Prosesu asedau pensiwn adeg ysgariad
URN: FSPPSA10
Sectorau Busnes (Suites): Gweinyddu Cynlluniau Pensiwn
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar:
2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â phrosesu asedau pensiwn adeg ysgariad. Ar ôl dilysu hunaniaeth y person(au) sy'n gwneud y cais am wybodaeth, rhaid i chi sicrhau bod modd gweithredu'r debydau ysgariad a chyfrifo'n gywir Werth Trosglwyddo Ariannol Cyfatebol (CETV) yr aelod. Ar ôl caffael unrhyw wybodaeth bellach sy'n angenrheidiol, a all alw am ailgyfrifo'r CETV, rhaid i chi weithredu'r debydau ysgariad oddi mewn i reolau'r cynllun, amgylchiadau'r aelod a'r gweithdrefnau mewnol. Rhaid cyflwyno hysbysiad rhyddhau atebolrwydd i'r aelod a rhoi gwybod i adran berthnasol y llywodraeth, fel sy'n briodol. Rhaid diweddaru cofnodion yr aelod hefyd, yn unol â hynny.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Cadarnhau hunaniaeth y rhai sy'n gwneud cais am wybodaeth, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Gwirio bod modd gweithredu ynghylch debydau ysgariad, gan gyfeirio at Hysbysiad y Cais, y Datganiad Ariannol
a'r Ffurflen Ymholiad Pensiwn fel sy'n briodol - Cyfrifo Gwerth Trosglwyddo Ariannol Cyfatebol (CETV) yr aelod, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Darparu gwybodaeth berthnasol i aelodau neu berson awdurdodedig, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Casglu ac adolygu'r holl wybodaeth gan y parti/partïon priodol fel bod modd rhoi debydau ysgariad ar waith yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Ceisio sicrhau taliadau gweinyddiaeth, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Gwirio a oes angen ailgyfrifo'r CETV o ganlyniad i wybodaeth a gafwyd, neu a oes angen adennill unrhyw ordaliadau, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Rhoi debydau ysgariad ar waith oddi mewn i reolau'r cynllun, amgylchiadau'r aelod a gweithdrefnau mewnol
- Cyflwyno hysbysiad rhyddhau atebolrwydd i aelodau ac
unrhyw un arall sydd â hawl i'w dderbyn yn unol â
gweithdrefnau eich sefydliad - Hysbysu adrannau perthnasol y llywodraeth, lle bo hynny'n briodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Diweddaru cofnodion aelodau i adlewyrchu'r camau a gymerwyd, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Yr angen am sicrhau bod dilysu a gwirio wedi digwydd, a'r dulliau o wneud hynny
- Y gweithdrefnau mewnol y mae angen i chi eu dilyn a'r cofnodion y mae angen eu diweddaru
- Pa wybodaeth sy'n gallu cael ei darparu i bwy
- Sut defnyddir debydau ysgariad i ddelio gydag asedau pensiwn
- Y terfynau amser sy'n ofynnol ar gyfer gweithredu, gan gynnwys y terfynau amser statudol, a chanlyniadau peidio â chydymffurfio
- Y mathau o ddogfennaeth y gellir eu derbyn, a sut mae gwirio bod yr wybodaeth a dderbyniwyd yn dderbyniol ac yn gyflawn
- Sut mae defnyddio dulliau cyfrifo ac ailgyfrifo yn gywir, ac arferion safonol fel sy'n briodol
- Sut mae rhoi debydau ysgariad ar waith
- Y rheoliadau sy'n ymwneud ag ysgariad a'r gwahaniaethau o ran cyfraith ysgariad rhwng Cymru a Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
- Sut mae cymhwyso gofynion statudol a pherthnasol o ran cynlluniau pensiwn, gan gynnwys contractio allan
- Y ddeddfwriaeth berthnasol, gan gynnwys y polisïau, y gweithdrefnau a'r ddeddfwriaeth diweddaraf
- Y gwahaniaeth rhwng rhoi cyngor ariannol a darparu gwybodaeth i aelodau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn sensitif i ddiffyg arbenigedd technegol aelodau ac yn defnyddio eich greddf a'ch profiad i'w helpu i ddeall y materion yn llawn
- Rydych yn casglu ac yn rheoli gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon, yn foesegol a chan barchu cyfrinachedd
- Mae gennych ddealltwriaeth glir o gwmpas a therfynau eich awdurdod i wneud penderfyniadau
- Rydych yn nodi anghenion gwybodaeth cydweithwyr, cleientiaid ac eraill
- Rydych yn darparu gwybodaeth briodol i'r rhai sydd ag angen amdani ac sydd â hawl i'w derbyn
- Rydych yn cyflwyno gwybodaeth yn brydlon, yn glir, yn gryno ac yn gywir, ac mewn modd sy'n hybu dealltwriaeth
- Rydych yn chwilio am welliannau posibl ac yn cynnig llwybrau gweithredu sy'n amserol, yn briodol ac yn gyflawnadwy
- Rydych yn ymfalchïo yn ansawdd eich gwaith
- Rydych yn deall anghenion a chymhellion pobl eraill
- Rydych yn gweithio mewn modd proffesiynol, cydweithredol, gan gefnogi'ch gilydd
- Rydych yn rhoi sylw i fanylion sy'n hanfodol i'ch gwaith
- Rydych yn defnyddio arddulliau cyfathrebu sy'n briodol ar gyfer gwahanol bobl a sefyllfaoedd
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Partneriaeth Sgiliau Ariannol
URN gwreiddiol
FSPPSA10
Galwedigaethau Perthnasol
Clercod pensiynau ac yswiriant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Pensiwn; asedau; ysgariad