Prosesu buddion ymddeoliad cynlluniau pensiwn buddion diffiniedig a chyfraniadau diffiniedig

URN: FSPPSA8
Sectorau Busnes (Suites): Gweinyddu Cynlluniau Pensiwn
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 01 Maw 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â phrosesu buddion ymddeoliad cynlluniau pensiwn buddion diffiniedig a chyfraniadau diffiniedig.  Ar ôl derbyn awdurdod priodol i hysbysu ynghylch buddion ymddeoliad a dilysu manylion yr aelod, gan gynnwys gwirio am unrhyw ofynion cyfreithiol perthnasol ac anghysondebau yn yr wybodaeth, rhaid i chi roi gwybod i'r aelod sy'n ymddeol ynghylch yr opsiynau y gallant eu dewis o fewn y terfynau amser gofynnol. Rhaid i chi drefnu bod y taliad yn digwydd yn brydlon ac ymateb i unrhyw gwestiynau gan yr aelod o fewn y terfynau amser gofynnol. Rhaid i chi newid cofnodion yr aelod sy'n ymddeol i adlewyrchu'r newid yn eu statws aelodaeth a hysbysu'r cyrff rheoleiddio, fel sy'n briodol, bod yr aelod yn ymadael.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Dilyn gweithdrefnau cywir i sicrhau bod awdurdod pob hysbysiad ynghylch buddion ymddeoliad yn cael ei wirio gan bobl briodol
  2. Gwirio bod dyddiad geni aelodau sy'n ymddeol yn cyfateb i gofnod y cynllun presennol, a bod gennych y dogfennau cywir
  3. Ymchwilio i unrhyw fylchau neu anghysondebau ym manylion yr aelod sy'n ymddeol a'u datrys
  4. Canfod a oes unrhyw ofynion cyfreithiol perthnasol
  5. Hysbysu aelodau sy'n ymddeol ynghylch yr opsiynau y gallant ddewis ohonynt, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  6. Rhoi unrhyw ddebydau ysgariad ar waith oddi mewn i reolau'r cynllun, amgylchiadau'r aelod, ac yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  7. Gwneud trefniadau talu trwy'r darparwr opsiwn incwm perthnasol, ochr yn ochr ag ystyried unrhyw opsiynau a ddewiswyd, yr awdurdod angenrheidiol a thystiolaeth o oedran, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  8. Ymateb i unrhyw ymholiadau gan aelodau, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  9. Newid cofnodion yr aelod sy'n ymddeol i adlewyrchu'r newid yn statws eu haelodaeth, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  10. Hysbysu cyrff rheoleiddio perthnasol ynghylch aelodau sy'n ymadael, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Yr angen am sicrhau bod dilysu a gwirio wedi digwydd, a'r dulliau o wneud hynny
  2. Sut mae penderfynu ar fuddion ac opsiynau ymddeoliad fel y pennwyd yn y  rheoliadau
  3. Sut mae cymhwyso dulliau cyfrifo ac arferion safonol cywir a phriodol
  4. Sut mae datrys unrhyw anghysondebau neu fylchau mewn gwybodaeth
  5. Sut mae deddfwriaeth or-redol yn effeithio ar fuddion, gan gynnwys terfynau lwfans oes ac effaith bosibl buddion pensiwn eraill aelod ar eu buddion o dan y Cynllun
  6. Gofynion y Cynllun o ran tystiolaeth feddygol (os o gwbl), rhyddhau buddion a sut y cânt eu cymhwyso
  7. Pryd mae cymhwyso rheoliadau cynyddu pensiwn wrth benderfynu ar fuddion ymddeoliad
  8. Y terfynau amser sy'n ofynnol ar gyfer gweithredu, a chanlyniadau peidio â chydymffurfio
  9. Sut mae cymhwyso gofynion statudol a pherthnasol o ran cynlluniau pensiwn, gan gynnwys y polisïau, y gweithdrefnau a'r ddeddfwriaeth diweddaraf
  10. Y gweithdrefnau mewnol y mae angen i chi eu dilyn a'r cofnodion y mae angen eu diweddaru wrth setlo buddion
  11. Y gwahaniaeth rhwng rhoi cyngor ariannol a darparu gwybodaeth i aelodau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

  1. Rydych yn sensitif i ddiffyg arbenigedd technegol aelodau ac yn defnyddio eich greddf a'ch profiad i'w helpu i ddeall y materion yn llawn
  2. Rydych yn casglu ac yn rheoli gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon, yn foesegol a chan barchu cyfrinachedd
  3. Mae gennych ddealltwriaeth glir o gwmpas a therfynau eich awdurdod i wneud penderfyniadau
  4. Rydych yn nodi anghenion gwybodaeth cydweithwyr, cleientiaid ac eraill
  5. Rydych yn darparu gwybodaeth briodol i'r rhai sydd ag angen amdani ac sydd â hawl i'w derbyn
  6. Rydych yn cyflwyno gwybodaeth yn brydlon, yn glir, yn gryno ac yn gywir, ac mewn modd sy'n hybu dealltwriaeth
  7. Rydych yn chwilio am welliannau posibl ac yn cynnig llwybrau gweithredu sy'n amserol, yn briodol ac yn gyflawnadwy
  8. Rydych yn ymfalchïo yn ansawdd eich gwaith
  9. Rydych yn deall anghenion a chymhellion pobl eraill
  10. Rydych yn gweithio mewn modd proffesiynol, cydweithredol, gan gefnogi'ch gilydd
  11. Rydych yn rhoi sylw i fanylion sy'n hanfodol i'ch gwaith
  12. Rydych yn defnyddio arddulliau cyfathrebu sy'n briodol ar gyfer gwahanol bobl a sefyllfaoedd

Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Partneriaeth Sgiliau Ariannol

URN gwreiddiol

PSA8

Galwedigaethau Perthnasol

Clercod pensiynau ac yswiriant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Gweinyddu cynlluniau pensiwn; budd diffiniedig; cyfraniad diffiniedig; buddion ymddeoliad