Cefnogi anghenion cysur corfforol unigolion

URN: HSCCLD212
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo: 2026

Trosolwg

Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion wrth gefnogi anghenion cysur corfforol unigolion. Mae hyn yn cynnwys cefnogi unigolion i fynd i'r afael â'r boen neu'r anghysur maen nhw'n ei brofi a helpu i ddarparu amodau sy'n sicrhau cysur ac yn hwyluso gorffwys effeithiol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau eich hun ac eraill i gefnogi anghenion cysur corfforol unigolion  
  2. gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i nodi ffyrdd o reoli eu poen neu anghysur
  3. gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i nodi eu dewisiadau a’u hanghenion o ran cymorth fel bod modd iddynt orffwys yn gysurus
  4. cefnogi unigolion i nodi a chael gafael ar yr wybodaeth, y cymorth neu’r adnoddau sydd eu hangen arnynt ar gyfer eu cysur corfforol  
  5. annog unigolion i roi gwybod pan fyddant yn profi poen neu anghysur  
  6. annog a chefnogi annibyniaeth unigolion i ddefnyddio dulliau hunangymorth i reoli poen neu anghysur
  7. cefnogi unigolion i ddod o hyd i ystumiau’r corff sy'n addas ac yn gysurus ar gyfer gorffwys, yn unol â’u dewisiadau a’u hanghenion  
  8. sicrhau bod amgylcheddau’n addas i unigolion orffwys yn gysurus
  9. sicrhau bod eich gweithredoedd chi a gweithredoedd pobl eraill yn hybu amodau cysurus a thawel  
  10. monitro unigolion i nodi newidiadau o ran eu poen neu anghysur  
  11. cyfrannu at gofnodion ac adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer anghenion unigolion o ran cysur corfforol
  12. myfyrio, gydag adborth gan eraill ar sut y gwnaethoch gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau i gefnogi anghenion cysur corfforol unigolion

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. effaith poen neu anghysur ar unigolion
  2. sut mae annog a chefnogi annibyniaeth unigolion i reoli poen neu anghysur
  3. pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth gefnogi unigolion â’u hanghenion o ran cysur corfforol
  4. sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol wrth reoli poen neu anghysur  
  5. y mathau o wybodaeth, cymorth ac adnoddau a allai helpu unigolion â’u hanghenion o ran cysur corfforol, a sut i gael gafael arnynt
  6. dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar reoli poen neu anghysur
  7. dylanwad diwylliant, cefndir a daliadau ysbrydolrwydd ar reoli poen neu anghysur  
  8. y mathau o gyfarpar, adnoddau dyfeisiau ac adnoddau digidol i gefnogi unigolion â’u hanghenion o ran cysur corfforol, a sut i asesu pa mor addas ydynt
  9. sut y gall newidiadau i ddewisiadau, amodau ac amgylchiadau unigolion effeithio ar eu hanghenion o ran cysur corfforol a pha gamau i’w cymryd
  10. sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i gynorthwyo unigolion â’u hanghenion o ran cysur corfforol
  11. sut mae poen, anghysur a gorffwys yn gallu effeithio ar ei gilydd
  12. gwahanol ystumiau’r corff sy'n addas i orffwys yn gysurus a ffactorau a allai effeithio ar ystumiau’r corff
  13. agweddau ar yr amgylchedd a allai effeithio ar amodau tawel  
  14. sut y gallai poen ac anghysur unigolion effeithio ar bobl eraill
  15. pam y dylid trosglwyddo ceisiadau am feddyginiaeth lleddfu poen ychwanegol neu unrhyw bryderon ar unwaith  
  16. y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer cefnogi ag anghenion unigolion o ran cysur corfforol
  17. y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer cefnogi ag anghenion unigolion o ran cysur corfforol
  18. gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth gefnogi unigolion â’u hanghenion o ran cysur corfforol
  19. sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i gefnogi unigolion â’u hanghenion o ran cysur corfforol  
  20. sut mae eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth gefnogi unigolion â’u hanghenion o ran cysur corfforol, a sut i fynd i'r afael â hyn
  21. rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth gefnogi unigolion â’u hanghenion o ran cysur corfforol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2031

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Care and Development

URN gwreiddiol

HSCCLD212

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Cysur corfforol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu