Cefnogi unigolion i baratoi bwyd a diod

URN: HSCCLD217
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo: 2026

Trosolwg

Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion wrth gefnogi unigolion i baratoi bwyd a diod. Mae hyn yn cynnwys cefnogi unigolion i ddewis a pharatoi bwyd a diod. Mae hefyd yn cynnwys cyflwyno bwyd a diod a chlirio ar ôl gorffen.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael caniatâd a gafael ar wybodaeth am ofynion maeth, dewisiadau ac anghenion unigolion
  2. gweithio mewn partneriaeth ag unigolion i ddewis o’r bwyd a diod sydd ar gael ac ystyried dewisiadau eraill addas  
  3. sicrhau bod dulliau atal a rheoli heintiau, a chyfarpar diogelu personol, yn cael eu defnyddio
  4. cefnogi unigolion i nodi gofynion coginio a pharatoi’r bwyd a ddewiswyd
  5. gwneud yn siŵr nad yw’r cynhwysion wedi mynd heibio eu dyddiad defnyddio a'u bod wedi cael eu storio yn unol â'r gofynion
  6. paratoi arwynebau gwaith, offer coginio, a chyfarpar  
  7. cefnogi unigolion i baratoi’r bwyd a diod maen nhw wedi’i ddewis i sicrhau ei fod yn cwrdd â’u dewisiadau ac yn lleihau unrhyw risgiau a nodwyd  
  8. paratoi'r amgylchedd fel bod y profiad bwyta yn ddymunol, yn ddiogel ac yn gymdeithasol  
  9. cefnogi unigolion i fwyta ac yfed gyda pharch, urddas a chysur  
  10. clirio offer a llestri sydd wedi cael eu defnyddio  
  11. cefnogi unigolion i gadw neu gael gwared ar fwyd a diod yn ddiogel  
  12. glanhau arwynebau gwaith, offer, llestri a chyfarpar  
  13. cyfrannu at gofnodion ac adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer paratoi bwyd a diod  
  14. myfyrio ar sut y gwnaethoch gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau i gefnogi unigolion i baratoi bwyd a diod, gydag adborth gan eraill

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sail a phwysigrwydd deiet iach  
  2. sut mae dewis mathau, cyfuniadau a chyfrannau o gynhwysion a fydd yn creu pryd iach, gan gynnwys deietau arbennig
  3. pwysigrwydd darparu amrywiaeth o opsiynau i gefnogi dewis o fwyd a diod
  4. sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma wrth gefnogi unigolion i baratoi bwyd a diod  
  5. dylanwad diwylliant, cefndir a daliadau ysbrydol ar y ffordd y dylai bwyd gael ei ddewis, ei baratoi a’i fwyta  
  6. sut y gall gwead, blas a golwg bwyd a diod effeithio ar unigolion  
  7. y mathau o ddyfeisiau ac adnoddau digidol a all gynorthwyo unigolion i baratoi bwyd a diod
  8. sut mae darllen a dehongli labeli bwyd, a pham fod hyn yn bwysig
  9. dulliau a thechnegau coginio sy'n addas ar gyfer y cynhwysion, ac arferion cynaliadwy
  10. effaith cyflyrau meddygol ar ofynion deietegol unigolion
  11. dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol wrth gefnogi unigolion i baratoi bwyd a diod
  12. sut gellir addasu gwahanol offer a’u defnyddio i gwrdd ag anghenion unigolion  
  13. y mathau o gyfarpar arbenigol a gorchuddion diogelwch a sut i’w defnyddio
  14. sut mae’r amgylchedd yn gallu cefnogi profiad dymunol, diogel a chymdeithasol
  15. pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth gefnogi unigolion â bwyd a diod  
  16. sut mae cadarnhau bod unigolion wedi bwyta ac yfed digon i gwrdd â’u gofynion maeth  
  17. rôl emosiynau wrth ddewis bwyd a diod a sut mae cefnogi unigolion i’w rheoleiddio  
  18. y mathau o atchwanegiadau maethol, a’u defnydd  
  19. ffactorau risg ac arwyddion diffyg maeth  
  20. arwyddion a symptomau dadhydradu a sut i hybu hydradu  
  21. rhagofalon diogelwch bwyd a chanlyniadau posibl ymarfer gwael  
  22. sut mae sicrhau hylendid dwylo effeithiol a'i rôl o ran atal a rheoli heintiau wrth drin bwyd a diod
  23. sut mae mynd i'r afael ag unrhyw broblemau â bwyd a diod, a phwysigrwydd trosglwyddo gwybodaeth i eraill  
  24. sut mae adnabod adwaith iechyd annisgwyl sydyn ac argyfwng gyda bwyd a diod, a sut mae ymdopi â nhw
  25. sut mae cofnodi a rhoi gwybod am newidiadau i ddewisiadau ac anghenion gofal unigolyn, a pham fod hyn yn bwysig
  26. y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer cefnogi unigolion i baratoi bwyd a diod  
  27. gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth gefnogi unigolion â bwyd a diod
  28. sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i gefnogi unigolion i baratoi bwyd a diod
  29. sut mae eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth gefnogi unigolion i baratoi bwyd a diod, a sut i fynd i'r afael â hyn
  30. rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth gefnogi unigolion i baratoi bwyd a diod

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2031

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Care and Development

URN gwreiddiol

HSCCLD217

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Paratoi, Bwyd, Diod, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu