Cefnogi unigolion i ymgymryd â gweithdrefnau gofal iechyd

URN: HSCCLD224
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo: 2026

Trosolwg

Mae'r safon hon yn nodi’r gofynion wrth gefnogi unigolion i ymgymryd â gweithdrefnau gofal iechyd. Mae hyn yn cynnwys gweithio mewn partneriaeth ag unigolion i baratoi ar gyfer y gweithdrefnau, ac ymgymryd â nhw, yn ogystal â dadansoddi ac adrodd ynghylch unrhyw newidiadau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau eich hun ac eraill i gefnogi unigolion gyda gweithdrefnau gofal iechyd  
  2. gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i gadarnhau beth maent yn gallu ei wneud yn annibynnol a pha gymorth sydd ei angen
  3. gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i gytuno ar sut yr ymgymerir â’r gweithdrefnau a sut yr adroddir amdanynt, yn unol â dewisiadau ac anghenion, a gofynion gweithdrefnau  
  4. helpu unigolion ac eraill i nodi a chael gafael ar yr wybodaeth, yr adnoddau a’r offer sydd eu hangen arnynt i ymgymryd â gweithdrefnau
  5. sicrhau bod dulliau atal a rheoli heintiau, ac offer diogelu personol, yn cael eu defnyddio
  6. cefnogi unigolion ac eraill i nodi amser a lle addas ar gyfer gweithdrefnau  
  7. cefnogi unigolion ac eraill i baratoi adnoddau, offer ac amgylchedd  
  8. annog a chefnogi annibyniaeth unigolion i ymgymryd â gweithdrefnau, a defnyddio technegau cywir
  9. cefnogi unigolion ac eraill i ddadansoddi canfyddiadau gweithdrefnau a chymryd y camau gofynnol  
  10. gwneud yn siŵr bod adnoddau ac offer sydd wedi cael eu defnyddio yn cael eu gwaredu, neu eu glanhau a'u storio  
  11. cyfrannu at gofnodion ac adroddiadau sydd eu hangen i gefnogi unigolion i ymgymryd â gweithdrefnau gofal iechyd
  12. myfyrio ar sut y gwnaethoch gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau i gefnogi’r unigolyn i ymgymryd â gweithdrefnau gofal iechyd, gydag adborth gan eraill

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut mae cael gafael ar wybodaeth am gefnogi unigolion â gweithdrefnau gofal iechyd, a’i hadolygu  
  2. y mathau o gyflyrau sy'n gofyn am weithdrefnau gofal iechyd
  3. dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar y cymorth mae unigolion ei angen i ymgymryd â gweithdrefnau gofal iechyd  
  4. dylanwad diwylliant a chefndir ar weithdrefnau monitro gofal iechyd ar gyfer unigolion
  5. y mathau o adnoddau ac offer a ddefnyddir mewn gweithdrefnau gofal iechyd, a phwysigrwydd arferion cynaliadwy
  6. sut mae cael gafael ar wybodaeth, adnoddau, offer ac amgylchedd addas i’r unigolyn ymgymryd â'r weithdrefn, a pham fod hyn yn bwysig
  7. sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i gefnogi unigolion â gweithdrefnau gofal iechyd
  8. pam mae'n bwysig dilyn cyfarwyddiadau ar gyfer gweithdrefnau gofal iechyd  
  9. sut mae annog a chefnogi annibyniaeth unigolion â gweithdrefnau gofal iechyd
  10. pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth gefnogi unigolion â gweithdrefnau gofal iechyd  
  11. sut mae helpu rheoleiddio emosiynol yn ystod gweithdrefnau gofal iechyd
  12. sut mae dadansoddi’r newidiadau a nodwyd yn ystod gweithdrefnau gofal iechyd  
  13. sut mae gwaredu gwastraff peryglus a gwastraff nad yw'n beryglus yn ddiogel  
  14. sut mae sicrhau hylendid dwylo ac atal a rheoli heintiau yn effeithiol yn ystod gweithdrefnau gofal iechyd  
  15. y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer gweithdrefnau gofal iechyd
  16. y mathau o ddyfeisiau ac adnoddau digidol a all gefnogi unigolion â gweithdrefnau gofal iechyd  
  17. y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer cefnogi unigolion i ymgymryd â gweithdrefnau gofal iechyd
  18. gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth gefnogi unigolion â gweithdrefnau gofal iechyd  
  19. sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i gefnogi unigolion i ymgymryd â gweithdrefnau gofal iechyd  
  20. sut mae ymateb i faterion a phryderon a allai godi yn ystod gweithdrefnau gofal iechyd  
  21. sut mae eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth gefnogi unigolion â gweithdrefnau gofal iechyd, a sut i fynd i'r afael â hyn
  22. rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth gefnogi unigolion â gweithdrefnau gofal iechyd

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2031

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Care and Development

URN gwreiddiol

HSCCLD224

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Gofal, Gweithdrefnau, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu