Tansgrifennu addasiadau cymhleth i gontractau bywyd, pensiynau a buddsoddi
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â thansgrifennu addasiadau cymhleth i gontractau bywyd, pensiynau a buddsoddi. Bydd eich gwaith yn ymwneud â delio gyda cheisiadau gan gleientiaid am addasiadau cymhleth i gontractau presennol. Mae addasiad yn un cymhleth os nad yw'n fater o drefn ac yn gallu cael ei wneud yn fecanyddol. Pan fyddwch chi'n derbyn cais am addasiad, mae'n rhaid i chi sicrhau bod yr wybodaeth a ddarparwyd gan y cwsmer yn gyflawn ac yn gywir. Byddwch yn gofyn am unrhyw wybodaeth bellach y gallai fod arnoch ei hangen, ac yn penderfynu a yw'r addasiad yn dderbyniol. Os yw'r addasiad arfaethedig yn dderbyniol, byddwch yn cymhwyso'r telerau a'r amodau safonol ac ansafonol ac yn hysbysu'r cwsmer ynghylch eich penderfyniad. Bydd angen i chi ddefnyddio gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon ac yn foesegol, gan roi sylw i fanylion sy'n hollbwysig i'ch gwaith.
Efallai bydd y safon hon
yn addas i chi os ydych chi'n gweithio i yswiriwr neu ddarparwr cynnyrch arall,
neu ar eu rhan.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Delio gyda cheisiadau am addasiadau cymhleth, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Gwirio bod gennych chi fanylion digonol ynghylch yr addasiad i'ch galluogi i symud ymlaen
- Ceisio eglurhad gan gleientiaid ynghylch gwybodaeth sy'n aneglur neu'n anghyflawn
- Penderfynu a ellir derbyn ceisiadau am addasiadau yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cymhwyso'r holl feini prawf tansgrifennu, gan gynnwys telerau ac amodau safonol ac ansafonol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cyfeirio unrhyw gais sydd y tu allan i'ch awdurdod at y bobl briodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Hysbysu cleientiaid ynghylch y telerau a'r amodau a fydd yn berthnasol, os yw'r addasiad yn dderbyniol
- Cadw cofnodion cyflawn wedi'u diweddaru yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Yr egwyddorion a'r rheoliadau cyfreithiol perthnasol sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
- Strwythur y farchnad yswiriant a sicrwydd a rolau a chyfrifoldebau'r amrywiol bartïon sy'n rhan ohoni sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
- Safonau a gweithdrefnau gwasanaeth cwsmeriaid eich sefydliad, gan gynnwys delio gyda chwynion
- Ffynonellau cyngor a gwybodaeth yn y gwaith
- Systemau a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cofnodi ac addasu gwybodaeth
- Yr yswiriant sy'n cael ei ddarparu gan y polisïau rydych chi'n delio gyda nhw, gan gynnwys estyniadau a chyfyngiadau safonol ac ansafonol
- Polisi a gweithdrefnau eich sefydliad ynghylch cyfathrebu â chwsmeriaid
- Yr wybodaeth neu'r ddogfennaeth sy'n ofynnol i dansgrifennu addasiadau i gontractau presennol
- Terfynau eich awdurdod a'r camau sy'n ofynnol i dansgrifennu risg y tu allan i'ch awdurdod
- Sut mae cymhwyso meini prawf tansgrifennu gan ddefnyddio telerau ac amodau safonol ac ansafonol
- Y camau sy'n ofynnol os nad yw addasiad yn bodloni'r meini prawf derbyn
- Systemau a gweithdrefnau ar gyfer cyrchu ac addasu gwybodaeth. Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn wyliadwrus ynghylch risgiau posibl
- Rydych yn arddangos dealltwriaeth o bobl eraill ac yn delio gyda nhw mewn modd proffesiynol
- Rydych yn darparu gwybodaeth i'r rhai sydd ei hangen ac sydd â hawl i'w derbyn yn unig