Tansgrifennu dyfynbrisiau ar gyfer busnes bywyd, pensiynau a buddsoddi newydd cymhleth
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â phrosesu dyfynbrisiau uniongyrchol ar gyfer busnes bywyd, pensiynau a buddsoddi newydd. Mae cais yn un cymhleth os nad yw'n fater o drefn ac yn gallu cael ei wneud yn fecanyddol. Byddwch yn delio gyda cheisiadau safonol ac ansafonol, gan benderfynu a ydynt yn dderbyniol. Byddwch yn gwirio bod gennych chi'r holl wybodaeth angenrheidiol i asesu'r risg, cymhwyso telerau ac amodau priodol, a hysbysu'r cwsmer ynghylch y penderfyniad. Bydd angen i chi ddefnyddio gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon ac yn foesegol, gan roi sylw i fanylion sy'n hollbwysig i'ch gwaith.
Efallai bydd y safon hon yn addas i chi os ydych chi'n gweithio i yswiriwr neu ddarparwr cynnyrch arall, neu ar eu rhan.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Gwirio bod gennych chi fanylion digonol ynghylch y cais i'ch galluogi i symud ymlaen
- Prosesu ceisiadau ar gyfer risgiau cymhleth yn brydlon a bwydo gwybodaeth gywir a chyflawn i'r systemau priodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Gwirio gwybodaeth anghyflawn neu anghyson gyda chwsmeriaid, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Ymgynghori ag arbenigwyr os bydd angen gwneud hynny, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cymhwyso meini prawf tansgrifennu, gan gynnwys telerau ac amodau safonol ac ansafonol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Rhoi gwybod i gwsmeriaid beth yw'r telerau a'r amodau
- Trefnu bod dogfennau'n cael eu cyflwyno, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Gwirio bod y bobl berthnasol yn cymryd y camau dilynol ar ôl pob dyfynbris
- Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Yr egwyddorion a'r rheoliadau cyfreithiol perthnasol sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
- Strwythur y farchnad yswiriant a sicrwydd a rolau a chyfrifoldebau'r amrywiol bartïon sy'n rhan ohoni sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
- Safonau a gweithdrefnau gwasanaeth cwsmeriaid eich sefydliad, gan gynnwys delio gyda chwynion
- Ffynonellau cyngor a gwybodaeth yn y gwaith
- Yr yswiriant sy'n cael ei ddarparu gan y polisïau rydych chi'n delio gyda nhw, gan gynnwys estyniadau a chyfyngiadau safonol ac ansafonol
- Polisi a gweithdrefnau eich sefydliad ynghylch cyfathrebu â chwsmeriaid
- Cwestiynau safonol ac ansafonol ynghylch ceisiadau neu ymholiadau, ac atebion derbyniol
- Terfynau eich awdurdod a'r camau sy'n ofynnol i dansgrifennu risg y tu allan i'ch awdurdod
- Sut mae cymhwyso meini prawf tansgrifennu i risgiau safonol ac ansafonol
- Y camau sy'n ofynnol os nad yw cais neu ymholiad yn bodloni'r meini prawf derbyn
- Systemau a gweithdrefnau ar gyfer cofnodi a chyrchu gwybodaeth cwsmeriaid
- Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn arddangos dealltwriaeth o bobl eraill ac yn delio gyda nhw mewn modd proffesiynol
- Rydych yn darparu gwybodaeth i'r rhai sydd ei hangen ac sydd â hawl i'w derbyn yn unig
- Rydych yn gweithredu o fewn eich awdurdod