Cefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol
URN: HSCCLD237
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion wrth gefnogi gofal, dysgu a datblygiad plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol. Byddwch yn gallu cefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol drwy ddarparu gofal ac anogaeth, eu galluogi i gymryd rhan mewn gweithgareddau a phrofiadau, a chefnogi plant a phobl ifanc ac eraill, yn unol â gweithdrefnau'r lleoliad
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael caniatâd a chael gafael ar wybodaeth am anghenion plant neu bobl ifanc
- arsylwi plant neu bobl ifanc i ddarganfod eu hanghenion unigol ac unrhyw heriau o ran cyfranogiad
- dilyn y cynllun unigol ar gyfer plant neu bobl ifanc fel sail i'w cefnogi
- annog a dathlu ymdrechion a chyflawniadau plant neu bobl ifanc
- rhoi cymorth a gofal sy'n addas i ddewisiadau, anghenion a galluoedd plant neu bobl ifanc
- nodi a defnyddio ffyrdd o weithio sy'n addas i ddewisiadau ac anghenion plant neu bobl ifanc wrth gyfathrebu
- nodi a defnyddio cymhorthion, cyfarpar, a dyfeisiau neu adnoddau digidol i gefnogi plant neu bobl ifanc ag anghenion ychwanegol
- addasu amgylcheddau i sicrhau bod plant neu bobl ifanc ag anghenion ychwanegol yn cyfrannu gymaint â phosibl
- cynnig amrywiaeth o leoedd, profiadau a rhyngweithiadau i blant neu bobl ifanc ag anghenion ychwanegol
- defnyddio cyfleoedd i blant neu bobl ifanc gymryd eu tro neu rannu lle
- cefnogi plant neu bobl ifanc ag anghenion ychwanegol i weithio drwy heriau
- gweithio ag eraill i gefnogi plant neu bobl ifanc ag anghenion ychwanegol
- cyfrannu at adborth ynghylch cynnydd plant neu bobl ifanc ag anghenion ychwanegol
- cyfrannu at gofnodion ac adroddiadau sydd eu hangen i gefnogi plant neu bobl ifanc ag anghenion ychwanegol
- myfyrio ar sut y gwnaethoch gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau wrth gefnogi plant neu bobl ifanc ag anghenion ychwanegol, gydag adborth gan eraill
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut mae cael gafael ar wybodaeth am ddewisiadau ac anghenion plant a phobl ifanc
- camau datblygiad plant
- dylanwad diwylliant a chefndir ar blant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol
- sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i gefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol
- sut mae addasu lleoedd a phrofiadau i alluogi plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol i gymryd rhan
- sut gall chwarae gefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol
- sut mae trefniadau integreiddio a chynnwys yn cael eu rhoi ar waith yn y gweithle
- rôl perthnasoedd a rhwydweithiau cymorth o ran cefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol
- pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth gefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol
- anghenion ychwanegol penodol plant a phobl ifanc a'r dylanwad ar eu datblygiad
- dylanwad niwrowahaniaeth ar lesiant a gwydnwch plant a phobl ifanc
- sut mae addasu dulliau cyfathrebu i gefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol
- y cymhorthion, y cyfarpar, a'r dyfeisiau ac adnoddau digidol gwahanol y gall plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol eu defnyddio
- sut mae adnabod ymddygiad fel ffordd o gyfathrebu
- strategaethau i gefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol yn ystod cyfnodau o straen neu drallod
- sut mae cynorthwyo rheoleiddio emosiynol plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol
- y newidiadau a allai effeithio ar blant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol
- sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i gefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol
- y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen i gefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth gefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol
- sut mae eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth gefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol, a sut i fynd i'r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth gefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD237
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Anghenion ychwanegol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu