Prosesu trosglwyddiadau unigol i mewn i gynlluniau pensiwn
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â phrosesu trosglwyddiadau unigol i mewn i gynlluniau pensiwn. Rhaid i chi ofalu bod pob cais am drosglwyddo i mewn wedi'i awdurdodi, sicrhau bod y trosglwyddiad arfaethedig yn dod o gynllun cymwys, a chadarnhau bod yr aelodau wedi cael eu hargymell i geisio cyngor priodol. Rhaid i chi wirio am unrhyw ofynion cyfreithiol perthnasol a allai effeithio ar y trosglwyddiad arfaethedig. Yna rhaid i chi gyfrifo'r hyn y gellir ei hawlio a rhoi gwybod i'r aelodau ynghylch yr opsiynau sydd ar gael iddynt, gan gynnwys eu hawliau i drosglwyddo a'r buddion y maent wedi'u trosglwyddo i mewn. Rhaid i chi wneud cais am dalu gwerthoedd trosglwyddo lle bo hynny'n briodol, gan dderbyn a dilysu ffurflenni rhyddhau priodol a diweddaru cofnodion yr aelod i ddangos manylion y trosglwyddiad. Rhaid i chi hefyd gymryd camau dilynol priodol os na dderbynnir ymateb gan yr aelod.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Sicrhau awdurdod ar gyfer pob cais trosglwyddo i mewn cyn cymryd camau pellach, neu anfon y cais ymlaen at bobl briodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Argymell bod aelodau yn ceisio cyngor priodol yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Gwirio bod yr holl drosglwyddiadau arfaethedig yn dod o gynllun arall sydd wedi'i gofrestru yn y Deyrnas Unedig neu Gynllun Pensiwn Tramor Cymwys Cydnabyddedig (QROPS)
- Gwirio'r holl drosglwyddiadau arfaethedig am unrhyw ofynion cyfreithiol perthnasol a all gael effaith ar drosglwyddiadau yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cyfrifo'r elfennau y gellir eu hawlio yn unol â rheolau'r cynllun a chyngor actiwaraidd
- Hysbysu aelodau yn llawn ynghylch yr opsiynau sydd ar gael iddynt o ran eu hawliau i drosglwyddo a cheisio'r dewis maen nhw'n ei ffafrio
- Hysbysu aelodau yn llawn ynghylch eu buddion sydd wedi'u trosglwyddo i mewn a pha opsiynau sydd ganddynt, gan gynnwys hawliau optio allan neu ganslo
- Gofyn am dalu gwerthoedd trosglwyddo yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Derbyn a dilysu ffurflenni rhyddhau priodol yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Diweddaru cofnodion aelodau i ddangos manylion trosglwyddiadau i mewn yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Prosesu'r holl ddiweddariadau i wybodaeth aelodau oddi mewn i'r terfynau amser gofynnol yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cymryd camau lle na dderbynnir ymateb gan aelodau, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Yr angen am sicrhau bod dilysu a gwirio wedi digwydd, a'r dulliau o wneud hynny
- Sut mae dehongli a chymhwyso gofynion statudol a pherthnasol o ran cynlluniau pensiwn, gan gynnwys contractio allan, yn dilyn cais am drosglwyddo i mewn
- Sut mae dilysu data cynllun o ran cyflawnder a phriodoldeb priodoldeb
- Y terfynau amser gofynnol a'r amserlenni ar gyfer diweddaru, cyflwyno a dosbarthu data a chanlyniadau diffyg cydymffurfio
- Sut mae prosesu buddion ac opsiynau trosglwyddo cynllun fel y'u pennwyd yn rheoliadau'r cynllun
- Sut mae defnyddio dulliau cyfrifo ac arferion safonol
- Unrhyw ofynion cyfreithiol perthnasol a'r polisïau, y gweithdrefnau a'r ddeddfwriaeth diweddaraf
- Gwerthoedd Trosglwyddo Ariannol Cyfatebol (CETV)
- Trefniadau penodol i'r diwydiant sy'n briodol ar gyfer eich sefydliad, megis rheolau Clwb Trosglwyddo Sector Cyhoeddus
- Y gwahaniaeth rhwng rhoi cyngor ariannol a darparu gwybodaeth i aelodau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn sensitif i ddiffyg arbenigedd technegol aelodau ac yn defnyddio eich greddf a'ch profiad i'w helpu i ddeall y materion yn llawn
- Rydych yn casglu ac yn rheoli gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon, yn foesegol a chan barchu cyfrinachedd
- Mae gennych ddealltwriaeth glir o gwmpas a therfynau eich awdurdod i wneud penderfyniadau
- Rydych yn nodi anghenion gwybodaeth cydweithwyr, cleientiaid ac eraill
- Rydych yn darparu gwybodaeth briodol i'r rhai sydd ag angen amdani ac sydd â hawl i'w derbyn
- Rydych yn cyflwyno gwybodaeth yn brydlon, yn glir, yn gryno ac yn gywir, ac mewn modd sy'n hybu dealltwriaeth
- Rydych yn chwilio am welliannau posibl ac yn cynnig llwybrau gweithredu sy'n amserol, yn briodol ac yn gyflawnadwy
- Rydych yn ymfalchïo yn ansawdd eich gwaith
- Rydych yn deall anghenion a chymhellion pobl eraill
- Rydych yn gweithio mewn modd proffesiynol, cydweithredol, gan gefnogi'ch gilydd
- Rydych yn rhoi sylw i fanylion sy'n hanfodol i'ch gwaith
- Rydych yn defnyddio arddulliau cyfathrebu sy'n briodol ar gyfer gwahanol bobl a sefyllfaoedd