Cefnogi â gofal ar ôl marwolaeth
URN: HSCCLD227
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi’r gofynion wrth gefnogi â gofal ar ôl marwolaeth yn unol â dewisiadau’r unigolyn. Mae hyn yn cynnwys cyfrannu at ofal personol ar ôl marwolaeth, rhoi cymorth i eraill o ran gweld yr unigolyn sydd wedi marw, a throsglwyddo'r unigolyn sydd wedi marw yn urddasol a pharchus.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi a chytuno rolau a chyfrifoldebau pawb wrth roi gofal ar ôl marwolaeth
- gweithio mewn partneriaeth â phawb sy'n ymwneud â’r gwaith i gytuno ar sut y bydd gofal ar ôl marwolaeth yn cael ei roi yn unol â dewisiadau unigolion ac eraill, a’r amgylchiadau sy’n gysylltiedig â’r farwolaeth
- casglu’r holl bethau ymolchi, deunyddiau, cyfarpar a dillad ar gyfer gofal personol yr unigolyn sydd wedi marw
- sicrhau bod dulliau atal a rheoli heintiau, a chyfarpar diogelu personol, yn cael eu defnyddio
- gweithio mewn partneriaeth ag eraill i gynllunio, cyflawni a chydlynu gofal personol a symud a lleoli’r unigolyn sydd wedi marw
- ymgymryd â gweithgareddau gofal personol, gwisgo ac esthetig ar gyfer yr unigolyn sydd wedi marw mewn ffordd urddasol a pharchus
- gwneud yn siŵr bod adnoddau a chyfarpar yn cael eu gwaredu, eu dychwelyd, neu eu glanhau a'u storio
- dilyn gofynion y gweithle ar gyfer adnabod yr unigolyn sydd wedi marw
- dilyn gofynion y gweithle ar gyfer cofnodi eitemau personol yr unigolyn sydd wedi marw
- glanhau, tacluso a pharatoi amgylcheddau cyn ac ar ôl gweld a throsglwyddo'r unigolyn sydd wedi marw
- cefnogi eraill mewn ffordd urddasol a pharchus a rhoi'r amser, y preifatrwydd a'r cyfleusterau sydd eu hangen arnynt i weld yr unigolyn sydd wedi marw
- cyfrannu at drosglwyddo'r unigolyn sydd wedi marw mewn ffordd urddasol a pharchus sy'n lleihau gofid i eraill
- cyfrannu at gofnodion ac adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer cefnogi â gofal ar ôl marwolaeth
- myfyrio ar sut y gwnaethoch gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau i gefnogi â gofal ar ôl marwolaeth, gydag adborth gan eraill
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut mae cael gafael ar wybodaeth am y dewisiadau ar gyfer gofal ar ôl marwolaeth, a sut mae adolygu’r wybodaeth honno, a pham fod hyn yn bwysig
- dylanwad diwylliant, cefndir a daliadau ysbrydol ar y ffordd mae gofal ar ôl marwolaeth yn cael i roi
- yr amserlenni i’w dilyn ar gyfer gofal ar ôl marwolaeth, a pham eu bod yn bwysig
- yr effaith ar amserlenni os yw’r unigolyn sydd wedi marw yn rhoddwr organau neu feinwe
- sut a pham y mae angen cynnwys eraill yng ngofal personol yr unigolyn sydd wedi marw, a phwysigrwydd eu paratoi a'u cefnogi
- pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth gefnogi â gofal ar ôl marwolaeth
- sut mae rhoi cefnogaeth a chysur i eraill â’u hemosiynau cyn, yn ystod ac ar ôl gweld yr unigolyn sydd wedi marw
- pwysigrwydd defnyddio dulliau cyfathrebu ac iaith yn sensitif wrth gefnogi eraill yn ystod y gofal ar ôl marwolaeth
- cymhlethdod perthnasoedd a’r effaith y gall marwolaeth ei chael
- sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i gefnogi eraill yn ystod y gofal ar ôl marwolaeth
- y mathau o ddyfeisiau ac adnoddau digidol a all gefnogi gofal ar ôl marwolaeth
- y newidiadau corfforol sy'n digwydd ar ôl marwolaeth a sut y gallai hyn effeithio ar symud yr unigolyn sydd wedi marw
- y gwahanol weithgareddau esthetig y gellir eu cyflawni i baratoi'r unigolyn sydd wedi marw ar gyfer cael ei weld
- y gwahanol fathau o bethau ymolchi, deunyddiau a chyfarpar a ddefnyddir ar gyfer gofal personol yr unigolyn sydd wedi marw a phwysigrwydd dewis dillad
- dulliau i sicrhau y cadarnheir yn glir pwy yw’r unigolyn, a pham fod hyn yn bwysig
- sut mae cofnodi eitemau personol a phwysigrwydd nodi a ydynt am gael eu gadael ar yr unigolyn sydd wedi marw
- rôl amgylcheddau, amser, preifatrwydd a chyfleusterau i gefnogi eraill wrth weld yr unigolyn sydd wedi marw
- sut mae trosglwyddo'r unigolyn sydd wedi marw mewn ffordd urddasol a pharchus sy'n lleihau gofid i eraill
- y dulliau atal a rheoli heintiau a ddefnyddir yn ystod y gofal ar ôl marwolaeth, a pham fod hyn yn bwysig
- y cofnodion ac adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer cefnogi â gofal ar ôl marwolaeth
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer cefnogi â gofal ar ôl marwolaeth
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth gefnogi â gofal ar ôl marwolaeth
- sut mae gofyn am gymorth i chi eich hun a chyfeirio eraill am gymorth wrth ymdopi â marwolaeth
- sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill yn ystod y gofal ar ôl marwolaeth
- sut mae ymateb i faterion a phryderon a allai godi wrth gefnogi â gofal ar ôl marwolaeth
- sut mae eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth gefnogi â gofal ar ôl marwolaeth, a sut i fynd i'r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth gefnogi â gofal ar ôl marwolaeth
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD227
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Marwolaeth, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu