Cefnogi unigolion i fwyta ac yfed

URN: HSCCLD218
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo: 2026

Trosolwg

Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion wrth gefnogi unigolion sydd angen cymorth i fwyta ac yfed. Mae hyn yn cynnwys paratoi ar gyfer bwyta ac yfed, cefnogi unigolion pan fyddant yn bwyta ac yn yfed ac ar ôl hynny.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael caniatâd a chael gafael ar wybodaeth a chynlluniau gofal neu gymorth am ddewisiadau a gofynion maeth unigolion
  2. gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i nodi’r cymorth sydd ei angen i fwyta ac yfed  
  3. sicrhau bod dulliau atal a rheoli heintiau, a chyfarpar diogelu personol, yn cael eu defnyddio  
  4. cefnogi unigolion i baratoi amgylcheddau ar gyfer profiadau dymunol, diogel a chymdeithasol
  5. dewis, paratoi ac annog unigolion i ddefnyddio unrhyw gyfarpar arbenigol a gorchuddion diogelwch  
  6. cefnogi unigolion i ddewis bwyd a diod sy'n cwrdd â’u dewisiadau a’u hanghenion
  7. cefnogi unigolion i fwyta ac yfed gyda pharch, urddas a chysur  
  8. cefnogi unigolion i ddewis hynny o fwyd a diod y gallant ymdopi ag ef a’i fwyta ac yfed ar eu cyflymder eu hunain  
  9. cefnogi unigolion â hylendid personol tra byddant yn bwyta ac yfed, ac ar ôl iddynt orffen  
  10. cadarnhau bod yr unigolyn wedi gorffen bwyta ac yfed ac a lwyddwyd i gwrdd â’i ofynion maeth a'i ddewisiadau
  11. clirio’r offer a'r llestri sydd wedi cael eu defnyddio a chael gwared ar wastraff  
  12. gadael yr amgylchedd yn lân ac yn barod i'w ddefnyddio y tro nesaf
  13. cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen i gefnogi unigolion i fwyta ac yfed
  14. myfyrio ar sut y gwnaethoch gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau i gefnogi unigolion i fwyta ac yfed

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sail a phwysigrwydd deiet iach
  2. pwysigrwydd darparu amrywiaeth o opsiynau i gefnogi dewis o fwyd a diod
  3. sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i gefnogi unigolion i fwyta ac yfed  
  4. dylanwad diwylliant, cefndir a daliadau ysbrydol ar y ffordd mae bwyd yn cael ei ddewis, ei baratoi a’i fwyta  
  5. sut y gall gwead, blas a golwg bwyd a diod effeithio ar unigolion  
  6. effaith cyflyrau meddygol ar ofynion deietegol unigolion
  7. dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol wrth gefnogi unigolion i fwyta ac yfed  
  8. sut gellir addasu gwahanol offer a’u defnyddio i gwrdd ag anghenion unigolion
  9. y mathau o gyfarpar arbenigol a gorchuddion diogelwch a sut i’w defnyddio  
  10. y mathau o ddyfeisiau ac adnoddau digidol a all gefnogi unigolion i fwyta ac yfed
  11. sut mae amgylcheddau yn gallu cefnogi profiadau dymunol, diogel a chymdeithasol  
  12. pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth gefnogi unigolion â bwyd a diod    
  13. sut mae cadarnhau bod unigolion wedi bwyta ac yfed digon i gwrdd â’u gofynion maeth  
  14. rôl emosiynau wrth fwyta ac yfed a sut mae cefnogi unigolion i’w rheoleiddio  
  15. y mathau o atchwanegiadau maethol a pham eu bod yn cael eu defnyddio  
  16. ffactorau risg ac arwyddion diffyg maeth  
  17. arwyddion a symptomau dadhydradu a sut i hybu hydradu  
  18. rhagofalon diogelwch bwyd a chanlyniadau posibl ymarfer gwael  
  19. sut mae sicrhau hylendid dwylo effeithiol a'i rôl o ran atal a rheoli heintiau wrth drin bwyd a diod  
  20. sut mae mynd i'r afael ag unrhyw broblemau â bwyd a diod, a phwysigrwydd trosglwyddo gwybodaeth i eraill  
  21. sut mae adnabod adwaith iechyd annisgwyl sydyn ac argyfwng gyda bwyd a diod, a sut mae ymdopi â nhw  
  22. sut mae cofnodi newidiadau i ddewisiadau ac anghenion gofal neu gymorth unigolyn, a pham fod hyn yn bwysig  
  23. y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer cefnogi unigolion i fwyta ac yfed  
  24. gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth gefnogi unigolion i fwyta ac yfed  
  25. sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i gefnogi unigolion i fwyta ac yfed  
  26. sut mae eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth gefnogi unigolion i fwyta ac yfed, a sut i fynd i'r afael â hyn  
  27. rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth gefnogi unigolion i fwyta ac yfed

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2031

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Care and Development

URN gwreiddiol

HSCCLD218

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Bwyta, Yfed, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu