Cefnogi unigolion i reoli ymataliaeth

URN: HSCCLD211
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo: 2026

Trosolwg

Mae'r safon hon yn nodi’r gofynion wrth gefnogi unigolion i reoli ymataliaeth. Mae hyn yn cynnwys cymorth gyda strategaethau i hybu a rheoli ymataliaeth, fel trefn toiledu’r unigolyn, adnoddau a’r defnydd o gymhorthion ymataliaeth.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael caniatâd a chael gafael ar wybodaeth am drefniadau toiledu, iechyd y bledren a’r coluddyn, a’r cymorth sydd ei angen ar unigolion i reoli ymataliaeth  
  2. gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i nodi a chytuno ar strategaethau i hybu a rheoli ymataliaeth yn unol â dewisiadau, anghenion, a chynllun gofal neu gymorth unigolion
  3. annog a chefnogi annibyniaeth unigolion i ddewis, cael mynediad a defnyddio cyfleusterau toiled  
  4. sicrhau bod dulliau atal a rheoli heintiau, a chyfarpar diogelu personol, yn cael eu defnyddio
  5. cynorthwyo unigolion i gasglu’r cymhorthion neu’r adnoddau sy’n ofynnol a’u rhoi fel bod modd cael gafael arnynt  
  6. gwneud yn siŵr bod unigolion yn gallu galw am gymorth  
  7. cefnogi annibyniaeth unigolion i sicrhau hylendid personol ar ôl defnyddio’r cyfleusterau toiled  
  8. cefnogi annibyniaeth unigolion i ddefnyddio unrhyw gymhorthion neu adnoddau  
  9. cefnogi unigolion i fonitro iechyd a gweithred y bledren a’r coluddyn
  10. gwneud yn siŵr bod gwastraff y corff yn cael ei glirio a’i waredu’n ddiogel
  11. gwneud yn siŵr bod cymhorthion neu adnoddau sydd wedi cael eu defnyddio yn cael eu gwaredu neu eu glanhau a'u storio  
  12. gwneud yn siŵr bod y cyfleusterau toiled yn cael eu gadael yn lân ac yn barod i'w defnyddio y tro nesaf  
  13. gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i fonitro a nodi unrhyw newidiadau sydd eu hangen i hybu a rheoli ymataliaeth
  14. cyfrannu at gofnodion ac adroddiadau sydd eu hangen i gefnogi unigolion i reoli ymataliaeth
  15. myfyrio ar sut y gwnaethoch gyflawni eich rôl a'ch cyfrifoldebau i gefnogi unigolion i reoli ymataliaeth, gydag adborth gan eraill

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut mae cael gafael ar wybodaeth am gefnogi â threfn toiledu ac ymataliaeth unigolyn, a’i hadolygu
  2. effeithiau cyflyrau meddygol a meddyginiaeth ar iechyd y bledren a’r coluddyn, trefn toiledu ac ymataliaeth  
  3. effeithiau deiet a symudedd ar iechyd y bledren a’r coluddyn, trefn toiledu ac ymataliaeth  
  4. sut y gall yr adeg o’r dydd effeithio ar weithred y bledren a’r coluddyn, a’r effaith ar y drefn toiledu ac ymataliaeth
  5. arwyddion a symptomau haint y llwybr wrinol a sut y gellir ei drin
  6. arwyddion a symptomau rhwymedd a sut y gellir ei drin
  7. ffyrdd o fonitro, mesur, cofnodi a rhoi gwybod am iechyd a gweithred y bledren a’r coluddyn, a pham fod hyn yn bwysig
  8. pwysigrwydd caniatáu preifatrwydd a pheidio â rhuthro unigolion pan fyddant yn defnyddio’r cyfleusterau toiled
  9. pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth gynorthwyo unigolion i reoli ymataliaeth  
  10. sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol wrth hybu a rheoli ymataliaeth
  11. y gwahanol opsiynau o ran cyfleusterau toiled sydd ar gael i unigolion a’r mathau o gyfarpar a ddefnyddir i addasu’r cyfleusterau hynny  
  12. yr ystod a’r defnydd o gymhorthion ymataliaeth a phwysigrwydd arferion cynaliadwy  
  13. y mathau o ddyfeisiau ac adnoddau digidol a all gefnogi unigolion i reoli ymataliaeth
  14. y gwahanol lefelau o gymorth sydd ei angen ar unigolion i reoli trefniadau toiledu ac ymataliaeth
  15. dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar drefniadau toiledu a sut mae ymataliaeth yn cael ei reoli  
  16. dylanwad diwylliant a chefndir ar drefniadau toiledu a sut mae ymataliaeth yn cael ei reoli  
  17. yr ystod o opsiynau hylendid personol sydd ar gael i gynorthwyo unigolion ar ôl defnyddio’r cyfleusterau toiled
  18. effaith y dewis o ran dillad o ran pa mor hawdd ydy defnyddio'r cyfleusterau toiled a chymhorthion ymataliaeth  
  19. sut y gall newidiadau i ddewisiadau, amodau ac amgylchiadau unigolion effeithio ar hybu a rheoli ymataliaeth
  20. sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i gynorthwyo unigolion i reoli ymataliaeth  
  21. sut mae trin a gwaredu gwastraff y corff, adnoddau a ddefnyddir ar gyfer hylendid personol, a chymhorthion ymataliaeth sydd wedi cael eu defnyddio, mewn ffordd ddiogel  
  22. sut mae sicrhau hylendid dwylo effeithiol a phwysigrwydd defnyddio cyfarpar diogelu personol  
  23. pwysigrwydd gwneud yn siŵr bod y cyfleusterau toiled yn cael eu gadael yn lân ac yn barod i'w defnyddio y tro nesaf  
  24. y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer cefnogi unigolion i reoli ymataliaeth
  25. gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth gefnogi unigolion i reoli ymataliaeth  
  26. sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i gefnogi unigolion i reoli ymataliaeth  
  27. sut mae ymateb i faterion a phryderon a allai godi gyda threfniadau toiledu ac ymataliaeth unigolion  
  28. sut mae eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth gynorthwyo unigolion i reoli ymataliaeth, a sut i fynd i'r afael â hyn
  29. rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth gefnogi unigolion i reoli ymataliaeth

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2031

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Care and Development

URN gwreiddiol

HSCCLD211

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Ymataliaeth, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu