Cefnogi unigolion i gymryd rhan mewn gweithgareddau

URN: HSCCLD220
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo: 2026

Trosolwg

Mae'r safon hon yn nodi’r gofynion wrth gefnogi unigolion i gymryd rhan mewn gweithgareddau. Mae'r safon yn cynnwys paratoi ar gyfer gweithgareddau unigol a grŵp sy’n newydd a pharhaus, cefnogi cyfranogiad a chyfrannu at werthuso'r gweithgareddau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau eich hun ac eraill i gefnogi unigolion i gymryd rhan mewn gweithgareddau  
  2. cael caniatâd a chael gafael ar wybodaeth am unigolion a gweithgareddau  
  3. gweithio mewn partneriaeth i gadarnhau canlyniadau gweithgareddau yn unol â dewisiadau, anghenion, a chynlluniau gofal neu gymorth unigolion
  4. gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i nodi a chytuno ar y cymorth mae unigolion yn ei ffafrio i gymryd rhan mewn gweithgareddau newydd a pharhaus  
  5. helpu unigolion i nodi a chael gafael ar yr wybodaeth, yr adnoddau neu’r cymorth sydd eu hangen arnynt i gymryd rhan mewn gweithgareddau  
  6. annog a chefnogi annibyniaeth unigolion i ddewis a chymryd rhan mewn gweithgareddau
  7. annog a helpu unigolion pan fyddant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau
  8. helpu unigolion ac eraill i roi adborth ar sut mae’r gweithgareddau wedi cwrdd â dewisiadau, anghenion a’r canlyniadau y mae unigolion wedi cytuno arnynt  
  9. cyfrannu at adborth ar sut roedd gweithgareddau wedi cwrdd â dewisiadau, anghenion a’r canlyniadau y mae unigolion wedi cytuno arnynt
  10. gweithio mewn partneriaeth i gyfrannu at y newidiadau sydd eu hangen i gefnogi unigolion i gymryd rhan mewn gweithgareddau  
  11. cyfrannu at gofnodion ac adroddiadau sydd eu hangen i gefnogi unigolion i gymryd rhan mewn gweithgareddau  
  12. myfyrio ar sut y gwnaethoch gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau i gefnogi unigolion i gymryd rhan mewn gweithgareddau, gydag adborth gan eraill

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. rôl gweithgareddau ar hunaniaeth a hunan-barch unigolion  
  2. sut mae cael gafael ar wybodaeth am unigolion a gweithgareddau, a’i hadolygu  
  3. sut mae cael gafael ar asesiadau risg a chynlluniau rheoli risg ar gyfer gweithgareddau unigol a grŵp, a’u dilyn  
  4. sut mae annog a chefnogi annibyniaeth unigolion i ddewis a chymryd rhan mewn gweithgareddau unigol a grŵp
  5. sut mae cefnogi niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol unigolion drwy addasu gweithgareddau
  6. sut mae ystyried anghenion unigolion o ran hygyrchedd er mwyn darparu amgylchedd diogel ar gyfer gweithgareddau    
  7. dylanwad diwylliant, cefndir ac ysbrydolrwydd ar ddewis a chymryd rhan mewn gweithgareddau  
  8. y mathau o wybodaeth, adnoddau a chymorth a allai helpu unigolion yn ystod gweithgareddau, a sut i gael gafael arnynt
  9. y mathau o arferion cynaliadwy y gellir eu defnyddio ar gyfer gweithgareddau  
  10. y gwahanol fathau o weithgareddau unigol a grŵp a'r canlyniadau y byddant yn eu cyflawni
  11. sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i gefnogi unigolion i gymryd rhan mewn gweithgareddau  
  12. y mathau o ddyfeisiau ac adnoddau digidol a all helpu unigolion i gymryd rhan mewn gweithgareddau  
  13. sut mae gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i adolygu a rhoi adborth ar weithgareddau
  14. pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth gefnogi unigolion i gymryd rhan mewn gweithgareddau  
  15. sut mae helpu rheoleiddio emosiynol yn ystod gweithgareddau  
  16. sut y gall newidiadau i ddewisiadau, amodau ac amgylchiadau unigolion effeithio ar y cymorth sydd ei angen ar gyfer gweithgareddau  
  17. y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen i gefnogi unigolion i gymryd rhan mewn gweithgareddau
  18. y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer cefnogi unigolion â gweithgareddau  
  19. gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth gefnogi unigolion i gymryd rhan mewn gweithgareddau
  20. sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i gefnogi unigolion i gymryd rhan mewn gweithgareddau  
  21. sut mae ymateb i faterion a phryderon a allai godi yn ystod gweithgareddau unigol a grŵp
  22. sut mae eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth gefnogi unigolion â gweithgareddau, a sut i fynd i'r afael â hyn
  23. rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth gefnogi unigolion â gweithgareddau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2031

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Care and Development

URN gwreiddiol

HSCCLD220

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Gweithgareddau, Cymryd Rhan, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu