Prosesu cyfraniadau a thrafodion cynlluniau pensiwn
URN: FSPPSA3
Sectorau Busnes (Suites): Gweinyddu Cynlluniau Pensiwn
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar:
01 Maw 2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â phrosesu cyfraniadau a thrafodion ad hoc, megis taliadau ac enillion buddsoddi, ar gyfer cynllun pensiwn cyfraniadau diffiniedig. Ar ôl gwirio a chadarnhau bod cofnod cyfraniadau'n bodoli ar gyfer yr aelod, gan ddatrys unrhyw anghysondebau a all godi, rhaid i chi gysoni'r cofnod cyfraniadau â'r arian a dderbyniwyd a gwneud taliad i reolwr y gronfa neu'r cynllun buddsoddi. Rhaid i chi lwytho data'r cynllun i gofnodion yr aelod a sicrhau bod y rhain yn cael eu diweddaru i gynnwys cofnod o’r cyfraniadau a dderbyniwyd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Gwirio a dilysu bod cofnodion cyfraniadau'n bodoli ar gyfer y aelod a restrir yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Ymchwilio i unrhyw fylchau neu anghysondebau a gynhyrchwyd gan y broses a'u datrys, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cysoni'r arian a dderbyniwyd yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cychwyn taliad i reolwr buddsoddi neu gronfa'r cynllun, yn unol â chyfarwyddiadau'r aelod ac yn unol â'r gofynion statudol a pherthnasol ar gyfer cynlluniau pensiwn
- Llwytho data'r cynllun i gofnodion yr aelod ar ôl derbyn y nodyn contract gan reolwr y buddsoddiad neu'r gronfa.
- Cofnodi'r cyfraniadau a dderbyniwyd a diweddaru cofnodion yr aelod, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad.
- Darparu diweddariadau i bartïon perthnasol, gan lynu at y gofynion o ran cyfrinachedd cleientiaid a diogelu data
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Yr angen am sicrhau bod dilysu a gwirio wedi digwydd, a'r dulliau o wneud hynny
- Sut mae datrys unrhyw anghysondebau neu fylchau mewn gwybodaeth
- Sut mae cymhwyso'r gofynion statudol a pherthnasol o ran cynlluniau pensiwn, gan gynnwys contractio allan
- Sut mae cysoni'r cofnod cyfraniadau â'r arian a dderbyniwyd
- Polisïau, ymarfer a gweithdrefnau rheoliadol a rhai'r cynllun ar gyfer buddsoddi arian, a sut mae eu cymhwyso
- Effaith Addasiadau diwedd cyfnod (Lifestyling) ar y dyraniad buddsoddi
- Y terfynau amser sy'n ofynnol ar gyfer gweithredu, a chanlyniadau peidio â chydymffurfio
- Y ddeddfwriaeth berthnasol gan gynnwys y polisïau, y gweithdrefnau a'r ddeddfwriaeth diweddaraf
- Y gweithdrefnau mewnol y mae angen i chi eu dilyn a'r cofnodion y mae angen eu diweddaru
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn sensitif i ddiffyg arbenigedd technegol aelodau ac yn defnyddio eich greddf a'ch profiad i'w helpu i ddeall y materion yn llawn
- Rydych yn casglu ac yn rheoli gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon, yn foesegol a chan barchu cyfrinachedd
- Mae gennych ddealltwriaeth glir o gwmpas a therfynau eich awdurdod i wneud penderfyniadau
- Rydych yn nodi anghenion gwybodaeth cydweithwyr, cleientiaid ac eraill
- Rydych yn darparu gwybodaeth briodol i'r rhai sydd ag angen amdani ac sydd â hawl i'w derbyn
- Rydych yn cyflwyno gwybodaeth yn brydlon, yn glir, yn gryno ac yn gywir, ac mewn modd sy'n hybu dealltwriaeth
- Rydych yn chwilio am welliannau posibl ac yn cynnig llwybrau gweithredu sy'n amserol, yn briodol ac yn gyflawnadwy
- Rydych yn ymfalchïo yn ansawdd eich gwaith
- Rydych yn deall anghenion a chymhellion pobl eraill
- Rydych yn gweithio mewn modd proffesiynol, cydweithredol, gan gefnogi'ch gilydd
- Rydych yn rhoi sylw i fanylion sy'n hanfodol i'ch gwaith
- Rydych yn defnyddio arddulliau cyfathrebu sy'n briodol ar gyfer gwahanol bobl a sefyllfaoedd
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Partneriaeth Sgiliau Ariannol
URN gwreiddiol
PSA3
Galwedigaethau Perthnasol
Clercod pensiynau ac yswiriant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Gweinyddu cynlluniau pensiwn; cyfraniadau a thrafodion