Cefnogi unigolion i symud o gwmpas mannau penodol
URN: HSCCLD215
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn amlinellu’r gofynion wrth helpu unigolion i symud o gwmpas yn ddiogel ac yn annibynnol mewn mannau penodol. Mae hyn yn cynnwys cefnogi unigolion mewn mannau dan do ac yn yr awyr agored, fel eu cartrefi, eu gweithleoedd neu eu cymunedau. Mae'n golygu gweithio gydag unigolion i asesu eu galluoedd, symud o gwmpas a dod o hyd i’r ffordd, a gwerthuso cynnydd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael caniatâd a chael gafael ar wybodaeth am symudedd, galluoedd a dewisiadau unigolion wrth symud o gwmpas mannau penodol
- cefnogi unigolion i nodi eu canlyniadau ar gyfer symud a dod o hyd i’r ffordd yn ddiogel ac yn annibynnol
- gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i asesu eu cryfderau, diogelwch ac annibyniaeth pan fyddant yn symud o gwmpas ac yn dod o hyd i’r ffordd
- cefnogi unigolion i asesu cryfderau a chyfyngiadau’r cymorth a’r cymhorthion sydd ar gael
- cefnogi unigolion i asesu heriau a risgiau sy’n gysylltiedig â hygyrchedd
- cyfrannu at gael gafael ar wybodaeth, cyngor a chymorth am heriau a risgiau sy’n gysylltiedig â hygyrchedd
- cael gafael ar wybodaeth am rwydweithiau presennol a allai ddarparu cymorth ychwanegol
- cefnogi unigolion i wneud penderfyniadau am lefel y cymorth sydd ei angen
- cefnogi ac annog unigolion i symud o gwmpas yn ddiogel ac yn annibynnol gan ddefnyddio’r lefelau cymorth y cytunwyd arnynt
- cyfrannu at arsylwi unigolion wrth iddynt symud o gwmpas a dod o hyd i’r ffordd mewn mannau penodol
- cyfrannu eich arsylwadau i adrodd yn ôl ar gynnydd a chanlyniadau gyda’r unigolyn ac eraill, a nodi’r newidiadau sydd eu hangen
- cyfrannu at gofnodion ac adroddiadau sydd eu hangen i gefnogi unigolion i symud o gwmpas mannau penodol
- myfyriwch ar sut y gwnaethoch gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau wrth gefnogi unigolion i symud o gwmpas mannau penodol, gydag adborth gan eraill
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut mae cael gafael ar wybodaeth am unigolion a’u gallu i symud o gwmpas a dod o hyd i’r ffordd mewn mannau penodol, a sut mae adolygu ac adrodd yn ôl ynghylch yr wybodaeth honno
- sut mae cael gafael ar asesiad risg unigolyn i’w gefnogi i symud o gwmpas a dod o hyd i’r ffordd mewn mannau penodol, a’i ddilyn
- sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i gefnogi unigolion i symud o gwmpas a dod o hyd i’r ffordd mewn mannau penodol
- y ffactorau cymdeithasol, emosiynol a chorfforol sy'n effeithio ar annibyniaeth a diogelwch unigolion wrth symud o gwmpas a dod o hyd i’r ffordd
- heriau hygyrchedd sy'n effeithio ar ddiogelwch ac annibyniaeth yr unigolyn
- dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar sut mae unigolion yn symud o gwmpas ac yn dod o hyd i’r ffordd mewn mannau penodol
- dylanwad diwylliant a chefndir ar sut mae unigolion yn symud o gwmpas ac yn dod o hyd i’r ffordd mewn mannau penodol
- manteision iechyd a llesiant symud yn amlach
- sut mae cefnogi unigolion i gynllunio mannau byw fel bod modd symud cymaint â phosibl a lleihau’r risgiau
- y mathau o gymhorthion a chyfarpar a all gefnogi unigolion i symud o gwmpas a dod o hyd i’r ffordd yn ddiogel ac yn annibynnol
- y mathau o ddyfeisiau ac adnoddau digidol a all gefnogi unigolion i symud o gwmpas mannau penodol
- sut mae creu amgylcheddau cynaliadwy diogel, cynhwysol ac sy’n ystyriol o’r synhwyrau
- pwysigrwydd sicrhau bod cymhorthion symud yn lân, yn gweithio, ac yn cael eu defnyddio'n gywir
- dulliau o roi cymorth corfforol diogel i unigolion fel bod modd iddynt symud o gwmpas a dod o hyd i’r ffordd mewn mannau penodol
- pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth gefnogi unigolion i symud o gwmpas a dod o hyd i’r ffordd mewn mannau penodol
- sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol wrth symud o gwmpas a dod o hyd i’r ffordd mewn mannau penodol
- y peryglon a’r risgiau posibl wrth gefnogi unigolyn i symud o gwmpas a dod o hyd i’r ffordd mewn mannau penodol
- gwasanaethau sy’n rhoi cyngor, arweiniad a chymorth penodol ynghylch hygyrchedd a symud o gwmpas mannau penodol
- y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen i gefnogi unigolion i symud o gwmpas mannau penodol
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer cefnogi unigolion i symud o gwmpas mannau penodol
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth gefnogi unigolion i symud o gwmpas a dod o hyd i’r ffordd mewn mannau penodol
- sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i gefnogi unigolion i symud o gwmpas mannau penodol
- sut mae ymateb i faterion a phryderon a allai godi wrth gefnogi unigolion i symud o gwmpas mannau penodol
- sut mae eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth gefnogi unigolion i symud o gwmpas mannau penodol
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth gefnogi unigolion i symud o gwmpas mannau penodol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD215
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Symud, Mannau Penodol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu