Cefnogi unigolion i deithio

URN: HSCCLD216
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo: 2026

Trosolwg

Mae'r safon hon yn nodi’r gofynion wrth gefnogi unigolion i deithio. Mae hyn yn cynnwys cynllunio’r daith a hebrwng yr unigolyn ar y daith os oes angen. Mae hefyd yn cynnwys rhoi adborth a chyfrannu at addasu’r teithiau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau eich hun ac eraill i gefnogi unigolion i deithio  
  2. cefnogi unigolion ac eraill i gytuno ar bwrpas y teithiau  
  3. gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i gadarnhau gyda pha rannau o deithiau mae unigolion angen cymorth  
  4. gweithio mewn partneriaeth i gytuno ar faint o deithiau fydd yn cael eu gwneud yn unol â dewisiadau ac anghenion unigolion
  5. cefnogi unigolion i nodi a chael gafael ar y cymorth a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt ar gyfer teithio  
  6. cefnogi unigolion i baratoi ar gyfer teithiau  
  7. annog a chefnogi annibyniaeth unigolion yn ystod teithiau  
  8. cefnogi unigolion ac eraill i roi adborth ar sut mae’r teithiau wedi cwrdd â dewisiadau unigolion a'r pwrpas y cytunwyd arno  
  9. rhoi adborth ar sut mae’r teithiau wedi cwrdd â dewisiadau unigolion a’r pwrpas y cytunwyd arno  
  10. gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i gytuno ar unrhyw newidiadau i’r teithiau  
  11. cyfrannu at gofnodion ac adroddiadau sydd eu hangen i gefnogi unigolion i deithio  
  12. myfyrio ar sut y gwnaethoch gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau i gefnogi unigolion i deithio, gydag adborth gan eraill

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut mae cael gafael ar wybodaeth am unigolion, a’i hadolygu, a’r cymorth sydd ei angen i deithio  
  2. sut mae cael gafael ar yr asesiad risg ar gyfer teithiau, a’i ddilyn
  3. dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar y cynllunio sydd ei angen i deithio  
  4. sut mae diwylliant a chefndir yn dylanwadu ar y cynllunio a’r cymorth sydd eu hangen i deithio  
  5. y mathau o ddyfeisiau ac adnoddau digidol a all gefnogi unigolion i deithio
  6. y mathau o wybodaeth a chymorth ychwanegol a allai helpu unigolion i deithio, a sut i gael gafael arnynt
  7. sut mae cefnogi unigolion i ystyried cynaliadwyedd wrth gynllunio teithiau
  8. y paratoadau y mae angen i unigolion eu gwneud cyn teithio
  9. sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i gefnogi unigolion i deithio
  10. sut mae annog a chefnogi annibyniaeth unigolion yn ystod teithiau    
  11. sut mae gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i adolygu a rhoi adborth ar deithiau  
  12. sut y gall newidiadau i ddewisiadau, amodau ac amgylchiadau unigolion effeithio ar deithiau
  13. pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth gefnogi unigolion i deithio  
  14. sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol wrth gynllunio a theithio  
  15. sut y gall ffactorau allanol effeithio ar deithiau
  16. y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen i gefnogi unigolion i deithio
  17. y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer cefnogi unigolion i deithio  
  18. gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth gefnogi unigolion i deithio  
  19. sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i gefnogi unigolion i deithio  
  20. sut mae ymateb i faterion a phryderon a allai godi wrth gefnogi unigolion i deithio  
  21. sut mae eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth gefnogi unigolion i deithio, a sut i fynd i'r afael â hyn
  22. rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth gefnogi unigolion i deithio

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2031

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Care and Development

URN gwreiddiol

HSCCLD216

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Teithio, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu