Cynorthwyo unigolion â’u hanghenion gofal personol
URN: HSCCLD210
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi’r gofynion wrth gynorthwyo unigolion â’u hanghenion gofal personol. Mae hyn yn cynnwys cynorthwyo unigolion i sicrhau hylendid personol eu corff, eu hewinedd a'u dannedd ac i reoli gwisgo amdanynt a’u hymddangosiad personol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau eich hun ac eraill i gynorthwyo unigolion â’u hanghenion gofal personol
- gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i gadarnhau beth mae’r unigolyn yn gallu ei wneud yn annibynnol a pha gymorth sydd ei angen
- gweithio mewn partneriaeth i gytuno ar sut i wneud gofal personol yn unol ag anghenion, dewisiadau, a chynllun gofal neu gymorth unigolion
- sicrhau bod dulliau atal a rheoli heintiau, ac offer diogelu personol, yn cael eu defnyddio
- cynorthwyo unigolion i gasglu’r holl adnoddau sy’n ofynnol ar gyfer hylendid personol a gwisgo, a’u rhoi yn rhywle sydd o fewn cyrraedd
- cynorthwyo unigolion i wneud yn siŵr bod tymheredd yr ystafell a thymheredd y dŵr yn cwrdd â’u dewisiadau
- annog a chefnogi annibyniaeth unigolion mewn perthynas â hylendid y corff
- annog a chefnogi annibyniaeth unigolion mewn perthynas â gofal dwylo, traed ac ewinedd
- annog a chefnogi annibyniaeth unigolion mewn perthynas â gofal dannedd a deintgig
- annog a chefnogi annibyniaeth unigolion mewn perthynas â gwisgo a’u hymddangosiad
- cynorthwyo unigolion i wneud yn siŵr bod eu hylendid personol a’u hymddangosiad yn cwrdd â’u hanghenion a’u dewisiadau
- cynorthwyo unigolion i lanhau, dychwelyd, a storio eu heitemau personol
- gwneud yn siŵr bod yr amgylchedd yn cael ei adael yn barod i'w ddefnyddio y tro nesaf
- cyfrannu at gofnodion ac adroddiadau sydd eu hangen i gynorthwyo unigolion â’u hanghenion gofal personol
- myfyrio ar sut y gwnaethoch gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau i gynorthwyo unigolion â’u hanghenion gofal personol, gydag adborth gan eraill
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut mae cael gafael ar wybodaeth am unigolion a’u hanghenion gofal personol, a’i hadolygu
- sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i gynorthwyo unigolion â’u hanghenion gofal personol
- sut mae annog a chefnogi annibyniaeth unigolion mewn perthynas â gofal personol, a pham fod hyn yn bwysig
- pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth gynorthwyo unigolion â’u gofal personol
- sut mae cynorthwyo rheoleiddio emosiynol yn ystod gweithgareddau gofal personol
- sut y gall newidiadau i ddewisiadau, amodau ac amgylchiadau unigolion effeithio ar anghenion gofal personol
- dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar y cymorth sydd ei angen ar gyfer gofal personol
- dylanwad diwylliant, cefndir ac ysbrydolrwydd ar anghenion gofal personol unigolion
- y gwahanol fathau o bethau ymolchi, deunyddiau ac offer a ddefnyddir ar gyfer gofal personol, a phwysigrwydd arferion cynaliadwy
- y mathau o ddyfeisiau ac adnoddau digidol a all gynorthwyo unigolion â’u hanghenion gofal personol
- sut mae cynorthwyo unigolion i alw am gymorth os oes angen
- pwysigrwydd gwirio tymheredd yr ystafell a thymheredd y dŵr
- pam mae hylendid y corff yn bwysig a’r effaith ar iechyd a llesiant
- sut mae cadw’r croen yn iach, ac arwyddion sy'n dangos newidiadau neu ddirywiad
- sut mae cynorthwyo unigolion i ofalu am eu dannedd a'u deintgig, ac arwyddion sy'n dangos newidiadau neu ddirywiad
- effaith gofal deintyddol afreolaidd ar allu cyfathrebu, maeth, ymddangosiad, iechyd ac ansawdd bywyd yr unigolyn
- sut mae gofalu am y dwylo, y traed a’r ewinedd, ac arwyddion sy'n dangos newidiadau neu ddirywiad
- sut mae cefnogi dewisiadau unigolion o ran rheoli gwallt dydy’n nhw ddim eisiau ar y pen neu’r corff
- sut mae cefnogi dewisiadau unigolion o ran golchi, cribo, sychu a steilio'u gwallt
- pwysigrwydd dillad ac ymddangosiad yr unigolyn i’w hunaniaeth
- gwahanol fathau o brostheteg a chymhorthion cosmetig y gall unigolion eu defnyddio
- sut mae sicrhau hylendid dwylo effeithiol a defnyddio cyfarpar diogelu personol wrth ymgymryd â gofal personol, a pham fod hyn yn bwysig
- pwysigrwydd gwneud yn siŵr bod yr amgylchedd yn cael ei adael yn lân ac yn barod i'w ddefnyddio y tro nesaf
- y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen i gynorthwyo unigolion â’u hanghenion gofal personol
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer cynorthwyo unigolion â’u hanghenion gofal personol
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth gynorthwyo unigolion â gofal personol
- sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i gynorthwyo unigolion â’u hanghenion gofal personol
- sut mae ymateb i faterion a phryderon a allai godi yn ystod gofal personol
- sut mae eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth gynorthwyo unigolion â’u hanghenion gofal personol, a sut i fynd i'r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth gynorthwyo unigolion â’u hanghenion gofal personol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD210
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Gofal personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu