Cefnogi unigolion i barhau i symud
URN: HSCCLD214
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi’r gofynion wrth weithio gydag unigolion i’w cefnogi i barhau i symud. Mae hyn yn cynnwys paratoi ar gyfer gweithgareddau i barhau i symud a chefnogi unigolion yn ystod y gweithgareddau hyn. Mae hefyd yn cynnwys cyfrannu at fonitro’r gweithgareddau a gallu unigolion i symud.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael caniatâd a chael gafael ar wybodaeth am ofynion unigolion o ran symudedd
- gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i gytuno ar ffyrdd i barhau i symud yn unol â dewisiadau ac anghenion, a chynlluniau gofal neu gymorth
- gwneud yn siŵr bod cymhorthion symud yn ddiogel ac yn barod i’w defnyddio
- paratoi amgylcheddau ar gyfer gweithgareddau symud
- cefnogi unigolion i ddewis a gwisgo esgidiau a dillad sy'n addas ar gyfer gweithgareddau symud
- cefnogi unigolion i ddefnyddio cymhorthion symud yn unol â chynlluniau gofal neu gymorth
- annog a chefnogi annibyniaeth unigolion gyda gweithgareddau symud
- cefnogi unigolion ac eraill i roi adborth ar sut mae gweithgareddau symud wedi cwrdd â’u dewisiadau a'u hanghenion i barhau i symud
- cyfrannu at adborth ar sut mae cymhorthion symud a gweithgareddau wedi bodloni dewisiadau ac anghenion unigolion i barhau i symud
- gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i nodi a chytuno ar unrhyw newidiadau i weithgareddau symud
- cyfrannu at gofnodion ac adroddiadau sydd eu hangen i gynorthwyo unigolion i barhau i symud
- myfyrio ar sut y gwnaethoch gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau i gefnogi unigolion i barhau i symud, gydag adborth gan eraill
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut mae cael gafael ar wybodaeth am unigolion a’u gofynion o ran symudedd, a’i hadolygu
- sut mae’r corff yn symud mewn perthynas â symudedd
- cyfyngiadau unigolion o ran symudedd a'r effaith y gallai hyn ei chael
- dylanwad diwylliant a chefndir ar weithgareddau symud a gofynion unigolion
- sut mae cyflyrau iechyd yn gallu effeithio ar symudiadau a symudedd
- dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar allu unigolion i symud
- manteision defnyddio cymhorthion symud addas a chefnogi annibyniaeth mewn gweithgareddau symud
- pwysigrwydd sicrhau bod cymhorthion symud yn lân, yn gweithio’n dda, ac yn cael eu defnyddio'n ddiogel
- y mathau o ddyfeisiau ac adnoddau digidol a all gynorthwyo unigolion i barhau i symud
- sut mae defnyddio cymhorthion symud a chael yr wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau
- dulliau o roi cymorth i unigolion wrth symud
- pwysigrwydd amgylchedd ac arwynebau cerdded diogel wrth symud
- sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i gynorthwyo unigolion i barhau i symud
- sut mae gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i adolygu a rhoi adborth ar gymhorthion symud a gweithgareddau
- sut y gall newidiadau i ddewisiadau, amodau ac amgylchiadau unigolion effeithio ar y cymhorthion symud a ddefnyddir a’r dewis o ran gweithgarwch
- pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth gynorthwyo unigolion i barhau i symud
- sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol yn ystod gweithgareddau symud
- y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen i gefnogi unigolion i barhau i symud
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer cynorthwyo unigolion i barhau i symud
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth gefnogi unigolion i barhau i symud
- sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i gefnogi unigolion i barhau i symud
- sut mae ymateb i faterion a phryderon a allai godi yn ystod y gweithgaredd symud
- sut mae eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth gefnogi unigolion i barhau i symud, a sut i fynd i'r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth gefnogi unigolion i barhau i symud
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD214
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Symud Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu