Cefnogi gofal grŵp effeithiol
URN: HSCCLD228
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi’r gofynion wrth gefnogi gofal grŵp effeithiol, gan sicrhau ei fod yn brofiad cadarnhaol lle bydd unigolion yn teimlo’n ddiogel a’u bod yn cael eu gwerthfawrogi. Mae'r safon yn cynnwys cyfrannu at ofal grŵp sy'n cefnogi anghenion corfforol, cymdeithasol ac emosiynol y grŵp a'i aelodau, cyfrannu at roi rhaglenni a gweithgareddau gofal grŵp ar waith, a chyfrannu at asesu gofal grŵp.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau eich hun ac eraill wrth gyfrannu at weithredu ac asesu gofal grŵp effeithiol
- mynd ati ag eraill i nodi sut y gall prosesau grŵp ddatblygu sgiliau rhyngbersonol a thwf unigol
- gweithio mewn partneriaeth ag unigolion i nodi eu dewisiadau a’u hanghenion ar gyfer rhaglenni grŵp
- hybu a chefnogi annibyniaeth unigolion i gymryd rhan mewn rhaglenni a gweithgareddau grŵp
- cefnogi unigolion a grwpiau i ddatblygu diwylliant cefnogol
- annog unigolion i gydnabod a gwerthfawrogi gwerth cydweithio
- helpu unigolion i ddefnyddio cyfleoedd a thechnegau ar gyfer rheoleiddio emosiynol wrth gydweithio
- sicrhau diogelwch unigolion a'u cefnogi i deimlo'n rhan o grwpiau
- cefnogi unigolion a grwpiau i nodi a datrys heriau
- mynd i'r afael ag unrhyw effeithiau negyddol ar unigolion yn y grŵp
- cynorthwyo unigolion ac eraill i roi adborth ar brosesau gofal, effeithiau, a chanlyniadau grwpiau
- gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i nodi a mynd i’r afael â newidiadau i ymarfer gofal grŵp
- cyfrannu at gofnodion ac adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer cefnogi gofal grŵp effeithiol
- myfyrio ar sut y gwnaethoch gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau wrth gefnogi gofal grŵp effeithiol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- yr egwyddorion sy'n sail i weithgareddau gofal grŵp
- sut mae cefnogi datblygiad gweithgareddau gofal grŵp sy'n gynhwysol ac sy’n cefnogi unigolion
- sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i gefnogi gofal grŵp effeithiol
- dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar gefnogi gofal grŵp effeithiol
- dylanwad diwylliant, cefndir a daliadau ysbrydol ar gymryd rhan mewn gofal grŵp
- sut mae annog unigolion i gymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp
- pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth gefnogi gofal grŵp effeithiol
- y mathau o weithgareddau gofal grŵp sy'n addas i’r grwpiau rydych chi’n gweithio gyda nhw
- y mathau o ddyfeisiau ac adnoddau digidol a all gefnogi gofal grŵp effeithiol
- y ffactorau i'w hystyried wrth werthuso ymarfer gofal grŵp
- y gwrthdaro sy'n gallu codi rhwng dewisiadau unigolion mewn grwpiau a sut i ddelio â'r sefyllfaoedd hyn
- technegau i gefnogi rheoleiddio emosiynol mewn lleoliad gofal grŵp
- yr effaith y mae profiadau gofal grŵp cadarnhaol a negyddol yn eu cael ar unigolion, ymddygiad grŵp a chydlyniant
- sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i gefnogi gofal grŵp effeithiol
- y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer cefnogi gofal grŵp effeithiol
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer cefnogi gofal grŵp effeithiol
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth gefnogi gofal grŵp effeithiol
- sut mae eich profiadau personol a'ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth gefnogi gofal grŵp effeithiol, a sut i fynd i'r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth gefnogi gofal grŵp effeithiol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD228
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Gofal Grwp, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu