Prosesu hysbysiadau ymadawyr cynnar cynlluniau pensiwn
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â phrosesu hysbysiadau ymadawyr cynnar cynlluniau pensiwn. Ar ôl dilysu'r hysbysiad i sicrhau ei fod wedi’i awdurdodi’n briodol a gwirio am unrhyw ofynion cyfreithiol perthnasol a gweithredu yn eu cylch, rhaid i chi brosesu'r hysbysiad a'r dogfennau yn unol â'r gofynion statudol a gofynion y cynllun, ac os yw'r cynllun yn un Cyfraniadau Diffiniedig, rhaid i chi wirio bod y cyfraniadau dyledus wedi'u talu hyd at y dyddiad cyfredol ac yn cael eu buddsoddi. Rhaid i chi hysbysu'r aelod ynghylch yr opsiynau sydd ar gael iddyn nhw a'u buddion, yn unol ag unrhyw ofynion datgelu, a hefyd newid eu cofnodion i adlewyrchu'r opsiwn a ddewiswyd ganddynt. Rhaid hefyd i chi hysbysu'r awdurdodau treth os yw'r cynllun yn cael ei gontractio allan.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Gwirio a dilysu bod pob hysbysiad wedi'i awdurdodi'n briodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Ymchwilio i unrhyw fylchau neu anghysondebau mewn ceisiadau a'u datrys, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Gwirio am unrhyw ofynion cyfreithiol perthnasol a chymryd camau priodol yn eu cylch, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Prosesu holl hysbysiadau a dogfennau'r aelodau yn unol â'r gofynion statudol a pherthnasol ar gyfer cynlluniau pensiwn
- Hysbysu aelodau'r cynllun ynghylch yr opsiynau sydd ar gael iddynt, neu os bernir bod dewis yn annilys, oddi mewn i'r terfynau amser gofynnol a chan ddefnyddio'r dogfennau priodol
- Hysbysu'r bobl berthnasol, fel bod modd i gamau priodol gael eu cymryd, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Gwirio bod y cyfraniadau dyledus wedi'u talu at y dyddiad cyfredol, a'u buddsoddi, os yw'r cynllun yn un Cyfraniadau Diffiniedig, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cyfrifo'r buddion, lle bo hynny'n briodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Hysbysu aelodau ynghylch eu buddion, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Hysbysu'r awdurdodau treth os yw'r cynllun wedi'i gontractio allan, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Newid cofnodion aelodau'r cynllun i adlewyrchu'r opsiwn a ddewiswyd, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Yr angen am sicrhau bod dilysu a gwirio wedi digwydd, a'r dulliau o wneud hynny
- Y gweithdrefnau mewnol y mae angen i chi eu dilyn a'r cofnodion y mae angen eu diweddaru wrth setlo buddion
- Y gofynion ar gyfer rhyddhau buddion a sut mae dehongli a chymhwyso'r gofynion statudol a pherthnasol ar gyfer cynlluniau pensiwn, gan gynnwys contractio allan, i benderfynu ar y rhain
- Sut mae datrys unrhyw anghysondebau neu fylchau mewn gwybodaeth
- Effaith y cyfraddau ailbrisio statudol ar gynlluniau Buddion Diffiniedig
- Defnyddio dulliau cyfrifo mewn modd cywir
- Cymhwyso rheoliadau'r Cynllun er mwyn rhoi gwybod i ymadawyr am yr opsiynau priodol sydd ar gael iddynt, ac unrhyw amgylchiadau pryd gellir dal buddion aelod yn ôl
- Pwy yw'r asiantau sy'n talu neu'r gweinyddwyr trydydd parti a pha wybodaeth sy'n ofynnol ganddynt, fel sy'n briodol
- Y terfynau amser sy'n ofynnol ar gyfer gweithredu, a chanlyniadau peidio â chydymffurfio
- Y ddeddfwriaeth berthnasol gan gynnwys y polisïau, y gweithdrefnau a'r ddeddfwriaeth diweddaraf
- Y gwahaniaeth rhwng rhoi cyngor ariannol a darparu gwybodaeth i'r aelod
- Beth a olygir gan y ffaith bod y cynllun yn cael ei gontractio allan o Gynllun Ail Bensiwn y Wladwriaeth (S2P), a'r wybodaeth y mae'n rhaid ei darparu a'r taliadau statudol y mae'n rhaid eu gwneud i ddychwelyd yr aelod i gynllun y wladwriaeth, lle bo hynny'n berthnasol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn sensitif i ddiffyg arbenigedd technegol aelodau ac yn defnyddio eich greddf a'ch profiad i'w helpu i ddeall y materion yn llawn
- Rydych yn casglu ac yn rheoli gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon, yn foesegol a chan barchu cyfrinachedd
- Mae gennych ddealltwriaeth glir o gwmpas a therfynau eich awdurdod i wneud penderfyniadau
- Rydych yn nodi anghenion gwybodaeth cydweithwyr, cleientiaid ac eraill
- Rydych yn darparu gwybodaeth briodol i'r rhai sydd ag angen amdani ac sydd â hawl i'w derbyn
- Rydych yn cyflwyno gwybodaeth yn brydlon, yn glir, yn gryno ac yn gywir, ac mewn modd sy'n hybu dealltwriaeth
- Rydych yn chwilio am welliannau posibl ac yn cynnig llwybrau gweithredu sy'n amserol, yn briodol ac yn gyflawnadwy
- Rydych yn ymfalchïo yn ansawdd eich gwaith
- Rydych yn deall anghenion a chymhellion pobl eraill
- Rydych yn gweithio mewn modd proffesiynol, cydweithredol, gan gefnogi'ch gilydd
- Rydych yn rhoi sylw i fanylion sy'n hanfodol i'ch gwaith
- Rydych yn defnyddio arddulliau cyfathrebu sy'n briodol ar gyfer gwahanol bobl a sefyllfaoedd