Cefnogi unigolion i ddatblygu a chynnal perthynas
URN: HSCCLD221
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi’r gofynion wrth gefnogi unigolion i ddatblygu a chynnal perthynas. Mae hyn yn cynnwys cefnogi unigolion i nodi’r perthnasoedd sy'n bwysig iddynt ynghyd â'u cefnogi i ddatblygu a chynnal eu perthynas.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael caniatâd a chael gafael ar wybodaeth am ddewisiadau ac anghenion unigolion o ran perthynas ag eraill
- cyfrannu at nodi’r perthnasoedd sy’n bwysig i unigolion, a’u hanghenion o ran perthnasoedd nawr ac yn y dyfodol
- gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i gyfrannu at gynllunio sut gall unigolion ddatblygu a chynnal perthynas
- cynorthwyo unigolion ac eraill i gael gafael ar yr wybodaeth neu’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i ddatblygu neu gynnal perthynas
- cyfrannu at gefnogi unigolion i feithrin perthynas ag eraill
- cyfrannu at arsylwi rhyngweithiadau rhwng unigolion ac eraill a sicrhau cydbwysedd rhwng preifatrwydd, diogelwch ac ymyrryd
- cefnogi unigolion ac eraill i fyfyrio ar ryngweithiadau a nodi manteision a heriau
- cyfrannu at gefnogi unigolion os yw perthnasoedd yn cael eu cynnal neu yn gorffen
- cyfrannu at gofnodion ac adroddiadau sydd eu hangen i weithio gydag unigolion i ddatblygu neu gynnal perthynas
- myfyrio ar sut y gwnaethoch gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau wrth weithio gydag unigolion i ddatblygu a chynnal perthynas, gydag adborth gan eraill
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- rôl perthnasoedd o ran llesiant unigolion
- sut mae helpu unigolion i gyfathrebu eu hanghenion o ran perthnasoedd nawr ac yn y dyfodol
- sut mae cyfrannu at ddatblygu perthynas gadarnhaol
- y mathau o ddyfeisiau ac adnoddau digidol a all helpu unigolion i ddatblygu a chynnal perthynas
- pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth gefnogi unigolion i ddatblygu a chynnal perthynas
- y ffactorau a allai effeithio ar berthynas
- dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar y ffordd mae perthnasoedd yn cael eu datblygu a’u cynnal
- dylanwad diwylliant, cefndir ac ysbrydolrwydd ar y ffordd mae perthnasoedd yn cael eu datblygu a’u cynnal
- yr effaith y gall perthynas ag unigolion ei chael ar eraill
- sut mae helpu rheoleiddio emosiynol wrth ddatblygu a chynnal perthnasoedd
- sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma I helpu unigolion i ddatblygu a chynnal perthynas
- sut mae cael gafael ar wybodaeth am unigolion a’u perthnasoedd ag eraill
- sut mae cyfrannu at arsylwi rhyngweithiadau rhwng unigolion ac eraill a sut mae sicrhau cydbwysedd rhwng preifatrwydd, diogelwch ac ymyrryd
- sut gall pŵer gael ei ddefnyddio a’i gamddefnyddio mewn perthynas
- sut y gall colled a newid mewn perthnasoedd effeithio ar unigolion
- sut mae ymateb i faterion a phryderon a allai godi wrth gefnogi unigolion i gynnal perthynas
- y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen i gefnogi unigolion i ddatblygu a chynnal perthynas
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer cefnogi unigolion i ddatblygu a chynnal perthynas
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth gefnogi unigolion i ddatblygu a chynnal perthynas
- sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i gefnogi unigolion i ddatblygu a chynnal perthynas
- sut mae eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth gefnogi unigolion i ddatblygu a chynnal perthynas, a sut i fynd i’r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth gefnogi unigolion i ddatblygu a chynnal perthynas
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD221
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Perthynas, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu