Cefnogi unigolion yn ystod sesiynau therapi

URN: HSCCLD226
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo: 2026

Trosolwg

Mae'r safon hon yn nodi’r gofynion wrth gefnogi unigolion yn ystod sesiynau therapi. Mae hyn yn cynnwys cefnogi unigolion yn ystod sesiynau, arsylwi ar y pryd a chyfrannu at werthuso sut mae'r sesiynau'n cyflawni canlyniadau. Mae hefyd yn cynnwys paratoi’r amgylchedd a deunyddiau cyn y sesiynau therapi a’u tacluso wedyn.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau eich hun ac eraill i gefnogi unigolion yn ystod sesiynau therapi  
  2. cael caniatâd a chael gafael ar wybodaeth a chanllawiau am sesiynau therapi a gweithgareddau
  3. gweithio mewn partneriaeth i gadarnhau canlyniadau’r therapi yn unol â dewisiadau, anghenion a chynlluniau therapi unigolion  
  4. gweithio â phawb sy’n ymwneud â’r mater i gytuno ar y cymorth mae unigolion yn ei ffafrio i gymryd rhan mewn sesiynau therapi
  5. helpu unigolion i nodi a chael gafael ar yr wybodaeth, yr adnoddau neu’r cymorth sydd eu hangen arnynt i gymryd rhan mewn sesiynau therapi ac i ofyn cwestiynau  
  6. cyfrannu at gefnogi annibyniaeth unigolion i ddewis a chymryd rhan mewn sesiynau therapi  
  7. paratoi amgylcheddau ac adnoddau ar gyfer gweithgareddau sesiynau therapi
  8. annog, helpu ac arsylwi ar unigolion pan fyddant yn cymryd rhan mewn sesiynau therapi  
  9. cyfrannu at helpu unigolion ac eraill i roi adborth ar sut mae’r sesiynau therapi wedi cwrdd â dewisiadau, anghenion a’r canlyniadau y mae unigolion wedi cytuno arnynt  
  10. cyfrannu eich arsylwadau at yr adborth  
  11. cyfrannu at y newidiadau sydd eu hangen i gefnogi unigolion i gymryd rhan mewn sesiynau therapi  
  12. glanhau a dychwelyd adnoddau i’r man storio a gwneud yn siŵr bod amgylcheddau’n cael eu gadael yn daclus ac yn ddiogel ar ôl y sesiynau therapi
  13. cyfrannu at gofnodion ac adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer sesiynau therapi  
  14. myfyrio ar sut y gwnaethoch gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau i gefnogi unigolion i gymryd rhan mewn sesiynau therapi, gydag adborth gan eraill

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gwahanol fathau o sesiynau therapi a’r canlyniadau maent yn gobeithio eu cyflawni
  2. rôl sesiynau therapi ar hunaniaeth a hunan-barch unigolion  
  3. sut mae cael gafael ar wybodaeth am unigolion a sesiynau therapi, a’i hadolygu  
  4. sut mae cael gafael ar asesiadau risg a chynlluniau rheoli risg ar gyfer sesiynau therapi, a’u dilyn
  5. sut mae annog a chefnogi annibyniaeth unigolion i ddewis a chymryd rhan mewn sesiynau therapi  
  6. sut mae cefnogi niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol drwy addasu sesiynau therapi  
  7. sut mae ystyried anghenion unigolion o ran hygyrchedd er mwyn darparu amgylchedd diogel ar gyfer sesiynau therapi  
  8. dylanwad diwylliant, cefndir a ysbrydolrwydd ar ddewis a chymryd rhan mewn sesiynau therapi    
  9. y mathau o wybodaeth, adnoddau a chymorth a allai helpu unigolion yn ystod sesiynau therapi, a sut i gael gafael arnynt  
  10. pam a sut y dylid paratoi amgylcheddau ar gyfer sesiynau therapi, a’u gadael yn daclus ac yn ddiogel wedyn  
  11. pwysigrwydd sicrhau bod adnoddau gweithgareddau yn gweithio’n dda, ac yn cael eu defnyddio'n gywir  
  12. y mathau o arferion cynaliadwy y gellir eu defnyddio ar gyfer sesiynau therapi
  13. sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i gefnogi unigolion cyn, yn ystod ac ar ôl sesiwn therapi  
  14. y mathau o ddyfeisiau ac adnoddau digidol a all gefnogi unigolion yn ystod sesiynau therapi  
  15. sut mae cyflawni, cofnodi ac adrodd ynghylch arsylwadau yn ystod sesiynau therapi  
  16. sut mae gweithio ar y cyd ag unigolion ac eraill i adolygu a rhoi adborth ar sesiynau therapi  
  17. pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth gefnogi unigolion i gymryd rhan mewn sesiynau therapi  
  18. sut mae helpu rheoleiddio emosiynol yn ystod sesiynau therapi  
  19. sut y gall newidiadau i ddewisiadau, amodau ac amgylchiadau unigolion effeithio ar y cymorth sydd ei angen ar gyfer sesiynau therapi  
  20. y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer cefnogi unigolion â sesiynau therapi    
  21. gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth gefnogi unigolion i gymryd rhan mewn sesiynau therapi
  22. sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill yn ystod sesiynau therapi  
  23. sut mae ymateb i faterion a phryderon a allai godi yn ystod sesiynau therapi
  24. sut mae eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth gefnogi unigolion â sesiynau therapi, a sut i fynd i'r afael â hyn
  25. rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth gefnogi unigolion â sesiynau therapi

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2031

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Care and Development

URN gwreiddiol

HSCCLD226

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Therapi, Gweithdrefnau, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu