Cefnogi'r gwaith o brosesu a rhannu negeseuon a gwybodaeth
URN: HSCCLD234
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion pan fyddwch yn derbyn, yn prosesu ac yn rhannu negeseuon a cheisiadau am wybodaeth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- derbyn negeseuon a cheisiadau am wybodaeth gan unigolion ac eraill mewn amrywiaeth o fformatau
- cydnabod ac ymateb i negeseuon neu geisiadau am wybodaeth gan ddilyn gofynion y gweithle
- blaenoriaethu a phrosesu negeseuon a cheisiadau ar frys a gofynion y gweithle
- cael gafael ar unrhyw wybodaeth bellach sy'n ofynnol mewn perthynas â negeseuon neu geisiadau am wybodaeth
- edrych a oes unrhyw gyfyngiadau ar yr wybodaeth a fydd yn cael ei rhannu
- gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i fynd i’r afael â heriau sy'n gysylltiedig â negeseuon neu geisiadau am wybodaeth
- paratoi a rhannu negeseuon neu wybodaeth ag unigolion ac eraill mewn fformatau hygyrch
- storio negeseuon a gwybodaeth gan ddilyn gofynion y gweithle
- cyfrannu at gofnodion ac adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer prosesu a rhannu negeseuon a gwybodaeth
- myfyrio ar sut y gwnaethoch gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau i gefnogi â’r gwaith o brosesu a rhannu negeseuon a gwybodaeth, gydag adborth gan eraill
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y fformatau a ddefnyddir i dderbyn, adolygu a chael gafael ar negeseuon a cheisiadau am wybodaeth
- sut mae blaenoriaethu negeseuon neu geisiadau am wybodaeth yn ôl brys a gofynion y gweithle, a pham fod hyn yn bwysig
- y mathau o wybodaeth bellach y gallai fod eu hangen i brosesu negeseuon a cheisiadau am wybodaeth, gan gynnwys unrhyw gyfyngiadau
- dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar y ffyrdd mae negeseuon a cheisiadau am wybodaeth yn cael eu derbyn, eu prosesu a’u rhannu
- sut mae cyfathrebu’n effeithiol er mwyn derbyn a rhannu negeseuon a gwybodaeth
- pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth dderbyn a rhannu negeseuon a gwybodaeth
- sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol wrth dderbyn a rhannu negeseuon a gwybodaeth
- sut mae paratoi gwybodaeth i'w rhannu mewn fformat hygyrch
- y mathau o ddyfeisiau ac adnoddau digidol a all gefnogi â'r gwaith o brosesu a rhannu gwybodaeth
- pam y dylid cofnodi gwybodaeth a’i hadrodd yn ffeithiol ac yn sensitif, a chanlyniadau posibl peidio â gwneud hynny
- sut mae sicrhau cyfrinachedd wrth dderbyn a rhannu negeseuon a gwybodaeth
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer cefnogi â’r gwaith o brosesu a rhannu negeseuon a gwybodaeth
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth gefnogi â’r gwaith o brosesu a rhannu negeseuon a gwybodaeth
- sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i gefnogi â’r gwaith o brosesu a rhannu negeseuon a gwybodaeth
- sut mae ymateb i faterion a phryderon a allai godi wrth gefnogi â’r gwaith o brosesu a rhannu negeseuon a gwybodaeth
- sut mae eich profiadau personol a'ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth gefnogi â’r gwaith o brosesu a rhannu negeseuon a gwybodaeth, a sut i fynd i'r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth gefnogi â’r gwaith o brosesu a rhannu negeseuon a gwybodaeth
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD234
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Rhannu negeseuon, prosesu, gwybodaeth, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu