Cefnogi unigolion i symud a lleoli
URN: HSCCLD213
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi’r gofynion ar gyfer yr adegau pan fyddwch yn cefnogi unigolion i symud a lleoli drwy weithio mewn partneriaeth â’r unigolyn drwy gydol yr amser. Mae hyn hefyd yn cynnwys paratoi eich hun, yr amgylchedd a chyfarpar cyn i chi gynorthwyo unigolion i symud a lleoli.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael caniatâd a chael gafael ar wybodaeth am ofynion symud a lleoli unigolion
- gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i nodi a chytuno ar gymorth symud a lleoli, yn unol â dewisiadau, anghenion, a chynllun gofal neu gymorth unigolion
- gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i gytuno ar ddulliau a chyfarpar sydd eu hangen i gynorthwyo unigolion i symud a lleoli, yn unol â dewisiadau, anghenion, a chynllun gofal neu gymorth
- gweithio mewn partneriaeth ag eraill i gynllunio, cyflawni, a chydlynu'r gwaith o symud a lleoli
- gwisgo esgidiau a dillad addas i gynorthwyo unigolion i symud a lleoli
- sicrhau bod dulliau atal a rheoli heintiau, a chyfarpar diogelu personol, yn cael eu defnyddio
- paratoi amgylcheddau i gynorthwyo unigolion i symud a lleoli
- casglu a pharatoi’r cyfarpar sydd ei angen i gynorthwyo unigolion i symud a lleoli
- annog a chefnogi annibyniaeth unigolion i symud a lleoli
- cynorthwyo unigolion i symud a lleoli mewn ffyrdd sy'n lleihau poen, anghysur a ffrithiant
- cynorthwyo unigolion i wneud yn siŵr bod eu safle yn cwrdd â’u dewisiadau a’u hanghenion o ran cysur
- sicrhau bod amgylcheddau’n cael eu gadael yn daclus ac yn ddiogel
- glanhau a dychwelyd cyfarpar, gan ei adael yn barod i'w ddefnyddio y tro nesaf
- cyfrannu at gofnodion ac adroddiadau sydd eu hangen i gynorthwyo unigolion i symud a lleoli
- myfyrio ar sut y gwnaethoch gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau i gynorthwyo unigolion i symud a lleoli, gydag adborth gan eraill
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut mae cael gafael ar wybodaeth am ddewisiadau ac anghenion yr unigolyn, a gofynion ei gynllun gofal neu gymorth, ar gyfer symud a lleoli, a’i hadolygu
- dylanwad diwylliant a chefndir ar y cymorth mae unigolion ei angen ar gyfer symud a lleoli
- sut mae annog a chefnogi annibyniaeth unigolion i symud a lleoli, a pham fod hyn yn bwysig
- cyfyngiadau unigolion o ran symudedd, a sut mae eu cynorthwyo i symud a lleoli
- sut mae cyflyrau iechyd yn gallu effeithio ar symud a lleoli unigolion
- sut mae'r corff yn symud ac effeithiau ansymudedd ar gyhyrau, cymalau, poen, anghysur a mannau pwyso
- dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar y cymorth mae unigolion ei angen i symud a lleoli
- effaith bosibl o gwympiadau a sut i’w hatal
- pwysigrwydd symud a lleoli'n gywir o ran cyfanrwydd y croen a briwiau pwyso
- y mathau o gyfarpar y gellir ei ddefnyddio i gefnogi unigolion i symud a lleoli, gan gynnwys defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol
- pwysigrwydd sicrhau bod cyfarpar yn lân, yn gweithio’n dda, ac yn cael ei ddefnyddio'n gywir
- pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth ag eraill i gynllunio, cyflawni, a chydlynu symudiadau
- sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i gefnogi unigolion i symud a lleoli
- dulliau o roi cymorth corfforol diogel i unigolion wrth symud a lleoli
- pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth gefnogi unigolion i symud a lleoli
- sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol wrth symud a lleoli
- sut mae sicrhau hylendid dwylo effeithiol a defnyddio cyfarpar diogelu personol i symud a lleoli unigolion, a pham fod hyn yn bwysig
- pam a sut y dylid paratoi amgylcheddau a’u gadael yn daclus ac yn ddiogel wedyn
- sut y gall newidiadau i ddewisiadau, amodau ac amgylchiadau effeithio ar y ffordd mae unigolion yn cael eu symud a’u lleoli
- y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen i gefnogi unigolion i symud a lleoli
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer cefnogi unigolion i symud a lleoli
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth gefnogi unigolion i symud a lleoli
- sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i gefnogi unigolion i symud a lleoli
- sut mae ymateb i faterion a phryderon a allai godi wrth gefnogi unigolion i symud a lleoli
- sut mae eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth gefnogi unigolion i symud a lleoli, a sut i fynd i'r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth gefnogi unigolion i symud a lleoli
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD213
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Symud, Lleoli, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu