Cefnogi unigolion i fonitro cyflyrau iechyd

URN: HSCCLD223
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo: 2026

Trosolwg

Mae'r safon hon yn nodi’r gofynion wrth gefnogi unigolion i fonitro cyflyrau iechyd. Mae hyn yn cynnwys cefnogi unigolion drwy ymgymryd â’r rôl rydych chi wedi cytuno arni i fonitro cyflwr iechyd unigolion, gan nodi unrhyw newidiadau a chwblhau cofnodion ac adroddiadau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau eich hun ac eraill i fonitro cyflyrau iechyd unigolion  
  2. cael caniatâd a chael gafael ar wybodaeth am gyflyrau iechyd a monitro gofynion unigolion
  3. gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i nodi sut y dylid monitro cyflyrau iechyd ac adrodd amdanynt, yn unol â dewisiadau, anghenion, cynllun gofal neu gymorth, a gofynion monitro penodol yr unigolyn  
  4. gweithio mewn partneriaeth i nodi’r cymorth y mae unigolion ei angen i fonitro cyflyrau iechyd
  5. cefnogi unigolion i nodi a chael gafael ar yr wybodaeth, y cymorth neu’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i fonitro cyflyrau iechyd
  6. annog a chefnogi annibyniaeth unigolion i fonitro cyflyrau iechyd
  7. monitro cyflyrau iechyd yn unol â dewisiadau, anghenion, cynllun gofal neu gymorth, a gofynion monitro penodol unigolion
  8. dilyn y camau gofynnol pan fydd newidiadau yng nghyflwr unigolion  
  9. cyfrannu at adborth i nodi arferion da a’r newidiadau sydd eu hangen i gefnogi unigolion i fonitro cyflyrau iechyd  
  10. cyfrannu at gofnodion ac adroddiadau sydd eu hangen i gefnogi unigolion i fonitro cyflyrau iechyd
  11. myfyrio ar sut y gwnaethoch gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau i gefnogi unigolion i fonitro cyflyrau iechyd, gydag adborth gan eraill

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut mae cael gafael ar wybodaeth am gyflyrau iechyd a gofynion monitro unigolyn, a’i hadolygu
  2. sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i gefnogi unigolion i fonitro cyflyrau iechyd  
  3. dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar y cymorth mae unigolion ei angen i fonitro cyflyrau iechyd
  4. sut mae annog a chefnogi annibyniaeth unigolion i fonitro cyflyrau iechyd
  5. pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth gynorthwyo unigolion i fonitro cyflyrau iechyd
  6. sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol wrth fonitro cyflyrau iechyd  
  7. y mathau o wybodaeth, cymorth ac adnoddau a allai helpu unigolion i ddeall a monitro cyflyrau iechyd
  8. yr ystod o gyflyrau iechyd y mae angen eu monitro, sut y dylid gwneud hyn a'i gofnodi ac adrodd amdano
  9. sut y gall diwylliant a chefndir unigolyn ddylanwadu ar fonitro cyflyrau iechyd  
  10. pwysigrwydd monitro’n gywir ac effaith hyn ar gyflyrau iechyd  
  11. pwysigrwydd arsylwi wrth fonitro cyflyrau iechyd
  12. yr ystod o gyfarpar a ddefnyddir i fonitro cyflyrau iechyd  
  13. y mathau o ddyfeisiau ac adnoddau digidol a all gynorthwyo unigolion i fonitro cyflyrau iechyd
  14. sut y gall newidiadau i ddewisiadau, amodau ac amgylchiadau unigolion effeithio ar weithgarwch monitro  
  15. pam y dylid adrodd ar unwaith ynghylch newidiadau i gyflyrau iechyd neu unrhyw bryderon  
  16. y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer cefnogi unigolion i fonitro cyflyrau iechyd
  17. gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth gefnogi unigolion i fonitro cyflyrau iechyd  
  18. sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i gefnogi unigolion i fonitro cyflyrau iechyd
  19. sut mae ymateb i faterion a phryderon a allai godi wrth gefnogi unigolion i fonitro cyflyrau iechyd  
  20. sut mae eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth gefnogi unigolion i fonitro cyflyrau iechyd, a sut i fynd i'r afael â hyn
  21. rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth gefnogi unigolion i fonitro cyflyrau iechyd

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2031

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Care and Development

URN gwreiddiol

HSCCLD223

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Monitro, Cyflyrau iechyd, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu