Derbyn a phrosesu cofnodion aelodau newydd
URN: FSPPSA1
Sectorau Busnes (Suites): Gweinyddu Cynlluniau Pensiwn
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar:
01 Maw 2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â derbyn a phrosesu cofnodion aelodau newydd. Ar ôl derbyn awdurdod priodol i greu neu ddiweddaru cofnodion aelodau newydd, rhaid i chi gasglu'r holl wybodaeth sy'n ofynnol, gan ddatrys unrhyw fylchau neu anghysondebau yn y manylion a chadw mewn cysylltiad â chyrff allanol fel sy'n briodol i roi sylw i unrhyw ddiffygion. Rhaid i chi fewnbynnu'n gywir holl fanylion cymhwystra derbyn aelodau newydd a'u dosbarthu'n gywir, yn unol â thelerau'r cynllun pensiwn arfaethedig sy'n berthnasol iddyn nhw. Rhaid hysbysu'r aelodau newydd ynghylch eu statws pensiynadwy a'u hawliau optio allan neu ganslo.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Derbyn awdurdod ar gyfer aelodau newydd cyn i'w cofnodion gael eu creu neu eu diweddaru, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Casglu'r wybodaeth sy'n ofynnol i brosesu cofnodion aelodau newydd, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Ymchwilio i unrhyw fylchau neu anghysondebau ym manylion aelodau newydd a'u datrys, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cysylltu â chyrff allanol i ymdrin ag unrhyw ddiffygion yn yr wybodaeth am gofnodion aelodau newydd, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Dosbarthu pob aelod newydd yn unol â thelerau'r cynllun pensiwn arfaethedig sy'n berthnasol iddynt
- Mewnbynnu'r holl fanylion personol sy'n ofynnol gan y sefydliad i gofnodion aelodau newydd, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Hysbysu aelodau newydd ynghylch eu statws pensiynadwy oddi mewn i'r terfynau amser gofynnol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Hysbysu aelodau newydd ynghylch eu hawliau optio allan neu ganslo, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Yr angen am sicrhau bod dilysu a gwirio wedi digwydd, a'r dulliau o wneud hynny
- Y gweithdrefnau mewnol y mae angen i chi eu dilyn er mwyn creu a diweddaru cofnodion aelodau
- Sut mae cymhwyso gofynion statudol a pherthnasol o ran cynlluniau pensiwn, gan gynnwys contractio allan
- Sut mae dilysu data aelodau o ran cyflawnder a phriodoldeb
- Sut mae datrys unrhyw anghysondebau neu fylchau mewn gwybodaeth
- Cymhwyso polisïau, ymarfer a gweithdrefnau ar gyfer llofnodwyr ac achosion o awdurdodi
- Y terfynau amser sy'n ofynnol ar gyfer gweithredu, a chanlyniadau peidio â chydymffurfio
- Y ddeddfwriaeth berthnasol gan gynnwys unrhyw ofynion cyfreithiol perthnasol a'r polisïau, y gweithdrefnau a'r ddeddfwriaeth diweddaraf
- Y meini prawf cymhwyster, y dogfennau sy'n ofynnol, a'r broses ymuno ar gyfer cynllun pensiwn
- Y gwahaniaeth rhwng rhoi cyngor ariannol a darparu gwybodaeth i'r aelod
- Yr angen am sicrhau cyfrinachedd cleientiaid a chadw cofnodion yn ddiogel
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn sensitif i ddiffyg arbenigedd technegol aelodau ac yn defnyddio eich greddf a'ch profiad i'w helpu i ddeall y materion yn llawn
- Rydych yn casglu ac yn rheoli gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon, yn foesegol a chan barchu cyfrinachedd
- Mae gennych ddealltwriaeth glir o gwmpas a therfynau eich awdurdod i wneud penderfyniadau
- Rydych yn nodi anghenion gwybodaeth cydweithwyr, cleientiaid ac eraill
- Rydych yn darparu gwybodaeth briodol i'r rhai sydd ag angen amdani ac sydd â hawl i'w derbyn
- Rydych yn chwilio am welliannau posibl ac yn cynnig llwybrau gweithredu sy'n amserol, yn briodol ac yn gyflawnadwy
- Rydych yn ymfalchïo yn ansawdd eich gwaith
- Rydych yn deall anghenion a chymhellion pobl eraill
- Rydych yn gweithio mewn modd proffesiynol, cydweithredol, gan gefnogi'ch gilydd
- Rydych yn rhoi sylw i fanylion sy'n hanfodol i'ch gwaith
- Rydych yn defnyddio arddulliau cyfathrebu sy'n briodol ar gyfer gwahanol bobl a sefyllfaoedd
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Partneriaeth Sgiliau Ariannol
URN gwreiddiol
FSPPSA1
Galwedigaethau Perthnasol
Clercod pensiynau ac yswiriant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Gweinyddu cynlluniau pensiwn; cofnodion aelodau newydd; derbyn a phrosesu gweinyddiaeth