Cefnogi gweithle iach a diogel

URN: HSCCLD22
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo: 2026

Trosolwg

Mae'r safon hon yn nodi’r gofynion wrth gefnogi gweithle iach a diogel. Mae hyn yn cynnwys cefnogi'r gwaith o gynnal iechyd a diogelwch yn y gweithle a chyfrannu at arferion gweithio sy'n iach ac yn ddiogel.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau eich hun, unigolion ac eraill i gefnogi gweithle iach a diogel  
  2. dilyn gweithdrefnau iechyd a diogelwch ac asesiadau risg
  3. sicrhau eich hylendid personol, eich iechyd a’ch ymddangosiad i gefnogi gweithle iach a diogel  
  4. rheoli eich iechyd meddwl a’ch llesiant meddyliol a gofyn am gymorth ar gyfer pryderon yn y gweithle  
  5. cyfrannu at arferion diogelwch yn y gweithle  
  6. defnyddio dulliau adnabod yn y gweithle a bod yn ymwybodol o bwy sydd yno  
  7. nodi peryglon iechyd a diogelwch mewn amgylcheddau gwaith  
  8. asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â pheryglon iechyd a diogelwch
  9. dilyn prosesau'r gweithle i ymdrin â risgiau a nodwyd yn unol â'ch rôl, eich cyfrifoldebau a'ch lleoliad  
  10. cynorthwyo unigolion neu eraill sy'n ymwneud â sefyllfaoedd peryglus a sicrhau unrhyw gymorth pellach
  11. cyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau i gyfrannu at reoli peryglon nes byddant wedi cael eu datrys neu eu trosglwyddo i rywun arall
  12. gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i adolygu a chytuno ar gamau i atal neu leihau peryglon pellach
  13. defnyddio camau y cytunwyd arnynt ac asesiadau risg i gyfrannu at atal neu leihau peryglon
  14. cyfrannu at baratoi ar gyfer argyfyngau o fewn eich maes cyfrifoldeb, yn unol â gweithdrefnau ac asesiadau risg y gweithle
  15. cyfrannu at gofnodion ac adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer cefnogi gweithle iach a diogel  
  16. myfyrio ar sut y gwnaethoch gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau i gefnogi gweithle iach a diogel, gydag adborth gan eraill

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. agweddau ar eich hylendid, eich iechyd a’ch ymddangosiad eich hun a all gefnogi gweithle iach a diogel  
  2. rôl atal a rheoli heintiau a chyfarpar diogelu personol wrth gefnogi gweithle iach a diogel
  3. sut mae cael cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith a'r effaith y gall hyn ei chael
  4. achosion cyffredin straen yn y gweithle  
  5. pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth gefnogi gweithle iach a diogel  
  6. y mathau o ddyfeisiau ac adnoddau digidol a all gefnogi gweithle iach a diogel
  7. y gweithdrefnau iechyd a diogelwch a’r asesiadau risg i’w dilyn yn y gweithle
  8. rôl asesiadau risg o ran rheoli risgiau a chefnogi unigolion i gymryd risgiau cadarnhaol
  9. dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar asesiadau risg iechyd a diogelwch    
  10. gwahanol fathau o beryglon iechyd a diogelwch a all godi yn eich gweithle  
  11. gwahanol fathau o argyfyngau a all godi yn eich gweithle  
  12. sut mae eich rôl, eich cyfrifoldebau a'ch lleoliad yn dylanwadu ar y ffordd rydych yn delio â sefyllfaoedd peryglus
  13. sut mae asesu a lleihau risgiau mewn sefyllfaoedd peryglus  
  14. sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol mewn sefyllfaoedd brys a pheryglus
  15. ffyrdd o gynorthwyo unigolion ac eraill yn ystod sefyllfaoedd brys a pheryglus
  16. sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i gefnogi gweithle iach a diogel  
  17. eich cyfrifoldeb i gadw chi eich hun, unigolion ac eraill yn ddiogel yn y gweithle
  18. dylanwad diwylliant a chefndir ar ganfyddiadau o beryglon iechyd a diogelwch    
  19. sut mae monitro pwy sydd yn y gweithle a ble maen nhw  
  20. ystyriaethau allweddol wrth weithio ar eich pen eich hun yn unol â gweithdrefnau'r gweithle  
  21. y mathau o ymarferion argyfwng a pha mor aml y cânt eu cynnal, a sut rydych chi’n cyfrannu at baratoi ar gyfer argyfyngau
  22. y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer cefnogi gweithle iach a diogel
  23. y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer cefnogi gweithle iach a diogel
  24. gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth gefnogi gweithle iach a diogel
  25. sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i gefnogi gweithle iach a diogel  
  26. sut mae eich profiadau personol a'ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth gefnogi gweithle iach a diogel, a sut i fynd i'r afael â hyn
  27. rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth gefnogi gweithle iach a diogel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2031

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Care and Development

URN gwreiddiol

HSCCLD22

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Iach, Diogel, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu