Cefnogi’r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu

URN: HSCCLD222
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo: 2026

Trosolwg

Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion wrth gefnogi’r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu. Mae hyn yn cynnwys gweithio mewn partneriaeth â nhw i nodi a chwrdd â’u hanghenion drwy gael gafael ar adnoddau, gwasanaethau a chyfleusterau. Mae'r safon hefyd yn ymdrin â chyfrannu at yr adborth ar adnoddau, gwasanaethau a chyfleusterau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau eich hun ac eraill i gefnogi’r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu  
  2. cefnogi'r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu a'r unigolyn i gytuno ar sut y byddwch yn cyfrannu at weithio mewn partneriaeth  
  3. cefnogi'r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu i gael gafael ar wybodaeth am adnoddau, gwasanaethau neu gyfleusterau a fydd yn mynd i'r afael â'u hanghenion  
  4. cefnogi’r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu i ddewis adnoddau, gwasanaethau neu gyfleusterau i gwrdd â’u dewisiadau a’u hanghenion  
  5. cyfrannu at nodi a mynd i'r afael â bylchau yn y ddarpariaeth, heriau neu risgiau i unigolion tra bod y rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu yn defnyddio adnoddau, gwasanaethau a chyfleusterau
  6. cefnogi'r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu i gael gafael ar adnoddau, gwasanaethau a chyfleusterau penodol, a’u defnyddio  
  7. cyfrannu at adborth ar sut mae adnoddau, gwasanaethau a chyfleusterau wedi cwrdd ag anghenion y rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu  
  8. cefnogi’r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu ac unigolion i nodi a rhoi unrhyw newidiadau sydd eu hangen ar waith  
  9. cyfrannu at gofnodion ac adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer cefnogi’r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu
  10. myfyrio ar sut y gwnaethoch gyflawni eich rôl a'ch cyfrifoldebau i gefnogi’r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu, gydag adborth gan eraill

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut mae cefnogi'r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu i gymryd cyfrifoldeb dros eu llesiant eu hunain  
  2. pwysigrwydd hamdden, chwarae neu weithgareddau i lesiant y rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu
  3. yr hawl i gael cefnogaeth yn y rôl ofalu  
  4. yr effaith y gall gofalu am unigolion ei chael ar y rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu
  5. pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth gefnogi’r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu
  6. sut mae cynorthwyo rheoleiddio emosiynol y rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu    
  7. rôl y rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu o ran hybu dewis ac anghenion unigolion
  8. dylanwad diwylliant a chefndir ar weithio mewn partneriaeth i gefnogi unigolion  
  9. sut mae cefnogi’r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu i gael gafael ar wybodaeth am adnoddau, gwasanaethau a chyfleusterau i gwrdd â’u hanghenion, ac adolygu’r wybodaeth honno  
  10. y mathau o ddyfeisiau ac adnoddau digidol a all gefnogi’r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu
  11. dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar y rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu
  12. sut y gall newidiadau i ddewisiadau, amodau ac amgylchiadau unigolion a’r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu effeithio ar y cymorth sydd ei angen
  13. sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i gefnogi’r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu
  14. sut gall pŵer gael ei ddefnyddio a’i gamddefnyddio mewn perthynas
  15. y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer cefnogi’r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu
  16. y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer cefnogi’r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu
  17. gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth gefnogi’r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu
  18. sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i gefnogi’r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu ac unigolion  
  19. sut mae ymateb i wahaniaethu, gweithredu neu ddiffyg gweithredu, a allai effeithio ar y rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu neu unigolion
  20. sut mae eich profiadau personol a'ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth gefnogi’r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu, a sut i fynd i'r afael â hyn
  21. rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth gefnogi’r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2031

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Care and Development

URN gwreiddiol

HSCCLD222

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Cyfrifoldeb Gofalu, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu