Cefnogi defnyddio adnoddau ac offer yn ddiogel a chynaliadwy

URN: HSCCLD233
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo: 2026

Trosolwg

Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion wrth gefnogi defnyddio adnoddau a chyfarpar yn ddiogel a chynaliadwy. Mae hyn yn cynnwys cyfrannu at symud adnoddau a chyfarpar yn ddiogel, monitro eu hargaeledd, a chefnogi’r gwaith o’u cynnal a chadw drwy arferion cynaliadwy.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi adnoddau neu offer y mae angen eu symud, eu storio a'u defnyddio
  2. gweithio mewn partneriaeth â phawb sy'n rhan o’r gwaith hwn er mwyn cytuno ar sut y bydd yr adnoddau neu’r offer yn cael eu symud, eu storio a’u defnyddio yn unol ag asesiadau risg  
  3. cymryd camau i leihau neu ddileu risgiau a nodwyd er mwyn diogelu eich hun ac eraill
  4. symud adnoddau neu offer yn unol â gofynion y gweithle ac asesiadau risg i'w diogelu rhag difrod neu halogiad
  5. storio adnoddau ac offer yn unol â gofynion y gweithle ac asesiadau risg i'w diogelu rhag difrod neu halogiad  
  6. cefnogi defnyddio adnoddau ac offer yn ddiogel a chynaliadwy, ac annog eraill i wneud hynny  
  7. cefnogi'r gwaith o gynnal a chadw offer yn rheolaidd yn unol â gofynion y gweithle
  8. cyfrannu at adrodd a datrys unrhyw broblemau, diffygion, atgyweirio neu amnewid adnoddau ac offer  
  9. cyfrannu at fonitro ac ailgyflenwi'r stoc o adnoddau ac offer gan ddefnyddio dulliau cynaliadwy  
  10. glanhau offer a gwaredu gwastraff gan ddefnyddio dulliau atal a rheoli heintiau, a chyfarpar diogelu personol
  11. cyfrannu at gofnodion ac adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer cefnogi defnyddio adnoddau ac offer yn ddiogel a chynaliadwy  
  12. myfyrio ar sut y gwnaethoch gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau i gefnogi defnyddio adnoddau ac offer yn ddiogel a chynaliadwy, gydag adborth gan eraill

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y mathau o adnoddau ac offer a all gael eu symud, eu storio a’u defnyddio  
  2. sut mae cael gafael ar asesiadau risg ar adnoddau ac offer, a’u hadolygu  
  3. pwysigrwydd symud adnoddau ac offer yn ddiogel er mwyn lleihau difrod, a sut i wneud hyn
  4. egwyddorion symud a thrin yn ddiogel, a'r goblygiadau i chi ac eraill os na chânt eu dilyn
  5. pwysigrwydd storio adnoddau ac offer yn ddiogel ac yn gynaliadwy
  6. effaith halogiad ac amodau amgylcheddol ar adnoddau ac offer  
  7. sut mae monitro’r stoc o adnoddau ac offer mewn ffordd gynaliadwy, a pham
  8. y mathau o ddyfeisiau ac adnoddau digidol a all gefnogi defnyddio adnoddau a chyfarpar yn ddiogel a chynaliadwy  
  9. y dulliau atal a rheoli heintiau a ddefnyddir wrth lanhau cyfarpar a gwaredu gwastraff, a pham fod hyn yn bwysig  
  10. pwysigrwydd cynnal a chadw offer yn rheolaidd a chanlyniadau posibl os na chaiff hynny ei wneud  
  11. sut mae ymateb i faterion a diffygion a threfnu atgyweirio neu amnewid am adnoddau ac offer
  12. y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer cefnogi defnyddio adnoddau ac offer yn ddiogel a chynaliadwy
  13. y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer defnyddio adnoddau ac offer yn ddiogel a chynaliadwy  
  14. sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i gefnogi defnyddio adnoddau ac offer yn ddiogel a chynaliadwy  
  15. sut mae eich profiadau personol a'ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth gefnogi defnyddio adnoddau ac offer yn ddiogel a chynaliadwy, a sut i fynd i'r afael â hyn
  16. rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth ddefnyddio adnoddau ac offer yn ddiogel a chynaliadwy.

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2031

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Care and Development

URN gwreiddiol

HSCCLD233

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Adnoddau, Offer, Diogel, Cynaliadwy, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu