Cefnogi â'r gwaith o ofalu am fabanod a phlant ifanc
URN: HSCCLD235
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion wrth gefnogi â'r gwaith o ofalu am ddatblygiad holistaidd babanod a phlant ifanc. Mae’n cynnwys arsylwi babanod a phlant ifanc, a chyfathrebu’n effeithiol i ddeall ac ymateb i’w dewisiadau a'u hanghenion. Mae hefyd yn cynnwys darparu ar gyfer eu gofal personol ac amrywiaeth o brofiadau chwarae a fydd yn cefnogi eu datblygiad holistaidd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael caniatâd gan blant ifanc a theuluoedd cyn mynd ati i’w harsylwi’n ffurfiol
- arsylwi datblygiad corfforol babanod neu blant ifanc
- arsylwi sut mae babanod neu blant ifanc yn cyfathrebu
- arsylwi sut mae babanod neu blant ifanc yn mynegi eu teimladau
- nodi sut mae babanod neu blant ifanc yn chwarae, a beth maen nhw'n ei fwynhau fwyaf
- rhannu arsylwadau ag eraill i gynorthwyo â'r gwaith o gynllunio datblygiad babanod neu blant ifanc
- defnyddio profiadau ac arferion i feithrin perthnasoedd cadarnhaol a chefnogi datblygiad holistaidd
- gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd, dilyn dewisiadau ac anghenion babanod neu blant ifanc ar gyfer gorchwylion bwydo ac anghenion dietegol
- paratoi, storio a gweini bwyd a diod, gan ystyried unrhyw anghenion dietegol penodol
- gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd, cefnogi'r broses ddiddyfnu a’u hannog i fwydo eu hunain yn seiliedig ar barodrwydd babanod neu blant ifanc
- ymateb i arwyddion o salwch mewn babanod neu blant ifanc
- cyfrannu at greu awyrgylch cyfforddus, digyffro a meithringar i fabanod neu blant ifanc yn ystod gorchwylion gofal personol
- rhoi gofal personol diogel a hylan
- dilyn asesiadau risg i gynnal amgylcheddau saff a diogel
- cysuro a thawelu meddwl babanod neu blant ifanc pan fyddant yn ofidus
- cyfrannu at gynllunio profiadau chwarae cynhwysol sy'n addas yn ddatblygiadol ac sy'n cefnogi gwahanol feysydd dysgu
- annog profiadau sy'n adlewyrchu diddordebau a chefndiroedd diwylliannol babanod neu blant ifanc
- sicrhau bod mannau, profiadau a rhyngweithiadau chwarae yn cynnig cydbwysedd rhwng pethau cyfarwydd a phethau heriol
- ymgysylltu â babanod neu blant ifanc wrth chwarae
- cyfathrebu â babanod neu blant ifanc mewn ffordd sy’n gweddu i’w hanghenion
- defnyddio straeon, caneuon a rhigymau i gefnogi datblygiad iaith
- ymateb i arwyddion cyfathrebu babanod neu blant ifanc
- rhoi adborth i deuluoedd am brofiadau a chynnydd babanod neu blant ifanc
- cyfrannu at gofnodion ac adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer cefnogi â’r gwaith o ofalu am fabanod neu blant ifanc
- myfyrio ar sut y gwnaethoch gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau wrth gefnogi â’r gwaith o ofalu am fabanod neu blant ifanc, gydag adborth gan eraill
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y newidiadau y gall babanod a phlant ifanc fynd drwyddynt
- datblygiad o adeg cyn geni hyd at 21 oed
- ffactorau cymdeithasol, corfforol ac economaidd sy'n gallu effeithio ar ddatblygiad babanod a phlant ifanc
- sut gall niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol effeithio ar anghenion babanod a phlant ifanc o ran gofal
- dylanwad diwylliant a chefndir ar ofal babanod a phlant ifanc
- sut mae datblygu perthynas gyson, ofalgar a meithringar gyda babanod a phlant ifanc
- pwrpas a gwerth arsylwi babanod a phlant ifanc
- gweithdrefnau'r gweithle ar gyfer arsylwi, asesu a chofnodi babanod a phlant ifanc
- y mathau o ddyfeisiau ac adnoddau digidol a all gynorthwyo â’r gwaith o ofalu am fabanod a phlant ifanc
- pwysigrwydd arferion o ran darparu diogelwch a chefnogi datblygiad babanod a phlant ifanc
- eich rôl o ran diddyfnu a gosod gorchwylion hunan-fwydo babanod a phlant ifanc
- paratoi, storio a thrin bwyd a diod yn ddiogel ar gyfer babanod a phlant ifanc
- arwyddion a symptomau salwch cyffredin yn ystod plentyndod ac ymatebion addas
- pwysigrwydd amgylcheddau meithringar a digyffro wrth gefnogi llesiant babanod a phlant ifanc
- arferion da ar gyfer gofal personol babanod a phlant ifanc
- sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i gynorthwyo â’r gwaith o ofalu am fabanod a phlant ifanc
- pwysigrwydd diogelu, asesu risg a chynnal amgylcheddau diogel i fabanod a phlant ifanc
- pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth gynorthwyo â’r gwaith o ofalu am fabanod a phlant ifanc
- sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol a rhoi cysur i fabanod a phlant ifanc sy’n wynebu pryder neu ofid
- sut mae chwarae yn cefnogi gwahanol feysydd datblygu
- camau chwarae ar gyfer babanod a phlant ifanc
- arwyddocâd chwarae sy’n cael ei arwain gan blant
- effaith rhyngweithiadau cadarnhaol ar hyder, dysgu a llesiant
- y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer cefnogi â’r gwaith o ofalu am fabanod a phlant ifanc
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer cefnogi â’r gwaith o ofalu am fabanod a phlant ifanc
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth gefnogi â’r gwaith o ofalu am fabanod a phlant ifanc
- sut y gall eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod effeithio wrth gefnogi â’r gwaith o ofalu am fabanod a phlant ifanc, a sut i fynd i'r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth gynorthwyo â’r gwaith o ofalu am fabanod a phlant ifanc
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD235
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Gofalu, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu