Cefnogi mynediad saff a diogel i gartrefi unigolion
URN: HSCCLD230
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi’r gofynion ar gyfer cefnogi diogelwch pan fyddwch yn mynd i gartrefi’r unigolion rydych chi’n eu cefnogi. Mae hyn yn cynnwys cadarnhau eich bod yn deall y gweithdrefnau a’r trefniadau ar gyfer cael mynediad a’ch bod yn defnyddio'r rhain pan fyddwch yn ymweld. Mae hefyd yn cynnwys datrys unrhyw faterion sy'n ymwneud â’r ymweliad, mynediad neu ddiogelu cartrefi unigolion. Mae'r safon hefyd yn cynnwys adolygu gweithdrefnau a threfniadau ar gyfer cael mynediad i gartrefi unigolion, a'u diogelu.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael caniatâd a chael gafael ar wybodaeth am weithdrefnau ar gyfer mynediad saff a diogel i gartrefi unigolion
- cefnogi unigolion ac eraill i nodi eu dewisiadau a’r trefniadau diogelwch ar gyfer cael mynediad i’w cartrefi
- gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i gytuno ar ddyddiad ac amser ymweld â’u cartrefi
- cadarnhau manylion cyswllt unigolion a'r trefniadau teithio ar gyfer ymweld â'u cartrefi
- rhoi gwybod i’r gweithle am y trefniadau ar gyfer ymweld â chartrefi unigolion
- cael mynediad i gartrefi gan ddilyn y trefniadau y cytunwyd arnynt a dewisiadau unigolion
- cyflwyno eich hun a chadarnhau pwy yw'r unigolion neu'r bobl eraill yn eu cartrefi
- cyfrannu at ddatrys unrhyw faterion sy'n ymwneud ag ymweliadau, mynediad neu ddiogelu cartrefi
- sicrhau bod cartrefi'n cael eu diogelu pan fyddwch yn gadael gan ddilyn y trefniadau y cytunwyd arnynt a dewisiadau unigolion
- cefnogi unigolion ac eraill i roi adborth ar y trefniadau y cytunwyd arnynt a’r dewisiadau i sicrhau bod mynediad i’w cartrefi yn parhau i fod yn saff a diogel
- rhoi adborth i sicrhau bod mynediad i gartrefi yn parhau i fod yn saff a diogel
- gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i nodi a mynd i’r afael ag unrhyw newidiadau i gefnogi mynediad saff a diogel i’w cartrefi
- cyfrannu at gofnodion ac adroddiadau sydd eu hangen i gefnogi mynediad saff a diogel i gartrefi unigolion
- myfyrio ar sut y gwnaethoch gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau i gefnogi mynediad saff a diogel i gartrefi unigolion, gydag adborth gan eraill
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut mae cael gafael ar wybodaeth am unigolion, a’i hadolygu a’i gwerthuso, yn ogystal â’r gweithdrefnau ar gyfer cael mynediad saff a diogel i’w cartrefi
- dylanwad diwylliant a chefndir ar ddewisiadau unigolion wrth ganiatáu mynediad i’w cartrefi
- y gweithdrefnau mynediad y cytunwyd arnynt ar gyfer cartrefi unigolion penodol a chanlyniadau peidio â’u dilyn
- dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar y cymorth ar gyfer mynediad saff a diogel i gartref unigolyn
- sut mae cynnal asesiadau risg wrth ymweld, cael mynediad a diogelu cartrefi unigolion
- arferion gweithio ar eich pen eich hun ar gyfer ymweld â chartrefi unigolion
- y mathau o ddyfeisiau ac adnoddau digidol a all gefnogi mynediad saff a diogel i gartrefi unigolion
- sut a pham y dylech gadarnhau pwy ydych chi, yr unigolyn ac eraill
- pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth fynd i gartrefi unigolion
- sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol wrth ymweld â chartrefi unigolion ac wrth fynd i mewn
- sut mae gweithio ar y cyd ag unigolion ac eraill i adolygu a rhoi adborth ar fynediad saff a diogel i’w cartrefi
- sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i gefnogi unigolion i gael mynediad saff a diogel i’w cartrefi
- y rhesymau pam na fyddwch o bosibl yn gallu mynd i mewn i gartrefi unigolion na'u diogelu, a'r camau i'w cymryd
- y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer cefnogi mynediad saff a diogel i gartrefi unigolion
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer cefnogi mynediad saff a diogel i gartrefi unigolion
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth gefnogi mynediad saff a diogel i gartrefi unigolion
- sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i gefnogi mynediad saff a diogel i gartrefi unigolion
- sut mae ymateb i faterion a phryderon a allai godi wrth gael mynediad i gartrefi unigolion
- sut mae eich profiadau personol a'ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth gefnogi mynediad saff a diogel i gartrefi unigolion, a sut i fynd i'r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth gefnogi mynediad saff a diogel i gartrefi unigolion
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD230
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Diogel, Cartrefi, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu