Cefnogi datblygiad plant a phobl ifanc

URN: HSCCLD236
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo: 2026

Trosolwg

Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion wrth gefnogi datblygiad holistaidd plant a phobl ifanc. Mae hyn yn cynnwys cefnogi eu datblygiad corfforol, emosiynol, cymdeithasol, ieithyddol, cyfathrebu a gwybyddol. Mae hefyd yn cynnwys cyfrannu at gynllunio ar gyfer anghenion datblygu plant neu bobl ifanc, gan sicrhau dull sy’n canolbwyntio ar y plentyn.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. arsylwi sut mae plant neu bobl ifanc yn symud, yn cydlynu eu symudiadau, ac yn defnyddio cyfarpar
  2. arsylwi hyder a chyfranogiad plant neu bobl ifanc, a sut maent yn defnyddio cyfleoedd i feithrin hunan-barch ac ymwneud ag eraill
  3. arsylwi sut mae plant neu bobl ifanc yn canolbwyntio neu’n talu sylw  
  4. arsylwi sut mae’n well gan blant neu bobl ifanc ddysgu  
  5. arsylwi sut mae plant neu bobl ifanc yn defnyddio eu dychymyg a’u gallu creadigol  
  6. arsylwi sut mae plant neu bobl ifanc yn defnyddio iaith, dulliau cyfathrebu ac yn mynegi eu teimladau a’u hemosiynau  
  7. rhoi adborth i eraill ar ganfyddiadau'r arsylwadau
  8. cyfrannu at asesu a chynllunio datblygiad plant neu bobl ifanc
  9. darparu lleoedd, profiadau a rhyngweithiadau i gefnogi cydsymud llaw a llygad a sgiliau echddygol bras a manwl plant neu bobl ifanc
  10. Amser i blant a phobl ifanc ymarfer sgiliau corfforol  
  11. cefnogi darparu lleoedd, profiadau a rhyngweithiadau i gefnogi datblygiad gwybyddol a chyfathrebu plant neu bobl ifanc
  12. dathlu ac annog datblygiad cymdeithasol a rhyngweithiadau cadarnhaol plant neu bobl ifanc
  13. annog a chefnogi annibyniaeth plant neu bobl ifanc i wneud dewisiadau a phenderfyniadau drostynt eu hunain  
  14. cyfrannu at amgylcheddau cadarnhaol ac anogol sy’n cefnogi dewisiadau ac anghenion plant neu bobl ifanc  
  15. cyfrannu at gofnodion ac adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer datblygiad plant neu bobl ifanc
  16. myfyrio ar sut y gwnaethoch gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau wrth gefnogi datblygiad plant a phobl ifanc

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut mae sicrhau bod gwybodaeth am ddatblygiad ar gael i blant a phobl ifanc ac eraill
  2. y newidiadau y gall plant a phobl ifanc wynebu ac effaith newid ar eu datblygiad  
  3. patrwm datblygiad o adeg cyn geni hyd at 21 oed
  4. ffactorau cymdeithasol, corfforol ac economaidd sy'n gallu effeithio ar ddatblygiad plant a phobl ifanc
  5. dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar ddatblygiad plant a phobl ifanc
  6. dylanwad diwylliant a chefndir ar ddatblygiad plant a phobl ifanc
  7. gweithdrefnau’r gweithle ar gyfer arsylwi ac asesu datblygiad plant a phobl ifanc
  8. amrywiaeth o ddulliau i arsylwi plant a phobl ifanc
  9. y mathau o ddyfeisiau ac adnoddau digidol a all gefnogi datblygiad plant a phobl ifanc
  10. pwysigrwydd rhoi adborth ar arsylwadau i lywio ymarfer
  11. sut mae cyfrannu at gynllunio ar gyfer datblygiad plant a phobl ifanc
  12. sut mae datblygu perthynas gyson, ofalgar a meithringar gyda phlant a phobl ifanc
  13. sut mae cefnogi lles emosiynol, hyder a gwydnwch plant a phobl ifanc
  14. ffyrdd o fod yn gefnogol, yn realistig ac yn gyson wrth ymateb i ymddygiad plant a phobl ifanc
  15. sut mae rhoi anogaeth ystyrlon a dathlu cyflawniadau plant a phobl ifanc
  16. pwysigrwydd gwrando ar blant a phobl ifanc a sicrhau eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu clywed a'u cynnwys yn y prosesau cynllunio
  17. pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth hybu datblygiad plant a phobl ifanc
  18. sut mae cefnogi'r gwaith o ddatblygu rheoleiddio emosiynol mewn plant a phobl ifanc
  19. sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i gefnogi datblygiad plant a phobl ifanc
  20. gwahanol gyfleoedd i blant a phobl ifanc asesu a chymryd risgiau cadarnhaol
  21. sut mae arferion gofal bob dydd yn gallu cefnogi datblygiad plant a phobl ifanc
  22. yr amrywiaeth o leoedd, profiadau a rhyngweithiadau sy’n cael eu defnyddio i gefnogi datblygiad plant a phobl ifanc
  23. sut y gall amgylcheddau diogel ac anogol gefnogi sgiliau corfforol a hyder wrth symud
  24. sut mae cefnogi datblygiad rhifedd plant a phobl ifanc
  25. sut mae cefnogi datblygiad llythrennedd plant a phobl ifanc
  26. sut mae cefnogi cyfathrebu drwy amrywiaeth o ddulliau ac mewn lleoliadau dwyieithog neu amlieithog
  27. sut mae annog creadigrwydd plant a phobl ifanc
  28. pwysigrwydd profiadau ymarferol a chyfleoedd i archwilio deunyddiau cynaliadwy, naturiol a phenagored  
  29. sut mae cefnogi cyfnodau tawel ac amseroedd i orffwys
  30. y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer cefnogi datblygiad plant a phobl ifanc
  31. y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer cefnogi datblygiad plant a phobl ifanc
  32. gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth gefnogi datblygiad plant a phobl ifanc
  33. sut y gall eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod effeithio wrth gefnogi datblygiad plant a phobl ifanc, a sut i fynd i'r afael â hyn
  34. rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth gefnogi datblygiad plant a phobl ifanc

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2031

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Care and Development

URN gwreiddiol

HSCCLD236

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Datblygiad Plant Pobl Ifanc, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu