Prosesu ceisiadau am drosglwyddiadau allan o gynlluniau pensiwn

URN: FSPPSA6
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gweinyddu Cynlluniau Pensiwn
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â phrosesu ceisiadau am drosglwyddiadau allan o gynlluniau pensiwn. Ar ôl sicrhau bod y cais am drosglwyddo allan wedi’i awdurdodi, rhaid i chi sicrhau bod y trosglwyddiad a gynigir allan o gynllun cymwys a chadarnhau bod yr aelodau wedi cael argymhelliad i geisio cyngor priodol. Rhaid i chi wirio am unrhyw ofynion cyfreithiol perthnasol a allai effeithio ar y trosglwyddiad arfaethedig a sicrhau gwerthoedd trosglwyddo ac eraill priodol sydd wedi'u cyfrifo'n gywir. Rhaid i chi hysbysu'r aelod ynghylch yr opsiynau sydd ar gael, a hynny mewn fformat sy'n cydymffurfio â'r gofynion statudol ac o ran y cynllun, a mynd ati'n brydlon i sicrhau bod gwerthoedd trosglwyddo'n cael eu talu fel sy'n briodol. Rhaid i chi roi gwybod i'r aelod am eu buddion, yn unol ag unrhyw ofynion datgelu, a hysbysu adran berthnasol y llywodraeth ynghylch y trosglwyddiad.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Sicrhau bod pob cais am drosglwyddo allan wedi'i awdurdodi cyn bod camau pellach yn cael eu cymryd, yn unol â'ch gweithdrefnau
  2. Cyfeirio ceisiadau am drosglwyddo allan sydd y tu hwnt i'ch awdurdod at y bobl briodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  3. Ymchwilio i unrhyw fylchau neu anghysondebau mewn ceisiadau a'u datrys, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  4. Gwirio bod aelodau'n ceisio cyngor priodol yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  5. Gwirio bod yr holl drosglwyddiadau arfaethedig yn mynd i gynllun cofrestredig arall yn y Deyrnas Unedig, neu Gynllun Pensiwn Tramor Cymwys Cydnabyddedig (QROPS)
  6. Gwirio am unrhyw ofynion cyfreithiol perthnasol a allai effeithio ar drosglwyddiadau, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  7. Sicrhau gwerthoedd trosglwyddo a gwerthoedd eraill priodol a gyfrifwyd yn gywir, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  8. Hysbysu'r holl aelodau sy'n ymadael ynghylch yr opsiynau sydd ar gael iddynt mewn ffyrdd sy'n cydymffurfio â'r gofynion statudol a pherthnasol o ran cynlluniau pensiwn
  9. Darparu gwybodaeth a dogfennau i aelodau newydd y cynllun, yn unol â'r gofynion
  10. Cymryd camau dilynol priodol o fewn y terfynau amser gofynnol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  11. Cychwyn talu gwerthoedd trosglwyddo i Gynllun QROPS cofrestredig pan awdurdodir hynny'n briodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  12. Hysbysu aelodau ynghylch eu buddion, yn unol ag unrhyw ofynion datgelu
  13. Hysbysu adran berthnasol y llywodraeth sy'n delio gyda phensiynau ynghylch trosglwyddiadau i Gynllun cofrestredig / QROPS
  14. Cydymffurfio â'r terfynau amser statudol ar gyfer darparu gwybodaeth a thalu gwerth trosglwyddo

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Yr angen am sicrhau bod dilysu a gwirio wedi digwydd, a'r dulliau o wneud hynny
  2. Y gweithdrefnau mewnol y mae angen i chi eu dilyn a'r cofnodion y mae angen eu diweddaru wrth setlo buddion
  3. Sut mae datrys unrhyw anghysondebau neu fylchau mewn gwybodaeth
  4. Sut mae dehongli a chymhwyso gofynion statudol a pherthnasol o ran cynlluniau pensiwn, gan gynnwys contractio allan, i bennu'r buddion
  5. Sut mae prosesu buddion ac opsiynau trosglwyddo fel y pennwyd yn y  rheoliadau
  6. Sut mae defnyddio dulliau cyfrifo ac arferion safonol yn gywir
  7. Beth yw'r gofynion ar gyfer rhyddhau buddion, gan gynnwys unrhyw gyfraniadau ychwanegol
  8. Sut mae defnyddio rheoliadau er mwyn rhoi gwybod i aelodau sy'n trosglwyddo am yr opsiynau priodol sydd ar gael iddynt
  9. Gwerthoedd Trosglwyddo Ariannol Cyfatebol (CETV)
  10. Y terfynau amser sy'n ofynnol ar gyfer gweithredu, a chanlyniadau peidio â chydymffurfio
  11. Y ddeddfwriaeth berthnasol gan gynnwys y polisïau, y gweithdrefnau a'r ddeddfwriaeth diweddaraf
  12. Y gwahaniaeth rhwng rhoi cyngor ariannol a darparu gwybodaeth i aelodau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

  1. Rydych yn sensitif i ddiffyg arbenigedd technegol aelodau ac yn defnyddio eich greddf a'ch profiad i'w helpu i ddeall y materion yn llawn
  2. Rydych yn casglu ac yn rheoli gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon, yn foesegol a chan barchu cyfrinachedd
  3. Mae gennych ddealltwriaeth glir o gwmpas a therfynau eich awdurdod i wneud penderfyniadau
  4. Rydych yn nodi anghenion gwybodaeth cydweithwyr, cleientiaid ac eraill
  5. Rydych yn darparu gwybodaeth briodol i'r rhai sydd ag angen amdani ac sydd â hawl i'w derbyn
  6. Rydych yn cyflwyno gwybodaeth yn brydlon, yn glir, yn gryno ac yn gywir, ac mewn modd sy'n hybu dealltwriaeth
  7. Rydych yn chwilio am welliannau posibl ac yn cynnig llwybrau gweithredu sy'n amserol, yn briodol ac yn gyflawnadwy
  8. Rydych yn ymfalchïo yn ansawdd eich gwaith
  9. Rydych yn deall anghenion a chymhellion pobl eraill
  10. Rydych yn gweithio mewn modd proffesiynol, cydweithredol, gan gefnogi'ch gilydd
  11. Rydych yn rhoi sylw i fanylion sy'n hanfodol i'ch gwaith
  12. Rydych yn defnyddio arddulliau cyfathrebu sy'n briodol ar gyfer gwahanol bobl a sefyllfaoedd

Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Partneriaeth Sgiliau Ariannol

URN gwreiddiol

PSA6

Galwedigaethau Perthnasol

Clercod pensiynau ac yswiriant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Gweinyddu cynlluniau pensiwn; proses; ceisiadau; trosglwyddo allan