Prosesu cwynion ac anghydfodau ynghylch cynlluniau pensiwn
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â phrosesu cwynion ac anghydfodau ynghylch cynlluniau pensiwn. Ar ôl cydnabod cŵyn yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad, a all gynnwys cyflwyno llythyr gohirio, rhaid i chi nodi ac asesu natur a difrifoldeb cŵyn ac ymchwilio iddi yn unol â rheolau'r cynllun a rheolau cyfreithiol, gan roi sylw hefyd i sut gallai unrhyw faterion anodd neu sensitif effeithio ar eich ymchwiliad. Rhaid i chi hysbysu'r achwynydd ynghylch y penderfyniad y daethoch iddo, gan roi cyngor ar unrhyw opsiynau pellach sydd ar gael iddynt, a chadw mewn cysylltiad fel sy'n briodol â'r rheoleiddiwr a'u gweithdrefnau datrys anghydfod os caiff cŵyn ei hesgaladu. Rhaid i chi adolygu gweithdrefnau eich sefydliad yn dilyn eich profiad a diweddaru'r cwynion neu'r gofrestr anghydfodau yn unol â gofynion sefydliadol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Cydnabod a chofnodi derbyn cwynion, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Nodi ac asesu natur a difrifoldeb cwynion a sut mae delio gyda hynny, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Hysbysu achwynwyr ynghylch gweithdrefnau eich sefydliad wrth ddelio gyda chwynion, a'r terfynau amser, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cyflwyno llythyr gohirio os na ellir datrys cwynion o fewn y terfynau amser gofynnol, neu os ceir oedi, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Ymchwilio i gwynion yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad ac yn unol â'r gofynion statudol a pherthnasol ar gyfer cynlluniau pensiwn
- Hysbysu achwynwyr ynghylch penderfyniadau a wnaed, a'u hysbysu ynghylch unrhyw opsiynau pellach sydd ar gael iddynt, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cysylltu â rheoleiddwyr pan gaiff cwynion eu hesgaladu, yn unol â gweithdrefnau datrys anghydfod rheoleiddwyr
- Adolygu gweithdrefnau eich sefydliad i ganfod a oes angen gwelliannau
- Diweddaru'r gofrestr cwynion neu anghydfodau pan gaiff cŵyn ei hesgaladu
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Sut mae adnabod rheoliadau gor-redol yn achos cwynion neu anghydfodau
- Gwahanol gamau yn y weithdrefn gwynion, gan gynnwys esgaladu cwynion i anghydfodau
- Yr amgylchiadau mae angen eu hystyried yng nghyswllt unrhyw faterion anodd neu sensitif, a sut gallent effeithio ar eich ymchwiliadau
- Pa gyrff allanol sy'n gallu bod yn rhan o'r broses a'r rolau a all fod ganddynt (gan gynnwys Y Rheoleiddiwr Pensiynau, yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol, yr Ombwdsmon Pensiynau, y Broses o Ddatrys Anghydfodau Mewnol a'r Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol)
- Yr angen am ddarparu gwybodaeth reolaidd i achwynwyr a'r gweithdrefnau ar gyfer gwneud hynny
- Y terfynau amser sefydliadol a chyfreithiol wrth ddelio gyda chwynion ac anghydfodau
- Monitro cwynion gan y cyrff rheoleiddio yn eu tro, ac effaith bosibl hynny ar allu sefydliad i gyflawni dosbarthiadau o fusnes
- Y terfynau amser sy'n ofynnol ar gyfer gweithredu, a chanlyniadau peidio â chydymffurfio
- Y ddeddfwriaeth berthnasol gan gynnwys y polisïau, y gweithdrefnau a'r ddeddfwriaeth diweddaraf
- Strwythur gweithrediadol eich sefydliad, gan gynnwys ei weithdrefnau a sut rydych chi'n gweithio mewn perthynas ag adrannau eraill
- Pwysigrwydd adolygu gweithdrefnau eich sefydliad yn dilyn cwynion, gan gynnwys diweddaru'r cwynion neu'r gofrestr
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn sensitif i ddiffyg arbenigedd technegol aelodau ac yn defnyddio eich greddf a'ch profiad i'w helpu i ddeall y materion yn llawn
- Rydych yn casglu ac yn rheoli gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon, yn foesegol a chan barchu cyfrinachedd
- Mae gennych ddealltwriaeth glir o gwmpas a therfynau eich awdurdod i wneud penderfyniadau
- Rydych yn nodi anghenion gwybodaeth cydweithwyr, cleientiaid ac eraill
- Rydych yn darparu gwybodaeth briodol i'r rhai sydd ag angen amdani ac sydd â hawl i'w derbyn
- Rydych yn cyflwyno gwybodaeth yn brydlon, yn glir, yn gryno ac yn gywir, ac mewn modd sy'n hybu dealltwriaeth
- Rydych yn chwilio am welliannau posibl ac yn cynnig llwybrau gweithredu sy'n amserol, yn briodol ac yn gyflawnadwy
- Rydych yn ymfalchïo yn ansawdd eich gwaith
- Rydych yn deall anghenion a chymhellion pobl eraill
- Rydych yn gweithio mewn modd proffesiynol, cydweithredol, gan gefnogi'ch gilydd
- Rydych yn rhoi sylw i fanylion sy'n hanfodol i'ch gwaith
- Rydych yn defnyddio arddulliau cyfathrebu sy'n briodol ar gyfer gwahanol bobl a sefyllfaoedd