Cefnogi unigolion i gael gafael ar wybodaeth am wasanaethau a chyfleusterau
URN: HSCCLD219
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn amlinellu’r gofynion wrth gefnogi unigolion i gael gafael ar wybodaeth am wasanaethau a chyfleusterau, a’i defnyddio. Mae hyn yn cynnwys cefnogi'r unigolyn i gael gafael ar wybodaeth, a'i defnyddio, ac yna gwerthuso ac adrodd yn ôl.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i nodi eu dewisiadau a’u hanghenion am wasanaethau a chyfleusterau
- gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i gael gybodaeth hygyrch am wasanaethau a chyfleusterau
- adolygu a nodi dewisiadau unigolion o'r gwasanaethau a'r cyfleusterau sydd ar gael
- cefnogi unigolion ac eraill i ddefnyddio gwybodaeth i nodi unrhyw heriau neu risgiau sy'n gysylltiedig â gwasanaethau a chyfleusterau, a mynd i'r afael â'r rhain
- cefnogi unigolion ac eraill i ddewis gwasanaethau a chyfleusterau sy'n cwrdd â’u dewisiadau a’u hanghenion
- gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i adrodd yn ôl ynghylch effeithiolrwydd yr wybodaeth am wasanaethau a chyfleusterau o ran cwrdd â’u dewisiadau a’u hanghenion
- cefnogi unigolion ac eraill i nodi newidiadau a fyddai’n gwella effeithiolrwydd yr wybodaeth am wasanaethau a chyfleusterau
- annog unigolion ac eraill i adrodd yn ôl i wasanaethau a chyfleusterau ynghylch effeithiolrwydd yr wybodaeth
- cyfrannu at gofnodion ac adroddiadau sydd eu hangen i gefnogi unigolion i ar wybodaeth am wasanaethau a chyfleusterau
- myfyrio ar sut y gwnaethoch gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau i gefnogi unigolion i gael gafael ar wybodaeth am wasanaethau a chyfleusterau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y mathau o wasanaethau a chyfleusterau sydd ar gael i unigolion
- sut mae cefnogi unigolion ac eraill i gael gafael ar wybodaeth am wasanaethau a chyfleusterau, gan gynnwys defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol
- pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth gefnogi unigolion i gael gafael ar wybodaeth am wasanaethau a chyfleusterau
- dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol wrth gael gafael ar wybodaeth a’i chyflwyno
- dylanwad diwylliant, cefndir a daliadau ysbrydol ar y gwasanaethau a’r cyfleusterau y mae unigolion eu hangen
- sut mae cefnogi unigolion ac eraill i adolygu a gwerthuso gwybodaeth am wasanaethau a chyfleusterau
- pwysigrwydd bod yr wybodaeth am wasanaethau a chyfleusterau yn berthnasol ac yn gyfredol a phwy i roi gwybod iddynt pan nad yw hynny'n wir
- sut mae cefnogi unigolion ac eraill i nodi a rhoi gwybod am unrhyw wybodaeth sy’n wahaniaethol neu’n annefnyddiol
- sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol wrth gael gafael ar wybodaeth am wasanaethau a chyfleusterau
- ffyrdd o ddarparu gwybodaeth mewn fformatau sy’n hygyrch ac yn gynaliadwy
- sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i gefnogi unigolion i gael gafael ar wybodaeth am wasanaethau a chyfleusterau
- y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen i gefnogi unigolion i gael gafael ar wybodaeth am wasanaethau a chyfleusterau
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer cefnogi unigolion i gael gafael ar wybodaeth am wasanaethau a chyfleusterau
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth gefnogi unigolion i gael gafael ar wybodaeth am wasanaethau a chyfleusterau
- Sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i gefnogi unigolion i gael gafael ar wybodaeth am wasanaethau a chyfleusterau
- sut mae eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth gefnogi unigolion i gael gafael ar wybodaeth am wasanaethau a chyfleusterau, a sut i fynd i'r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth gefnogi unigolion i gael gafael ar wybodaeth am wasanaethau a chyfleusterau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD219
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Gwybodaeth, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu