Darparu gwybodaeth ar gais gan aelod o gynllun pensiwn neu gynrychiolydd yr aelod
URN: FSPPSA12
Sectorau Busnes (Suites): Gweinyddu Cynlluniau Pensiwn
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar:
01 Maw 2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â darparu gwybodaeth ar gais gan aelod o gynllun pensiwn neu gynrychiolydd yr aelod. Pan wneir cais gan gynrychiolydd yr aelod, rhaid i chi gadarnhau pwy ydynt a'u statws, a phenderfynu a oes ganddynt hawl i dderbyn gwybodaeth o'r fath. Ar ôl nodi'r wybodaeth angenrheidiol yn gywir, rhaid i chi ei darparu o fewn y terfynau amser gofynnol a'i chofnodi'n gywir yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad. Os na fedrwch ddarparu'r wybodaeth, rhaid i chi gyfeirio'r aelod neu gynrychiolydd yr aelod at ffynhonnell arall. Rhaid i chi sicrhau bod gofynion cyfrinachedd cleientiaid a diogelu data yn cael eu cynnal bob amser.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Cadarnhau pwy yw'r aelod/cynrychiolydd yr aelod sy'n gwneud cais am wybodaeth a'i statws
- Penderfynu a oes hawl gan yr aelod/cynrychiolydd yr aelod i gael gwybodaeth o'r fath, yn unol â gofynion cyfrinachedd cleientiaid a diogelu data
- Nodi'n gywir yr wybodaeth y mae ei hangen ar yr aelod/ gynrychiolydd yr aelod
- Darparu gwybodaeth sy'n gywir ac yn berthnasol i anghenion yr aelod neu'r cynrychiolydd oddi mewn i'r terfynau amser gofynnol
- Ymchwilio i unrhyw fylchau neu anghysondebau yn yr wybodaeth a gawsoch a'u datrys
- Penderfynu ar y terfynau amser pryd y byddwch yn gallu ymateb i ymholiadau
- Cyfeirio'r aelod neu'r cynrychiolydd at ffynhonnell amgen a all ddarparu'r wybodaeth y gofynnwyd amdani yn gywir, pan na fedrwch ymateb yn uniongyrchol i ymholiadau
- Cofnodi'n gywir yr wybodaeth yr ydych wedi'i darparu
- Cwblhau'r holl weithdrefnau mewnol yn gywir ac yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Yr angen am sicrhau bod dilysu a gwirio wedi digwydd, a'r dulliau o wneud hynny
- Meini prawf cymhwyster er mwyn i gynrychiolydd aelod wneud cais am wybodaeth
- Y mathau o wybodaeth y gellir gofyn amdanynt
- Rheoliadau datgelu a'r terfynau amser gofynnol
- Pa effaith mae deddfwriaeth gyfredol yn ei chael ar yr wybodaeth y gallwch ei darparu
- Sut mae datrys unrhyw anghysondebau neu fylchau mewn gwybodaeth
- Yr angen am gyfrinachedd cleientiaid a chadw cofnodion yn ddiogel
- Pa effaith bydd contractio allan yn ei chael ar yr wybodaeth
- Y ddeddfwriaeth berthnasol gan gynnwys y polisïau, y gweithdrefnau a'r ddeddfwriaeth diweddaraf
- Strwythur gweithrediadol eich sefydliad, gan gynnwys sut rydych chi'n gweithio mewn perthynas ag adrannau eraill, a'i weithdrefnau gan gynnwys cytundebau lefel gwasanaeth cleientiaid
- Y gwahaniaeth rhwng rhoi cyngor ariannol a darparu gwybodaeth i'r aelod
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn sensitif i ddiffyg arbenigedd technegol aelodau ac yn defnyddio eich greddf a'ch profiad i'w helpu i ddeall y materion yn llawn
- Rydych yn casglu ac yn rheoli gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon, yn foesegol a chan barchu cyfrinachedd
- Mae gennych ddealltwriaeth glir o gwmpas a therfynau eich awdurdod i wneud penderfyniadau
- Rydych yn nodi anghenion gwybodaeth cydweithwyr, cleientiaid ac eraill
- Rydych yn darparu gwybodaeth briodol i'r rhai sydd ag angen amdani ac sydd â hawl i'w derbyn
- Rydych yn cyflwyno gwybodaeth yn brydlon, yn glir, yn gryno ac yn gywir, ac mewn modd sy'n hybu dealltwriaeth
- Rydych yn chwilio am welliannau posibl ac yn cynnig llwybrau gweithredu sy'n amserol, yn briodol ac yn gyflawnadwy
- Rydych yn ymfalchïo yn ansawdd eich gwaith
- Rydych yn deall anghenion a chymhellion pobl eraill
- Rydych yn gweithio mewn modd proffesiynol, cydweithredol, gan gefnogi'ch gilydd
- Rydych yn rhoi sylw i fanylion sy'n hanfodol i'ch gwaith
- Rydych yn defnyddio arddulliau cyfathrebu sy'n briodol ar gyfer gwahanol bobl a sefyllfaoedd
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Partneriaeth Sgiliau Ariannol
URN gwreiddiol
PSA12
Galwedigaethau Perthnasol
Clercod pensiynau ac yswiriant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Cynllun pensiwn; aelod; cynrychiolydd aelod