Cefnogi amgylcheddau glân
URN: HSCCLD232
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn amlinellu’r gofynion wrth gefnogi amgylcheddau glân mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys monitro glendid amgylcheddau a sicrhau bod ystafelloedd, mannau gwaith ac arwynebau'n lân.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau eich hun ac eraill i gefnogi amgylcheddau glân
- gweithio mewn partneriaeth â phawb sy'n rhan o’r gwaith hwn er mwyn cytuno ar sut a phryd y bydd amgylcheddau'n cael eu glanhau a'u monitro
- cyflawni’r gwaith monitro y cytunwyd arno er mwyn cynnal amgylcheddau glân
- sicrhau bod dulliau atal a rheoli heintiau, a chyfarpar diogelu personol, yn cael eu defnyddio
- casglu'r adnoddau a'r cyfarpar glanhau angenrheidiol
- cyflawni'r gweithgareddau glanhau y cytunwyd arnynt yn unol â gofynion y gweithle
- gwneud yn siŵr bod adnoddau a chyfarpar glanhau sydd wedi cael eu defnyddio yn cael eu gwaredu, neu eu glanhau a'u storio
- gwneud yn siŵr bod adnoddau a chyfarpar glanhau yn cael eu hailstocio ac yn cael eu gadael yn barod i'w defnyddio y tro nesaf
- cyfrannu at gofnodion ac adroddiadau sydd eu hangen i gefnogi amgylcheddau glân
- myfyrio ar sut y gwnaethoch gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau i gefnogi amgylcheddau glân, gydag adborth gan eraill
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y rhesymau pam mae angen glanhau amgylcheddau
- sut mae cael gafael ar wybodaeth am sut a phryd y bydd amgylcheddau'n cael eu glanhau a'u monitro, a’i hadolygu
- y mathau o adnoddau a chyfarpar sy’n cael eu defnyddio i lanhau amgylcheddau
- sut mae paratoi a gwneud yn siŵr bod adnoddau a chyfarpar glanhau yn ddiogel ac yn barod i’w defnyddio
- pwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau ar gyfer paratoi, defnyddio a storio adnoddau a chyfarpar glanhau, a'r risgiau posibl os na chânt eu dilyn
- y mathau o adnoddau a chyfarpar glanhau i’w defnyddio ar wahanol arwynebau, dodrefn neu ffitiadau
- y mathau o arferion cynaliadwy y gellir eu defnyddio wrth lanhau amgylcheddau
- pam mae angen ymgymryd ag arferion glanhau arbenigol mewn rhai amgylcheddau
- ffynonellau haint posibl o amgylcheddau a sut mae lleihau'r risg
- y dulliau atal a rheoli heintiau a’r cyfarpar diogelu personol sy’n cael eu defnyddio wrth lanhau amgylcheddau
- sut a phryd y dylid defnyddio arwyddion rhybuddio am beryglon
- sut mae atal a lleihau risgiau i eraill wrth lanhau
- sut mae rhoi gwybod am ddiffygion neu beryglon mewn amgylcheddau, adnoddau neu gyfarpar glanhau a'r risgiau posibl os na roddir gwybod amdanynt
- y cofnodion neu’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer cefnogi amgylcheddau glân
- y mathau o ddyfeisiau ac adnoddau digidol a all gefnogi amgylcheddau glân
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer cefnogi amgylcheddau glân
- sut mae ymateb i faterion a phryderon a allai godi gyda’r amgylchedd, adnoddau a chyfarpar
- sut mae eich profiadau personol a'ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth gefnogi amgylcheddau glân, a sut i fynd i'r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth gefnogi amgylcheddau glân
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD232
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Amgylcheddau Glan, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu