Cefnogi amgylcheddau, adnoddau ac offer ar gyfer gweithdrefnau gofal iechyd

URN: HSCCLD225
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo: 2026

Trosolwg

Mae’r safon hon yn nodi’r gofynion wrth gefnogi amgylcheddau, adnoddau ac offer ar gyfer gweithdrefnau gofal iechyd. Mae hyn yn cynnwys cefnogi'r unigolyn i baratoi'r amgylchedd, yr adnoddau a’r offer, a monitro'r rhain yn ystod triniaeth yr unigolyn ac ar ôl hynny.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau eich hun, unigolion ac eraill i gefnogi amgylcheddau, adnoddau ac offer ar gyfer gweithdrefnau gofal iechyd  
  2. gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i nodi a chytuno ar sut y bydd amgylcheddau, adnoddau ac offer yn cael eu paratoi a’u monitro, yn unol â dewisiadau, anghenion a gofynion y gweithdrefnau
  3. defnyddio’r sgiliau rydych chi wedi’u dysgu a’u datblygu i baratoi a defnyddio adnoddau ac offer.
  4. sicrhau bod dulliau atal a rheoli heintiau, ac offer diogelu personol, yn cael eu defnyddio
  5. cyfrannu at gasglu’r adnoddau a’r offer sydd eu hangen ar gyfer gweithdrefnau gofal iechyd a gwneud yn siŵr eu bod yn barod i’w defnyddio  
  6. cyfrannu at osod adnoddau ac offer ar gyfer gweithdrefnau gofal iechyd  
  7. helpu unigolion ac eraill i wirio bod goleuadau a thymheredd ystafelloedd yn cwrdd â’u dewisiadau a’u hanghenion, a gofynion y gweithdrefnau  
  8. annog a chefnogi annibyniaeth unigolion a’u preifatrwydd yn ystod gweithdrefnau gofal iechyd  
  9. cefnogi’r defnydd o gyfarpar yn ystod gweithdrefnau, a’u monitro  
  10. gwneud yn siŵr bod adnoddau ac offer sydd wedi cael eu defnyddio yn cael eu gwaredu, eu glanhau neu eu storio  
  11. gwneud yn siŵr bod amgylcheddau ac adnoddau yn cael eu hailstocio ac yn cael eu gadael yn barod i'w defnyddio y tro nesaf  
  12. cyfrannu at gofnodion ac adroddiadau sydd eu hangen i gefnogi amgylcheddau, adnoddau ac offer ar gyfer gweithdrefnau gofal iechyd
  13. myfyrio ar sut y gwnaethoch gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau i gefnogi amgylcheddau, adnoddau ac offer ar gyfer gweithdrefnau gofal iechyd, gydag adborth gan eraill

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut mae cael gafael ar wybodaeth am weithdrefnau gofal iechyd a dewisiadau ac anghenion unigolion, a’i hadolygu
  2. dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar yr amgylcheddau, yr adnoddau a’r offer sydd eu hangen ar gyfer gweithdrefnau gofal iechyd    
  3. dylanwad diwylliant a chefndir ar yr amgylcheddau, yr adnoddau a’r offer sydd eu hangen ar unigolion ar gyfer gweithdrefnau gofal iechyd  
  4. yr ystod o amgylcheddau, adnoddau, offer, a dyfeisiau ac adnoddau digidol a ddefnyddir ar gyfer gweithdrefnau gofal iechyd  
  5. sut mae paratoi a gwirio bod amgylcheddau, adnoddau ac offer yn ddiogel, yn barod i’w defnyddio ac yn addas i unigolion a gweithdrefnau gofal iechyd  
  6. pwysigrwydd paratoi, storio, stocio a chynaliadwyedd adnoddau ar gyfer gweithdrefnau gofal iechyd  
  7. pam mae'n bwysig dilyn cyfarwyddiadau ar gyfer gweithdrefn gofal iechyd
  8. sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i gefnogi unigolion sy’n cael triniaeth gofal iechyd  
  9. sut mae annog a chefnogi annibyniaeth unigolion gyda gweithdrefnau gofal iechyd
  10. pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth gefnogi unigolion â gweithdrefnau gofal iechyd  
  11. sut mae helpu rheoleiddio emosiynol yn ystod gweithdrefnau gofal iechyd  
  12. sut mae lleihau’r risg o haint o amgylcheddau, adnoddau ac offer yn ystod gweithdrefnau gofal iechyd
  13. y mathau o wastraff peryglus a gwastraff nad yw'n beryglus sy’n cael eu cynhyrchu yn ystod gweithdrefnau gofal iechyd, a sut mae cael gwared arnynt yn ddiogel  
  14. sut mae sicrhau hylendid dwylo ac atal a rheoli heintiau yn effeithiol yn ystod gweithdrefnau gofal iechyd  
  15. y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen i gefnogi amgylcheddau, adnoddau ac offer ar gyfer gweithdrefnau gofal iechyd  
  16. y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer cefnogi amgylcheddau, adnoddau ac offer ar gyfer gweithdrefnau gofal iechyd
  17. gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth gefnogi amgylcheddau, adnoddau ac offer ar gyfer gweithdrefnau gofal iechyd  
  18. sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i gefnogi amgylcheddau, adnoddau ac offer ar gyfer gweithdrefnau gofal iechyd
  19. sut mae ymateb i faterion a phryderon a allai godi wrth gefnogi amgylcheddau, adnoddau ac offer ar gyfer gweithdrefnau gofal iechyd
  20. sut mae eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth gefnogi amgylcheddau, adnoddau ac offer ar gyfer gweithdrefnau gofal iechyd, a sut i fynd i'r afael â hyn
  21. rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth gefnogi amgylcheddau, adnoddau ac offer ar gyfer gweithdrefnau gofal iechyd

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2031

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Care and Development

URN gwreiddiol

HSCCLD225

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Offer, Adnoddau, Gofal, Gweithdrefnau, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu