Rhoi dyfynbrisiau ar gyfer buddion ymddeoliad cynlluniau pensiwn buddion diffiniedig a chyfraniadau diffiniedig
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rhoi dyfynbrisiau ar gyfer buddion ymddeoliad cynlluniau pensiwn buddion diffiniedig a chyfraniadau diffiniedig. Ar ôl gwirio hysbysiadau ynghylch buddion ymddeoliad a manylion yr aelod, gan gynnwys gwirio am unrhyw ofynion cyfreithiol perthnasol ac anghysondebau yn yr wybodaeth, rhaid i chi ystyried maint y gronfa neu lefel y cyflog a fydd yn sail i’r buddion. Rhaid i chi gyfrifo'n gywir fuddion ymddeoliad yr aelod, gan eu cadarnhau i'r aelod ac ymateb i unrhyw gwestiynau o fewn y terfynau amser gofynnol. Rhaid i'ch cyfrifiadau gynnwys rhoi sylw i gymhwystra’r aelod o ran cymudiad di-nod, eu cofnod gwasanaeth ac unrhyw ddewisiadau y maent o bosibl eisoes wedi'u gwneud.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. Dilyn gweithdrefnau cywir i sicrhau bod awdurdod pob hysbysiad ynghylch buddion ymddeoliad yn cael ei wirio gan bobl briodol
2. Gwirio dyddiad geni aelodau sy'n ymddeol i gadarnhau ei fod yn cyfateb i gofnod y cynllun presennol, a bod gennych y dogfennau cywir, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
3. Canfod a oes unrhyw ofynion cyfreithiol perthnasol i'w dilyn
4. Ystyried maint y gronfa neu lefel y cyflog a fydd yn sail i’r buddion o ran rhesymoldeb yn erbyn cofnod yr aelod
5. Gwirio am unrhyw ddebydau ysgariad oddi mewn i reolau'r cynllun, amgylchiadau aelodau a gweithdrefnau mewnol
6. Ymchwilio i unrhyw fylchau neu anghysondebau ym manylion yr aelod sy'n ymddeol a'u datrys, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
7. Cyfrifo'r Cyfandaliad Cychwyn Pensiwn, gan gynnwys unrhyw fuddion yn sgîl cyfraniadau ychwanegol a dalwyd, a darparu dyfynbris ar gyfer yr opsiynau incwm sydd ar gael, gan roi ystyriaeth i'r canlynol:
7.1 cymhwystra’r aelod o ran cymudiad di-nod,
7.2 eu gwasanaeth
7.3 eu cofnod ac unrhyw ddewisiadau y maent eisoes wedi'u gwneud,
7.4 rheolau'r cynllun, ac unrhyw ofynion statudol a pherthnasol gor-redol o ran cynlluniau pensiwn a all effeithio ar y symiau
8. Cadarnhau lwfansau oes i aelodau, a chasglu gwybodaeth ganddynt ynghylch buddion pensiwn eraill
9. Ymateb i unrhyw ymholiadau gan aelodau, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Yr angen am sicrhau bod dilysu a gwirio wedi digwydd, a'r dulliau o wneud hynny
- Sut mae penderfynu ar fuddion ac opsiynau ymddeoliad fel y pennwyd yn y rheoliadau
- Sut mae defnyddio dulliau dilysu i sicrhau bod data'n gywir
- Sut mae datrys unrhyw anghysondebau neu fylchau mewn gwybodaeth
- Sut mae defnyddio dulliau cyfrifo ac arferion safonol cywir a phriodol
- Sut mae gofynion statudol gor-redol a gofynion perthnasol o ran cynlluniau pensiwn, gan gynnwys contractio allan a therfynau lwfans oes, yn effeithio ar fuddion, ac effaith bosibl buddion pensiwn eraill aelod ar eu buddion o dan y Cynllun
- Gofynion y Cynllun o ran tystiolaeth feddygol (os o gwbl), rhyddhau buddion a sut y cânt eu cymhwyso
- Pryd mae cymhwyso rheoliadau cynyddu pensiwn wrth benderfynu ar fuddion ymddeoliad
- Y terfynau amser sy'n ofynnol ar gyfer gweithredu, a chanlyniadau peidio â chydymffurfio
- Unrhyw ofynion cyfreithiol perthnasol a'r ddeddfwriaeth berthnasol, gan gynnwys y polisïau, y gweithdrefnau a'r ddeddfwriaeth diweddaraf
- Y gwahaniaeth rhwng rhoi cyngor ariannol a darparu gwybodaeth i aelodau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn sensitif i ddiffyg arbenigedd technegol aelodau ac yn defnyddio eich greddf a'ch profiad i'w helpu i ddeall y materion yn llawn
- Rydych yn casglu ac yn rheoli gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon, yn foesegol a chan barchu cyfrinachedd
- Mae gennych ddealltwriaeth glir o gwmpas a therfynau eich awdurdod i wneud penderfyniadau
- Rydych yn nodi anghenion gwybodaeth cydweithwyr, cleientiaid ac eraill
- Rydych yn darparu gwybodaeth briodol i'r rhai sydd ag angen amdani ac sydd â hawl i'w derbyn
- Rydych yn cyflwyno gwybodaeth yn brydlon, yn glir, yn gryno ac yn gywir, ac mewn modd sy'n hybu dealltwriaeth
- Rydych yn chwilio am welliannau posibl ac yn cynnig llwybrau gweithredu sy'n amserol, yn briodol ac yn gyflawnadwy
- Rydych yn ymfalchïo yn ansawdd eich gwaith
- Rydych yn deall anghenion a chymhellion pobl eraill
- Rydych yn gweithio mewn modd proffesiynol, cydweithredol, gan gefnogi'ch gilydd
- Rydych yn rhoi sylw i fanylion sy'n hanfodol i'ch gwaith
- Rydych yn defnyddio arddulliau cyfathrebu sy'n briodol ar gyfer gwahanol bobl a sefyllfaoedd