Sefydlu a chynnal manylion a chofnodion buddsoddwyr

URN: FSPSI02
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Buddsoddi
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 01 Maw 2017

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â sefydlu a chynnal manylion a chofnodion buddsoddwyr a sicrhau bod cofnodion buddsoddwyr yn gywir ac wedi'u diweddaru. Gall hyn olygu creu cofnodion ar gyfer buddsoddwyr newydd a chynnal cofnodion buddsoddwyr sydd gennych eisoes. Bydd angen i chi sicrhau bod gennych chi'r holl wybodaeth ofynnol i'ch galluogi i greu neu ddiweddaru eu cofnodion. Bydd angen datrys unrhyw broblemau neu anghysondebau a nodir yn ystod y prosesu. Bydd angen i chi ddefnyddio gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon ac yn foesegol, gan roi sylw i fanylion sy'n hanfodol i'ch gwaith.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Casglu'r holl wybodaeth neu'r dogfennau sy'n angenrheidiol i greu neu gynnal cofnodion buddsoddwyr
  2. Egluro unrhyw wybodaeth sy'n aneglur a chasglu gwybodaeth ychwanegol lle bo angen, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  3. Prosesu gwybodaeth a dderbyniwyd yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  4. Nodi anghysondebau, elfennau nad ydynt yn cyfateb a phroblemau posibl ym manylion buddsoddwyr, ymchwilio iddynt a'u datrys, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  5. Adrodd am broblemau sydd y tu allan i lefel eich awdurdod i'r person priodol 
  6. Darparu gwybodaeth gyflawn a chywir i fuddsoddwyr ynghylch eu cofnodion, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  7. Cadw cofnodion wedi'u diweddaru o'r holl gamau a gymerwyd, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  8. Cynnal diogeledd a chyfrinachedd gwybodaeth bob amser, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  9. Nodi ac ymateb i achosion gwirioneddol neu bosibl o beidio â chydymffurfio â rheoliadau, ac adrodd amdanynt i'r awdurdod perthnasol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  10. Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, gan gynnwys safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Y fframwaith rheoliadol a chydymffurfiaeth a materion cyfreithiol mewn perthynas â chynnal cofnodion buddsoddwyr
  2. Prosesau a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer creu neu gynnal cofnodion buddsoddwyr, gan gynnwys defnyddio y systemau TG sefydliadol perthnasol
  3. Y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer delio gyda gwallau neu anghysondebau yng nghofnodion buddsoddwyr
  4. Pwysigrwydd perthynas effeithiol gyda buddsoddwyr yn yr holl wasanaethau a ddarperir
  5. Sut mae sefydlu a chynnal perthnasoedd effeithiol gyda chleientiaid, gan gynnwys defnyddio sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu a chysyniadau darparu gwasanaeth o ansawdd
  6. Sut mae gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol yn effeithio ar eich gweithgareddau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

  1. Rydych yn ymfalchïo mewn cyflawni gwaith o ansawdd uchel
  2. Rydych yn gweithredu oddi mewn i derfynau eich awdurdod
  3. Rydych yn gweithio mewn modd proffesiynol, cydweithredol, gan gefnogi'ch gilydd

Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Partneriaeth Sgiliau Ariannol

URN gwreiddiol

FSPIO02

Galwedigaethau Perthnasol

Cyllid

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Gweithrediadau Buddsoddi; gweinyddiaeth buddsoddiadau; y farchnad fuddsoddi; data buddsoddiadau; data'r farchnad; buddsoddiadau; perfformiad buddsoddiadau; perfformiad y farchnad; asedau; cwmni buddsoddi; rheoli cronfeydd; gwasanaethau ariannol; daliadau ariannol; cydymffurfio; buddsoddwyr