Prosesu buddion marwolaeth cynlluniau pensiwn
URN: FSPPSA9
Sectorau Busnes (Suites): Gweinyddu Cynlluniau Pensiwn
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar:
01 Maw 2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â phrosesu buddion marwolaeth cynlluniau pensiwn. Rhaid i chi hysbysu'r bobl a'r adrannau perthnasol ynghylch marwolaeth yr aelod, gan gynnwys yr adran gyflogres, yr yswiriwr a'r ymddiriedolwyr, fel sy'n briodol, a gwirio a dilysu'r cais am fuddion marwolaeth, gan gynnwys cymhwystra buddiolwyr i dderbyn y rhain yn erbyn rheolau'r cynllun. Rhaid i chi gyfrifo'r buddion marwolaeth yn unol â rheolau'r cynllun, amgylchiadau'r aelod a gweithdrefnau mewnol cyn hysbysu buddiolwyr ynghylch yr hyn y gallant ei hawlio a gwneud trefniadau talu. Rhaid i chi hefyd ddiweddaru'r holl gofnodion perthnasol yn unol â hynny.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Sicrhau'r holl ddogfennau cyfreithiol perthnasol a dilysu cofnod aelodau yn erbyn yr hysbysiad marwolaeth, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Hysbysu'r yswirwyr ynghylch marwolaeth yr aelod, a chyflwyno dogfennau perthnasol yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Hysbysu'r adran gyflogres i ddod â thaliadau pensiwn i ben lle bo gofyn, a threfnu bod unrhyw ordaliadau'n cael eu hawlio'n ôl yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Gwirio bod ceisiadau am fuddion marwolaeth wedi'u hawdurdodi gan y bobl briodol a'u cefnogi gan ddogfennau perthnasol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Dilysu cymhwystra buddiolwyr i dderbyn buddion marwolaeth aelodau yn erbyn rheolau'r cynllun, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Anfon yr holl wybodaeth berthnasol at ymddiriedolwyr i ymarfer disgresiwn, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Gwirio yn erbyn cofnodion aelodau bod lefel y cyflog a fydd yn sail i'r buddion yn rhesymol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Ymchwilio i unrhyw fylchau neu anghysondebau mewn ceisiadau a'u datrys, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cyfrifo buddion marwolaeth wrth ystyried unrhyw ddewisiadau gan aelod, yn unol â rheolau'r cynllun ac unrhyw ofynion statudol eraill sy'n berthnasol o ran cynlluniau pensiwn
- Rhoi unrhyw ddebydau ysgariad ar waith oddi mewn i reolau'r cynllun, amgylchiadau'r aelod, ac yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Hysbysu buddiolwyr ynghylch yr hyn y gallant ei hawlio a threfnu buddion marwolaeth a phensiwn parhaus unrhyw ddibynnydd, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Diweddaru cofnodion aelodau sydd wedi marw a'u dibynyddion, gan gynnwys cofnodi dyddiadau dod i ben ar gyfer pensiynau plant, a sefydlu taliadau pensiwn gan gymryd rheolau cynlluniau i ystyriaeth
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Yr angen am sicrhau bod dilysu a gwirio wedi digwydd, a'r dulliau o wneud hynny
- Dehongli a chymhwyso gofynion statudol a pherthnasol cynlluniau pensiwn yn dilyn hysbysiad marwolaeth, a'r effaith ar fuddion
- Y gwahaniaeth rhwng buddion marwolaeth cyn-ymddeoliad ac ôl-ymddeoliad
- O dan ba amgylchiadau y byddai awdurdodi gan berson priodol yn ofynnol
- Dogfennaeth sy'n gysylltiedig â thalu buddion marwolaeth, gan gynnwys MPAVCs ac FSAVCs, a'r amgylchiadau lle mae prawf profiant/llythyrau gweinyddu yn ofynnol
- Sut mae defnyddio dulliau cyfrifo ac arferion safonol, fel sy'n briodol
- Sut mae datrys unrhyw anghysondebau neu fylchau mewn gwybodaeth
- Y gofynion ar gyfer rhyddhau buddion a sut mae dehongli a chymhwyso rheoliadau statudol a pherthnasol, gan gynnwys contractio allan, i benderfynu ar y rhain
- Pryd mae cymhwyso rheolau Cynyddu Pensiwn wrth benderfynu ar y buddion marwolaeth sy'n daladwy
- Y gweithdrefnau mewnol y mae angen i chi eu dilyn a'r cofnodion y mae angen eu diweddaru wrth ryddhau buddion, gan gynnwys unrhyw lofnodwyr ac awdurdod gofynnol
- Y ddeddfwriaeth berthnasol gan gynnwys y polisïau, y gweithdrefnau a'r ddeddfwriaeth diweddaraf
- Y gwahaniaeth rhwng rhoi cyngor ariannol a darparu gwybodaeth i aelodau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn sensitif i ddiffyg arbenigedd technegol aelodau ac yn defnyddio eich greddf a'ch profiad i'w helpu i ddeall y materion yn llawn
- Rydych yn casglu ac yn rheoli gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon, yn foesegol a chan barchu cyfrinachedd
- Mae gennych ddealltwriaeth glir o gwmpas a therfynau eich awdurdod i wneud penderfyniadau
- Rydych yn nodi anghenion gwybodaeth cydweithwyr, cleientiaid ac eraill
- Rydych yn darparu gwybodaeth briodol i'r rhai sydd ag angen amdani ac sydd â hawl i'w derbyn
- Rydych yn cyflwyno gwybodaeth yn brydlon, yn glir, yn gryno ac yn gywir, ac mewn modd sy'n hybu dealltwriaeth
- Rydych yn chwilio am welliannau posibl ac yn cynnig llwybrau gweithredu sy'n amserol, yn briodol ac yn gyflawnadwy
- Rydych yn ymfalchïo yn ansawdd eich gwaith
- Rydych yn deall anghenion a chymhellion pobl eraill
- Rydych yn gweithio mewn modd proffesiynol, cydweithredol, gan gefnogi'ch gilydd
- Rydych yn rhoi sylw i fanylion sy'n hanfodol i'ch gwaith
- Rydych yn defnyddio arddulliau cyfathrebu sy'n briodol ar gyfer gwahanol bobl a sefyllfaoedd
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Partneriaeth Sgiliau Ariannol
URN gwreiddiol
FSPPSA9
Galwedigaethau Perthnasol
Clercod pensiynau ac yswiriant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Gweinyddu cynlluniau pensiwn; buddion marwolaeth; proses