Cefnogi cyfathrebu effeithiol
URN: HSCCLD21
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion wrth gefnogi unigolion i gyfathrebu yn effeithiol. Mae hyn yn cynnwys nodi’r ffordd orau o gyfathrebu ag unigolion a’u cefnogi i gyfathrebu. Mae hefyd yn mynd i'r afael â'ch sgiliau cyfathrebu personol, a sut rydych chi'n cyfrannu at gofnodion ac adroddiadau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael caniatâd a chael gafael ar wybodaeth am ddewisiadau ac anghenion cyfathrebu unigolion
- cadarnhau beth yw’r dull cyfathrebu sy’n cael ei ffafrio gan unigolion
- cyfrannu at nodi arddulliau cyfathrebu llafar a di-lafar unigolion
- cyfrannu at drefnu amgylcheddau a safleoedd i gyfathrebu mor effeithiol â phosibl
- helpu unigolion i ddefnyddio unrhyw gymorth, cymhorthion, dyfeisiau ac adnoddau digidol ar gyfer cyfathrebu
- defnyddio ffyrdd o gyfathrebu sy'n addas i gynnwys a phwrpas y rhyngweithiadau.
- cefnogi annibyniaeth unigolion i fynegi eu meddyliau ac emosiynau
- defnyddio lefel, tôn a chyflymder iaith addas i hybu cyfranogiad a chyd-ddealltwriaeth o'r rhyngweithiadau
- gwrando ac ymateb mewn ffordd sy'n dangos eich bod yn gwerthfawrogi ac yn parchu unigolion
- addasu eich ffyrdd o gyfathrebu i gwrdd â dewisiadau ac anghenion unigolion.
- cyfrannu at gyfnewid gwybodaeth ag eraill i lywio eu gwaith nhw a'ch gwaith chi
- cyfrannu at gofnodion ac adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer cyfathrebu effeithiol
- myfyrio ar sut y gwnaethoch gyflawni eich rôl a'ch cyfrifoldebau i gynorthwyo â chyfathrebu effeithiol, gydag adborth gan eraill
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut mae cael gafael ar wybodaeth a chymorth i ddatblygu eich sgiliau cyfathrebu
- sut mae gwahaniaethau a phrofiadau yn gallu effeithio ar y ffordd mae unigolion yn cyfathrebu
- dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar anghenion cyfathrebu ac iaith unigolion ac eraill
- dylanwad diwylliant a chefndir ar sgiliau cyfathrebu llafar a di-lafar unigolion ac eraill
- ffactorau sy'n gallu cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar sgiliau cyfathrebu a datblygiad iaith
- sut mae cyfathrebu’n gallu effeithio ar hunaniaeth a hunan-barch unigolion
- pa gamau i'w cymryd os yw cyfathrebu'n cyfleu straen neu drallod
- pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi o ran cyfathrebu effeithiol
- gwahanol fathau o gymhorthion, dyfeisiau ac adnoddau digidol i gynorthwyo wrth gyfathrebu
- sut mae trefnu amgylcheddau a safleoedd i gyfathrebu mor effeithiol â phosibl
- sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i gynorthwyo â chyfathrebu effeithiol
- sut mae adnabod ymddygiad fel ffordd o gyfathrebu
- sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol wrth gyfathrebu
- rôl rhyngweithio wrth ddatblygu a chynorthwyo â sgiliau iaith a chyfathrebu unigolion
- pwysigrwydd chwarae neu weithgareddau o ran cynorthwyo â chyfathrebu effeithiol
- egwyddorion gwrando gweithredol
- sut mae cael caniatâd i weld cofnodion ac adroddiadau
- gofynion y gweithle ar gyfer cyfrannu at gofnodion ac adroddiadau
- y gwahaniaeth rhwng ffaith, barn a dyfarniad wrth gofnodi gwybodaeth
- pam mae cyfathrebu proffesiynol yn bwysig yn y gweithle
- sut mae ymateb i faterion a phryderon a allai effeithio ar hawliau unigolion o ran cyfathrebu effeithiol
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer cefnogi cyfathrebu effeithiol
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth gefnogi cyfathrebu effeithiol
- sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i gefnogi cyfathrebu effeithiol
- sut mae eich profiadau personol a'ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth gefnogi cyfathrebu effeithiol, a sut i fynd i'r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu o ran cyfathrebu effeithiol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD21
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Cyfathrebu, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu