drwy chwarae, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu