Cefnogi unigolion yn y gymuned
URN: HSCCLD229
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi’r gofynion wrth gefnogi unigolion yn y gymuned. Mae hyn yn cynnwys gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i ymgymryd â’ch gweithgareddau gwaith yn unol â’u dewisiadau, anghenion, ac asesiadau risg. Mae hefyd yn cynnwys cyfrannu at nodi ac adrodd am unrhyw newidiadau o ran dewisiadau ac anghenion unigolion.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau eich hun ac eraill i gefnogi unigolion yn y gymuned
- gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i nodi’r gweithgareddau gwaith i’w cynnal yn y gymuned yn unol â dewisiadau, anghenion, a chynlluniau gofal neu gymorth unigolion
- cael gafael ar asesiad risg ar gyfer gweithgareddau gwaith i gefnogi unigolion yn y gymuned
- paratoi ar gyfer gweithgareddau gwaith i gefnogi unigolion yn y gymuned
- cyflwyno eich hun a chadarnhau pwy yw'r unigolion neu'r bobl eraill rydych chi'n eu cefnogi yn y gymuned
- ymgymryd â’ch gweithgareddau gwaith yn unol â dewisiadau, anghenion ac asesiadau risg unigolion
- cefnogi unigolion ac eraill i roi adborth ar sut mae’r gweithgareddau gwaith sy’n cael eu cynnal yn y gymuned wedi cwrdd â dewisiadau ac anghenion yr unigolyn
- rhoi adborth ar sut mae’r gweithgareddau gwaith sy’n cael eu cynnal yn y gymuned wedi cwrdd â dewisiadau ac anghenion yr unigolyn
- gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i nodi arferion da a chytuno ar unrhyw newidiadau i weithgareddau gwaith i gefnogi unigolion yn y gymuned
- cyfrannu at gofnodion ac adroddiadau sydd eu hangen i gefnogi unigolion yn y gymuned
- myfyrio ar sut y gwnaethoch gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau i gefnogi unigolion yn y gymuned, gydag adborth gan eraill
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut mae cael gafael ar wybodaeth am anghenion cymorth unigolion yn y gymuned, a’i hadolygu
- dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar y cymorth mae unigolion ei angen yn y gymuned
- dylanwad diwylliant a chefndir ar anghenion cymorth unigolion yn y gymuned
- sut mae cael gafael ar yr asesiadau risg ar gyfer unigolion, a’u dilyn
- rôl asesiadau risg dynamig yn y gymuned
- arferion gweithio ar eich pen eich hun mewn lleoliadau cymunedol
- sut mae rheoli eich amser yn effeithiol wrth weithio yn y gymuned a ble i ofyn am gymorth gydag unrhyw faterion rheoli amser
- rheoli adnoddau’n effeithiol wrth weithio yn y gymuned a phwysigrwydd arferion cynaliadwy
- y mathau o ddyfeisiau ac adnoddau digidol a all gefnogi unigolion yn y gymuned
- dulliau i gadarnhau pwy ydych chi, unigolion ac eraill, a pham fod hyn yn bwysig
- sut mae cefnogi annibyniaeth unigolion yn eu bywyd bob dydd yn y gymuned
- pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth gefnogi unigolion yn y gymuned
- sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol yn y gymuned
- sut mae gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i adolygu a rhoi adborth ar y cymorth a roddir yn y gymuned
- sut y gall newidiadau i ddewisiadau, amodau ac amgylchiadau unigolion effeithio ar y cymorth a roddir yn y gymuned
- sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i gefnogi unigolion yn y gymuned
- y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen i gefnogi unigolion yn y gymuned
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer cefnogi unigolion yn y gymuned
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth gefnogi unigolion yn y gymuned
- sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i gefnogi unigolion yn y gymuned
- sut mae ymateb i faterion a phryderon a allai godi wrth gefnogi unigolion yn y gymuned
- sut mae eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth gefnogi unigolion yn y gymuned, a sut i fynd i'r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth gefnogi unigolion yn y gymuned
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD229
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Cymuned, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu