Cefnogi unigolion i gadw eu cartrefi’n lân, saff a diogel
URN: HSCCLD231
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi’r gofynion wrth gefnogi unigolion i gadw eu cartrefi’n lân, saff a diogel. Mae hyn yn cynnwys eu cefnogi i gael nwyddau i’r cartref, a’u storio, yn ogystal â’u cefnogi i gadw eu cartrefi’n saff a diogel.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau eich hun ac eraill i gefnogi unigolion i gadw eu cartrefi’n lân, saff a diogel
- cefnogi unigolion ac eraill i nodi’r ffyrdd y gellir sicrhau bod eu cartrefi’n lân ac yn ddiogel
- gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i ganfod beth mae unigolion yn gallu ei wneud drostynt ei hunain a gyda beth maen nhw angen cymorth
- gweithio mewn partneriaeth i gytuno ar sut y bydd cymorth yn cael ei roi yn unol â dewisiadau ac anghenion unigolion
- cefnogi unigolion i nodi a chael gafael ar y cymorth a’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i gadw eu cartrefi’n lân, saff a diogel
- cefnogi unigolion i nodi, cael a storio nwyddau i’r cartref
- annog a chefnogi annibyniaeth unigolion i gadw eu cartrefi’n lân
- annog a chefnogi annibyniaeth unigolion i sicrhau bod eu cartrefi’n ddiogel
- cefnogi unigolion ac eraill i roi adborth ar sut y llwyddwyd i gwrdd â’u dewisiadau a’u hanghenion i gadw eu cartrefi’n lân, saff a diogel
- cyfrannu at yr adborth ar sut y llwyddwyd i gwrdd â dewisiadau ac anghenion unigolion i gadw eu cartrefi’n lân, saff a diogel
- gweithio mewn partneriaeth â phawb sy'n rhan o’r gwaith hwn er mwyn cytuno ar unrhyw newidiadau i'r cymorth sydd ei angen i gadw eu cartrefi’n lân, saff a diogel
- cyfrannu at gofnodion ac adroddiadau sydd eu hangen i gefnogi unigolion i gadw eu cartrefi’n lân, saff a diogel
- myfyrio ar sut y gwnaethoch gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau i gefnogi unigolion i gadw eu cartrefi’n lân, saff a diogel, gydag adborth gan eraill
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut mae cael gafael ar wybodaeth am unigolion, a sut mae adolygu a gwerthuso'r wybodaeth honno, a sut mae cadw eu cartrefi’n lân, saff a diogel
- sut mae cael gafael ar yr asesiad risg ar gyfer unigolion yn amgylchedd y cartref, a’i ddilyn
- dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar y cymorth sydd ei angen i gadw cartrefi unigolion yn lân, saff a diogel
- dylanwad diwylliant a chefndir ar arferion unigolion o ran glanweithdra a diogelwch
- sut mae storio nwyddau i'r cartref yn ddiogel, a risgiau posibl storio, defnyddio a gwaredu’n anniogel ar unigolion a'r amgylchedd
- pwysigrwydd glendid yn amgylchedd cartref yr unigolyn
- y mathau o ddyfeisiau ac adnoddau digidol a all gefnogi unigolion i gadw eu cartrefi’n lân, saff a diogel
- y risgiau posibl sy'n gysylltiedig â threfniadau diogelu’r cartref
- sut mae annog a chefnogi annibyniaeth unigolion i gadw eu cartrefi’n lân, saff a diogel
- pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth gefnogi unigolion i gadw’u cartrefi’n lân, saff a diogel
- sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol wrth gadw cartrefi’n lân, saff a diogel
- y mathau o adnoddau a chymorth ychwanegol a all gefnogi unigolion i gadw eu cartrefi’n lân, saff a diogel
- sut mae gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i adolygu a rhoi adborth ar y cymorth i gadw eu cartrefi’n lân, saff a diogel
- sut y gall newidiadau i ddewisiadau, amodau ac amgylchiadau unigolion effeithio ar y cymorth sydd ei angen i gadw eu cartrefi’n lân, saff a diogel
- sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i gefnogi unigolion i gadw eu cartrefi’n lân, saff a diogel
- y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen i gefnogi unigolion i gadw eu cartrefi’n lân, saff a diogel
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer cefnogi unigolion i gadw eu cartrefi’n lân, saff a diogel
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth gefnogi unigolion i gadw eu cartrefi’n lân, saff a diogel
- sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i gefnogi unigolion i gadw eu cartrefi’n lân, saff a diogel
- sut mae ymateb i faterion a phryderon a allai godi wrth gefnogi unigolion i gadw eu cartrefi’n lân, saff a diogel
- sut mae eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth gefnogi unigolion i gadw eu cartrefi’n lân, saff a diogel, a sut i fynd i'r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth gefnogi unigolion i gadw eu cartrefi’n lân, saff a diogel
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD231
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Glan, Saff, Diogel, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu