Datblygu ymarfer myfyriol
URN: HSCCLD23
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi’r gofynion wrth ddatblygu eich ymarfer myfyriol. Mae'n golygu cysoni eich ymarfer â gweledigaeth, gwerthoedd a safonau proffesiynol y gweithle, a gwreiddio diwylliant o ymarfer myfyriol a datblygiad proffesiynol parhaus.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi a chytuno ar sut mae eich rolau a'ch cyfrifoldebau yn cyd-fynd â gweledigaeth, gwerthoedd a chanlyniadau'r gweithle
- mynd ati gydag eraill i nodi’r safonau ymarfer proffesiynol cyfredol sy'n berthnasol i'ch rôl a'ch cyfrifoldebau gwaith
- gofyn am adborth gan eraill ynghylch eich gwybodaeth, sgiliau a safonau ymarfer proffesiynol
- cael gafael ar gymorth i ddatblygu eich sgiliau ymarfer myfyriol
- myfyrio ar eich ymarfer wrth weithio
- mynd ati ag eraill i fyfyrio ynghylch eich profiad ymarfer blaenorol
- mynd ati gydag eraill i fyfyrio ynghylch sut mae eich gwerthoedd, eich diwylliant a'ch rhagdybiaethau yn effeithio ar eraill
- mynd ati gydag eraill i nodi’r hyn a ddysgwyd wrth fyfyrio a sut mae gwella'r ffordd rydych chi'n gweithio
- cytuno ar feysydd ar gyfer dysgu a datblygu a sut y byddant yn cael eu cyflawni
- gofyn am gymorth gan eraill a goresgyn heriau wrth i chi ddysgu a datblygu
- ymgymryd â gweithgareddau dysgu a datblygu
- defnyddio dysgu newydd yn eich ymarfer
- defnyddio prosesau goruchwylio ac arfarnu ar gyfer ymarfer myfyriol a datblygu dysgu a datblygu newydd
- defnyddio prosesau goruchwylio ac arfarnu i fonitro a gwerthuso dysgu a datblygu newydd
- mynd ati i rannu ag eraill sut rydych chi wedi gwella'r ffordd rydych yn gweithio
- cyfrannu at wreiddio diwylliant o fyfyrio a datblygiad proffesiynol parhaus
- cyfrannu at gofnodion ac adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer datblygu ymarfer myfyriol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut mae ymarfer myfyriol yn gallu cefnogi gweledigaeth, gwerthoedd a chanlyniadau'r gweithle
- rôl ymarfer fyfyriol o ran cynnal safonau ymarfer proffesiynol
- sut mae defnyddio modelau myfyriol i ddatblygu eich sgiliau myfyrio a gwella'r ffordd rydych chi’n gweithio
- sut mae myfyrio ar eich ymarfer i wella eich dysgu a datblygu
- dylanwad diwylliant, cefndir a daliadau ysbrydol ar ymarfer myfyriol
- sut mae ymarfer myfyriol yn gallu gwella rheoleiddio emosiynol, gwytnwch a llesiant yn y gweithle
- pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth ddatblygu ymarfer myfyriol
- pam ei fod yn bwysig nodi’r heriau i ddysgu a gofyn am gymorth i’w goresgyn
- dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar ddatblygu ymarfer myfyriol a dysgu a datblygu
- sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma mewn ymarfer myfyriol a dysgu a datblygu
- yr ystod o ddulliau dysgu ac adnoddau, gan gynnwys adnoddau digidol
- sut mae rhoi'r hyn a ddysgwyd o'r newydd ar waith
- sut mae myfyrio ar y gwahaniaeth mae dysgu newydd wedi’i wneud i’ch ymarfer
- rôl prosesau goruchwylio ac arfarnu ar gyfer ymarfer myfyriol a datblygu dysgu a datblygu newydd
- rôl prosesau goruchwylio ac arfarnu i fonitro a gwerthuso dysgu a datblygu newydd
- manteision rhannu’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu gydag eraill
- eich cyfrifoldeb eich hun dros ddatblygiad proffesiynol parhaus
- sut mae cyfrannu at wreiddio diwylliant o fyfyrio a datblygiad proffesiynol parhaus yn y gweithle
- y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen i ddatblygu ymarfer myfyriol
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer datblygu ymarfer myfyriol a dysgu a datblygu
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth ddatblygu ymarfer myfyriol
- sut mae eich profiadau personol a'ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth ddatblygu ymarfer myfyriol, a sut i fynd i'r afael â hyn
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD23
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Ymarfer Myfyriol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu