Prosesu ceisiadau am gyfraniadau ychwanegol i gynlluniau pensiwn
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â phrosesu ceisiadau am gyfraniadau ychwanegol i gynlluniau pensiwn. Rhaid i chi wirio bod pob cais gan aelod wedi'i awdurdodi'n briodol, ymchwilio i unrhyw anghysondebau a'u datrys, ac yna prosesu'r ceisiadau a'r dogfennau yn unol â'r gofynion statudol a pherthnasol ar gyfer cynlluniau pensiwn. Ar ôl darparu manylion ynghylch hawliau canslo, lle bo hynny'n briodol, rhaid i chi roi gwybod i'r partïon perthnasol pan fydd yr aelod yn dewis symud ymlaen, gan ddarparu esboniad llawn a phrydlon mewn unrhyw achosion lle bernir bod cais yn annilys. Rhaid i chi hefyd gysylltu â chyflogwr yr aelod i ddechrau didyniadau, a newid cofnodion yr aelod i adlewyrchu'r opsiwn a ddewiswyd ganddynt.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Gwirio a dilysu bod cais pob aelod wedi'i awdurdodi'n briodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Ymchwilio i unrhyw fylchau neu anghysondebau yn y cais a'u datrys, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Prosesu holl geisiadau a dogfennau'r aelodau yn unol â'r gofynion statudol a pherthnasol ar gyfer cynlluniau pensiwn
- Darparu manylion ynghylch hawliau canslo yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Hysbysu'r bobl berthnasol pan fydd yr aelod yn dewis symud ymlaen, er mwyn i gamau priodol fedru cael eu cymryd, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Darparu esboniad clir i aelodau lle bernir bod ceisiadau'n annilys, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cysylltu â chyflogwyr i ddechrau'r didyniadau, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Newid cofnodion aelodau i adlewyrchu'r opsiwn a ddewiswyd, gan ddiweddaru systemau lle bo hynny'n berthnasol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Yr angen am sicrhau bod dilysu a gwirio wedi digwydd, a'r dulliau o wneud hynny
- Sut mae dehongli a chymhwyso gofynion statudol, gan gynnwys contractio allan, yn dilyn cais am brynu buddion ychwanegol
- Sut mae dilysu data cynllun o ran cyflawnder a phriodoldeb
- Sut mae datrys unrhyw anghysondebau neu fylchau mewn gwybodaeth
- Sut mae defnyddio dulliau cyfrifo ac arferion safonol, fel sy'n briodol
- Sut mae nodi'r polisïau, yr arferion a'r gweithdrefnau cywir ar gyfer llofnodwyr ac awdurdodi
- Effaith newidiadau yn amgylchiadau'r aelod a fydd yn achosi i gontract presennol gael ei amrywio neu ei ddiddymu'n gynnar
- Y ddeddfwriaeth berthnasol, gan gynnwys y polisïau, y gweithdrefnau a'r ddeddfwriaeth ddiweddaraf
- Y gwahaniaeth rhwng rhoi cyngor ariannol a darparu gwybodaeth i'r aelod
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn sensitif i ddiffyg arbenigedd technegol aelodau ac yn defnyddio eich greddf a'ch profiad i'w helpu i ddeall y materion yn llawn
- Rydych yn casglu ac yn rheoli gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon, yn foesegol a chan barchu cyfrinachedd
- Mae gennych ddealltwriaeth glir o gwmpas a therfynau eich awdurdod i wneud penderfyniadau
- Rydych yn nodi anghenion gwybodaeth cydweithwyr, cleientiaid ac eraill
- Rydych yn darparu gwybodaeth briodol i'r rhai sydd ag angen amdani ac sydd â hawl i'w derbyn
- Rydych yn cyflwyno gwybodaeth yn brydlon, yn glir, yn gryno ac yn gywir, ac mewn modd sy'n hybu dealltwriaeth
- Rydych yn chwilio am welliannau posibl ac yn cynnig llwybrau gweithredu sy'n amserol, yn briodol ac yn gyflawnadwy
- Rydych yn ymfalchïo yn ansawdd eich gwaith
- Rydych yn deall anghenion a chymhellion pobl eraill
- Rydych yn gweithio mewn modd proffesiynol, cydweithredol, gan gefnogi'ch gilydd
- Rydych yn rhoi sylw i fanylion sy'n hanfodol i'ch gwaith
- Rydych yn defnyddio arddulliau cyfathrebu sy'n briodol ar gyfer gwahanol bobl a sefyllfaoedd